Ian Hallam
Ian Hallam | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1948 ![]() Basford ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol ![]() |
Taldra | 193 centimetr ![]() |
Pwysau | 71 cilogram ![]() |
Chwaraeon |
Seiclwr rasio o Loegr ydy Ian Hallam MBE (ganwyd 24 Tachwedd 1948).[1] Cynyrchiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1968, 1972 ac ym 1976.
Ganwyd Hallam ym Masford, Swydd Nottingham. Deintydd yw Hallam yn ôl ei alwedigaeth[2] ond dechreuodd rasio yn ifanc. Cafodd ganlyniadau da wrth rasio ar y ffordd, gan ddod yn drydydd yn y Lincoln GP yn 1969 ac 1970, wrth gynyrchioli Beeston RC.[3] Daeth yn drydydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain ym 1970 ac 1972.
Roedd yn aelod o'r tîm pursuit a enillodd fedal efydd ym 1972 ac eto yn 1976.[1] Enillodd hefyd ras goffa Eddie Soens yn 1976.[4]
Cystadlodd hefyd yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gynyrchioli Lloegr ac ennill y fedal aur yn y pursuit unigol ym 1970 ac 1974.[5]
Trodd Hallam yn reiclwr proffesiynol rhwng 1978 ac 1982 a cafodd ei noddi gan KP Crisps.
Roedd Hallam yn redio drost dîm Dataphonics yn ystod y nawdegau ynghyd a'i feibion, Ben a Duncan a oedd hefyd yn seiclwyr llwyddiannus.
Mae'n dal i gystadlu hyd heddiw, ac yn 2002 enillodd Bencampwriaethau Trac Meistri Ewrop yn y categori 50–54 oed, gan ennill y sbrint, pursuit, y treial amser a'r ras bwyntiau.[6] Ef hefyd oedd Pencampwr Pursuit Meistri'r Byd (50–54 oed) yn 2002 a 2003.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ian Hallam MBE : Olympic Record. British Olympic Association.
- ↑ 2.0 2.1 World Masters Track Championships - CMM. Cycling News (5–9 Medi 2000).
- ↑ THE LINCOLN GRAND PRIX CYCLE RACE (1956-2007) : A Race History by Mike Griffin.
- ↑ 47th Eddie Soens Memorial Cycle Race. British Cycling (1 Mawrth 2008).
- ↑ Cycling gold medallists. BBC (22 Mehefin 2002).
- ↑ European Masters Track Championships - 2002.