Idan Amedi

Oddi ar Wicipedia
Idan Amedi
Y Cefndir
Ganwyd (1988-02-19) 19 Chwefror 1988 (36 oed)
Pisgat Ze'ev, Jeriwsalem
TarddiadIsrael
Math o GerddoriaethPop roc
GwaithCanwr, Actor
Cyfnod perfformio2010-presennol
LabelAroma Music
Perff'au eraillAmir Benayoun
Gwefanidanamedi.club/

Ganed Idan Amedi (Hebraeg: עידן עמדי), ar 19 Chwefror 1988 yn Pisgat Ze'ev, Jeriwsalem, Israel ac mae'n gyfansoddwr-canwr ac actor Hebraeg.

Yn 2006 cymerodd ran yn yr 8fed gyfres o'r gyfres gystadleuaeth gerddorol Israeli, Kokhav Nolad ('Ganed Seren'), gan ddod yn ail.[1] Roedd ei gân "Poen yr Ymladdwyr"[2] wedi ei gyfansoddi ganddo am ei brofiadau fel milwr gweithredol yn Corfflu Peirianwyr Milwr yn ystod ei Wasaaeth Filwrol gorfodol. Rhyddhaodd ei albwm gyntaf, a enwyd ar ei ôl, yn 2011. Roedd yn arbenigwr ar ymladd Taekwondo a Bocsio Thai.

Yn 2017 ymunodd ag ail gyfres o'r ddrama wleidyddol Israeli, Fauda.[3] Chwaraeodd ran 'Sagi', Arab sy'n ymuno â'r uned milwyr-cudd. Cyfansoddodd Amedi y gân i'r gyfres, מנסים (ynganer: Menasim, 'Ceisio') yn Hebraeg. Mae'r gân yn cynnwys geiriau yn Hebraeg ac Arabeg.[4]

Mae aelod arall o gast Fauda hefyd yn cyfansoddi a chanu, Tzachi HaLevy.

Discograffi[golygu | golygu cod]

  • Idan Amedi (2011)
  • Lately (2013)
  • Wanted to Be (2015))
  • A Part-Time (Helek Me'hazman) (2017)

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]