Iawndal esiamplaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Iawndal nad yw'n digolledu y mae'r llysoedd yn ei ddyfarnu er mwyn cyfleu anghymeradwyaeth o weithredoedd y camweddwr ac i rwystro a chosbi ymddygiad o'r fath yw Iawndal esiamplaidd. Fe'i gelwir hefyd yn iawndal cosbedigol.

Daw'r gosodiad mwyaf awdurdodol ar iawndal esiamplaidd oddi wrth yr Arglwydd Devlin yn Rookes v Barnard [1964] AC 1129 (yn 1203, et seq.), lle mae iawndal o'r fath i gael ei ddyfarnu mewn achosion o weithredu gormesol, mympwyol neu anghyfansoddiadol gan weision y llywodraeth; ymddygiad anghywir gan y diffynnydd gyda'r bwriad o wneud elw; ac unrhyw achos lle mae statud yn awdurdodi dyfarniad o'r fath. Dadleuwyd yn gryf nad oes lle iddynt, neu le cyfyngedig iawn yn unig, mewn achosion sifil, ac fe'u dyfernir yn unig mewn achosion eithriadol ac am symiau eithaf cymhedrol – gw.Kuddus v Chief Constable of Leicestershire [2002] 2 AC 122.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]