Iaith Arwyddion Prydain
Jump to navigation
Jump to search
Yr iaith arwyddion fwyaf poblogaidd gan bobl fyddar yn y DU yw Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg: British Sign Language neu BSL). Mae 125,000[1] o oedolion byddar yn y DU yn defnyddio'r iaith, yn ogystal â thua 20,000 o blant. Mae'r iaith yn defnyddio gofod a symudiad y dwylo, y corff, yr wyneb a'r pen i gyfathrebu. Mae miloedd o bobl nad ydynt yn fyddar hefyd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, megis perthnasau, cyfieithwyr, staff meddygol neu eraill sy'n ymwneud â'r gymuned fyddar.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ IPSOS Mori GP Patient Survey 2009/10