Neidio i'r cynnwys

Iaith destun

Oddi ar Wicipedia
Iaith destun
Enghraifft o:amrywiaeth iaith Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae iaith destun, iaith decstio neu iaith SMS yn slang ysgrifenedig sy'n bodoli mewn llawer o ieithoedd. Datblygodd yn y 1990au a'r 2000au oherwydd yr angen i anfon negeseuon testun cryno trwy ffonau symudol yn bennaf, a hefyd drwy stafelloedd sgwrsio a fforymau ar y Wê Fyd-Eang.

Roedd tecstio cynnar yn defnyddio SMS, technoleg a gwtogai'r nifer o lythrennau mewn neges i 160. Am fod rhaid talu am bob neges, roedd pwysau ar ddefnyddwyr i dalfyru geiriau a defnyddio geiriau byrrach.

Hanes a datblygiad

[golygu | golygu cod]

Cyn gynhared â'r 1890au, roedd negeseuon teligram – oedd yn codi tâl am am bob gair – yn defnyddio talfyriadau tebyg i iaith destun.[1]

Cyn dyfodiad SMS, roedd iaith destun fodern eisioes wedi dechrau datblygu o ieithoedd artiffisial eraill fel IRC, lle oedd byrfoddau fel BRB = Be Right Back ac emoticons (e.e. :-)) wedi ymddangos. Fodd bynnag, roedd iaith destun yn ddatblygiad rhyngwladol ac aml-ieithog a gyflymwyd trwy ledaeniad SMS. Datblygodd mewn ymateb i'r anhawster wrth ysgrifennu negeseuon gyda bysellbad ffonau symudol cynnar, trwy'r angen i greu negeseuon byrion i arbed amser, ac i greu iaith i'r ifanc fyddai'n anodd ei ddeall gan oedolion.[2]

Erbyn y 2010au roedd sawl un o'r ffactorau a greodd iaith destun wedi diflannu. Roedd geiriaduron auto-correct a bysellfyrddau cyflawn ffonau clyfar yn galluogi creu negeseuon yn fwy cyflym. Dechreuodd cytundebau ffonau symudol gynnig llawer o negeseuon testun am ddim. Roedd twf negesu dros y wê (drwy apiau fel WhatsApp) hefyd yn osgoi cyfyngiadau SMS ar hyd negeseuon.[3]

Serch hynny, mae iaith destun yn boblogaidd ac wedi mudo i ffurfiau eraill fel ebyst, hysbysebion ac ar lafar.

Cwtogi nifer y llythrennau/symbolau

[golygu | golygu cod]

I leihau hyd y neges, mae'n gyffredin hepgor rhai llythrennau. Llafariaid sy'n cael eu hepgor fel arfer, er enghraifft "Be wt t'n wnd hno?" (Beth wyt ti'n wneud heno?).

Un nodwedd o iaith destun Gymraeg yw'r defnydd o dafodiaith er mwyn manteisio ar ymadroddion sy'n fyrrach ac yn haws eu teipio: wsos ('wythnos'), dwimbo ('dydw i ddim yn gwybod'), sdim ('does dim'), wsti? ('wyddost ti?') ac yn y blaen.

Defnyddio llythyren yn lle gair

[golygu | golygu cod]

Yn Gymraeg, mae "t" yn gallu cael ei ddefnyddio yn lle "ti". Yn Ffrangeg mae "2" yn cael ei ddefnyddio yn lle tu ('ti') ac yn Saesneg mae "u" yn cael ei ddefnyddio yn lle you ('ti/chi'). Enghreifftiau Cymraeg arall yw defnyddio "fn" yn lle "fi'n", "tn" yn lle "ti'n", a weithiau (dan ddylanwad Saesneg), "vn" yn lle "fi'n".[4]

Byrfoddau

[golygu | golygu cod]
Prif: Byrfodd

Defnyddiwyd byrfoddau mewn iaith ffurfiol ers talwm (fel e.e. am er enghraifft; a.y.y.b am ac yn y blaen[5]). Mae nifer o'r rhein yn ymddangos mewn iaith destun, ynghŷd â llawer mwy o fyrfoddau a fathwyd o'r newydd.

Yn Gymraeg benthyciwyd llawer o fyrfoddau o'r Saesneg. Crëwyd eraill drwy gyfieithu. Mae byrfoddau eraill wedi eu creu mewn dull cyfochrog mewn sawl iaith oherwydd anghenion tebyg.

ByrfoddYmadrodd
CTLCaru ti lot / llawer / loads
DYFIDiolch yn fawr iawn
YOFYn ôl yn fuan
OMB O mam bach[6][7]
DYG (a) dweud y gwir[8]
AAB allan am beint[8]
CGAPH cyn gynted a phosibl[8]
LOL o'r Saesneg 'laugh out loud', ond wedi'i atgyfnerthu drwy gymhariaeth â'r gair Cymraeg lol 'hwyl, ffwlbri'[9]

Eiconau teimlad

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Emoji

Un o broblemau mawr negeseuon testun oedd methu deall cywair y neges a chamddeall bwriad yr ysgrifennwr. Ymtebodd negeseuwyr trwy ddefnyddio eiconau teimlad fel :-) "hapus", :-( "trist", <3 "caru", ac ati, i gyfleu mwy o ystyr mewn nifer bychan o lythrennau.[10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Stripped-down text speak is over 120 years old, research reveals". Metro UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-20. Cyrchwyd 2026-07-24.
  2. ↑ Crystal, David (Rhagfyr 2008 / Ionawr 2009). "Txting: frNd or foe?" (yn Saesneg). The Linguist: 8-11. https://www.davidcrystal.com/Files/BooksAndArticles/-4847.pdf.
  3. ↑ "Margins under pressure: WhatsApp generates three times more daily traffic than SMS". inform.tmforum.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-24.
  4. ↑ (Saesneg) Sgwrs ar iaith testun ar Forum Wales[dolen farw]
  5. ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2026-07-24.
  6. ↑ "DoctorCymraeg (@CymraegDoctor) on X". X (formerly Twitter) (yn Saesneg). 2021-07-04. Cyrchwyd 2026-07-24.
  7. ↑ "Gweinidog yn gweld sut mae £300,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu Geiriadur Prifysgol Cymru i ddiogelu'r Gymraeg | LLYW.CYMRU". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2026-07-24.
  8. 1 2 3 "Tecstio yn Gymraeg". SSi Forum. 17 Hydref 2025. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2026. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2026.
  9. ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2026-07-24.
  10. ↑ Harbeck, James. "Will we stop speaking and just text?". www.bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-24.