Ieithoedd Israel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arwydd yn Haifa yn y pedair prif iaith.

Gwlad amlieithog yw Israel, o ganlyniad i wreiddiau amrywiol yr Israeliaid, pobloedd gynhenid y wlad a'r niferoedd uchel o fewnfudwyr ers dechrau'r 20g. Hebraeg yw iaith ddyddiol yr Israeliaid Iddewig, sef tua 80% o'r boblogaeth. Fel rheol hon yw'r iaith gymunedol ond nid o reidrwydd iaith yr aelwyd gan deuluoedd o fewnfudwyr. Er bod nifer o fewnfudwyr yn parhau i siarad eu hiaith gyntaf, dysgir yr Hebraeg gan y mwyafrif helaeth o'r boblogaeth Iddewig gan roi ffordd o uno'r gymdeithas. Arabeg yw iaith frodorol yr Israeliaid Arabaidd, sy'n cyfrif am ryw 20% o ddinasyddion y wlad. Mae'r mwyafrif ohonynt yn byw mewn cymunedau Arabaidd ac yn defnyddio gwasanaethau llywodraethol drwy gyfrwng yr Arabeg, ac nid ydynt i gyd yn dysgu'r Hebraeg yn rhugl. Arabeg Safonol yw'r ffurf swyddogol, a siaredir y tafodieithoedd Arabeg y Lefant, Arabeg y Bedowiniaid, a'r Iddew-Arabeg.

Yr Hebraeg a'r Arabeg oedd ieithoedd swyddogol Israel ers 1923 yng nghyfnod y Mandad Prydeinig ym Mhalesteina. Roedd Saesneg hefyd yn iaith swyddogol hyd sefydlu'r wladwriaeth ym 1948. Yn 2018, cafodd Arabeg ei hisraddio gan ddeddf sydd yn dynodi Hebraeg yn "iaith y wladwriaeth" ac yn rhoi "statws arbennig" i Arabeg.[1] Dysgir Hebraeg, Arabeg a Saesneg gan blant ysgol yn Israel. Mae nifer o arwyddion swyddogol yn Hebraeg, Arabeg a Saesneg. Er y statws cyfartal rhwng dwy brif iaith y wlad, mae sefyllfa ieithyddol y maes cyhoeddus yn anghyson ac yn adlewyrchu'r anghydfod rhwng y cymunedau Iddewig ac Arabaidd.[2] Er enghraifft, mae gwleidyddion adain-dde sy'n bwriadu gwneud Hebraeg yn unig iaith swyddogol Israel.[3][4][5] Prin yw'r cwmnïau a sefydliadau preifat sy'n dewis defnyddio'r Arabeg,[6][7] ac nid yw pob arwydd ffordd yn ddwyieithog neu gâi'r enwau Arabeg eu Hebreiddio.[8][9][10] Mae'n rhaid i fyfyrwyr fedru'r Hebraeg er mwyn mynychu'r brifysgol yn Israel.

Yn ogystal â'r ddwy iaith swyddogol, mae rhan sylweddol o'r boblogaeth yn medru'r Saesneg, a lleiafrif sy'n rhugl yn y Rwseg. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, ymfudodd dros un miliwn o Iddewon o Rwsia a chyn-weriniaethau Sofietaidd eraill i Israel. Mae nifer o arwyddion a dogfennau swyddogol ar gael yn y Rwseg. Siaredir yr Amhareg gan fewnfudwyr o Ethiopia. Parheir rhai cymunedau i ddefnyddio ieithoedd Iddewig megis Iddew-Sbaeneg (Ladino), Iddew-Almaeneg, Iddew-Tateg ac Iddew-Georgeg. Ymhlith yr ieithoedd eraill mae Almaeneg, Sbaeneg, Rwmaneg, Pwyleg, Hwngareg, a'r Adyghe (Circaseg orllewinol).[11][12] Siaredir Ffrangeg gan nifer o Israeliaid o dras Rwmanaidd, Morocaidd, Algeraidd, a Thiwnisaidd.

Iaith Arwyddion Israel, sy'n seiliedig ar Iaith Arwyddion yr Almaen, yw'r brif iaith arwyddion. Ceir hefyd ieithoedd arwyddion lleol, hynny yw ieithoedd mewn cymunedau a chanddynt niferoedd uchel o drigolion sy'n fyddar: Iaith Arwydd y Bedwyn Al-Sayyid, Iaith Arwydd Kafr Qasem, ac Iaith Arwydd Ghardaia (sy'n hanu o ddinas Ghardaia yn Algeria).

Adfywiad yr Hebraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Iaith litwrgïaidd oedd yr Hebraeg ar ddechrau'r 20g, a ddefnyddid mewn gweddi, yn y synagog ac ar achlysuron yn unig. Yn sgil y mudiad Seoinaidd i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, cynyddodd cefnogaeth dros adfer yr Hebraeg yn iaith genedlaethol i'r Iddewon. Arweiniodd y ieithydd o dras Lithwanaidd, Eliezer Ben-Yehuda, yr ymdrech hon. Llwyddodd i gyfundrefnu'r ramadeg, ysgrifennu'r geiriadur cyfoes cyntaf, a bathu nifer o eiriau modern. Ystyrir hanes y Hebraeg Modern yn un o straeon llwyddiant adfer iaith.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Jewish nation state: Israel approves controversial bill", BBC (19 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2018.
  2. (Saesneg) Muhammad Amara (Hydref 2006). The Vitality of the Arabic Language in Israel from a Sociolinguistic Perspective. Adalah's Newsletter. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  3. (Saesneg) Shahar Ilan (19 Mai 2008). MKs: Make Hebrew the Only Official Language. Haaretz. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  4. (Saesneg) Jonathan Lis (25 Awst 2014). Right-wing MKs Aim to Make Hebrew Israel’s Only Official Language. Haaretz. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  5. (Saesneg) Liel Leibovitz (12 Medi 2014). Should Hebrew Be Israel's Official Language? Has It Ever Been?. Tablet. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  6. (Saesneg) Umar Al-Ghubari (22 Tachwedd 2015). How Israel erases Arabic from the public landscape. +972. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  7. (Saesneg) Issa Edward Boursheh (26 Ionawr 2012). Is Arabic truly an official language in Israel?. +972. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  8. (Saesneg) Asher Shafrir. "Language Policy in Israel in the 21st century: The Case of Arabic in Public Space" (Prifysgol Tel Aviv, Mehefin 2012).
  9. (Saesneg) Row over 'standard' Hebrew signs. BBC (13 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  10. (Saesneg) Jonathan Cook (17 Gorffennaf 2009). Israel’s plan to wipe Arabic names off the map. The Electronic Intifada. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  11. (Saesneg) Israel - Status. Ethnologue. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.
  12. (Saesneg) Israel - Languages. Ethnologue. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2016.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bernard Spolsky ac Elana Shohamy. The Languages of Israel: Policy, Ideology, and Practice (Clevedon, Multilingual Matters, 1999).