Neidio i'r cynnwys

Idioffon

Oddi ar Wicipedia
Idioffon
Enghraifft o:dosbarth o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Mathofferyn cerdd Edit this on Wikidata
Rhan oHornbostel–Sachs, Dosbarthiad MIMO o offerynnau cerdd, Dosbarthiad Guizzi o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyslithophone Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/011_my edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF2096 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Offeryn cerdd sy'n cynhyrchu sain drwy achosi i gorff yr offeryn ei hun ddirgrynu (yn hytrach na thant, pilen, neu golofn o aer) yw idioffon. Mae idioffonau yn un o'r prif ddosbarthiadau yn system Hornbostel–Sachs. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pob offeryn taro heblaw am drymiau.

Mathau

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhifau isod yn cyfeirio at y dosbarthiad yn system Hornbostel-Sachs.

  • 11: Idioffonau wedi'u taro
Offerynnau sy'n cael eu gwneud i ddirgrynu wrth gael eu taro, er enghraifft symbalau neu seiloffon
    • 111: Idioffonau wedi'u taro'n uniongyrchol
Offerynnau sy'n derbyn ergydion clir, unigol gan y chwaraewr, naill ai â llaw neu gan ddefnyddio dyfeisiau canolradd fel ffon, allweddell neu raff
    • 112: Idioffonau wedi'u taro'n anuniongyrchol
Nid y chwaraewr sy'n taro; y sain yw canlyniad rhyw symudiad arall gan y chwaraewr.
      • 112.1: Idioffonau wedi'u hysgwyd (neu ruglenni)
      • 112.2: Idioffonau wedi'u crafu
      • 112.3: Idioffonau hollt
  • 12: Idioffonau wedi'u plycio (lameloffonau)
    • 121: Lameloffonau mewn ffurf ffrâm
    • 122: Lameloffonau mewn ffurf crib
    • 123: Setiau cymysg o lameloffonau
  • 13: Idioffonau ffrithiol
    • 131: Ffonau ffrithiol
    • 132: Placiau ffrithiol
    • 132: Llestri ffrithiol
    • 134: Setiau o idioffonau ffrithiol
  • 14: Idioffonau chwythedig
    • 141: Ffonau chwythedig
    • 142: Placiau chwythedig
    • 143: Setiau o idioffonau chwythedig
  • 15: Idioffonau diddosbarth

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]