Iago ab Idwal ap Meurig
Iago ab Idwal ap Meurig | |
---|---|
Ganwyd | 974 ![]() |
Bu farw | 1039 ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Tad | Idwal ap Meurig ![]() |
Plant | Cynan ab Iago, Angharad ferch Iago ab Idwal, Crisli ferch Iago ab Idwal ap Meurig, Tangwystl ferch Iago ab Idwal ap Meurig ![]() |
Roedd Iago ab Idwal ap Meurig (974? — 1039) yn frenin Gwynedd.
Daeth Iago, oedd o linach Idwal Foel, yn frenin ar Wynedd ar farwolaeth Llywelyn ap Seisyll yn 1023. Felly dychwelodd llinach Rhodri Mawr i rym yng Ngwynedd, oherwydd ymddengys nad oedd Llywelyn ap Seisyll o'r llinach yma.
Yn ôl Llyfr Llandaf, dim ond ar Ynys Môn y teyrnasai Iago, gan fod Rhydderch ab Iestyn o Ddeheubarth yn teyrnasu ar ran o Wynedd.
Lladdwyd Iago gan ei ŵyr ei hun yn 1039, a dilynwyd ef gan fab Llywelyn ap Seisyll, Gruffydd ap Llywelyn.
Ymddengys i un o feibion Iago: Cynan ap Iago, ffoi i Iwerddon lle priododd â Ragnaillt o linach brenhinoedd Danaidd Dulyn. Pan ddychwelodd eu mab hwy, Gruffydd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, gan nad oedd ei dad yn adnabyddus yng Nghymru, cyfeirid ato fel "ŵyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan".
Llinach[golygu | golygu cod]
Llinach Tywysogion Gwynedd[golygu | golygu cod]
Iago ab Idwal ap Meurig c. 1023-1039 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynan ab Iago m. 1060 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Cynan 1055-1081-1137 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Gwynedd 1100-1137-1170 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hywel ab Owain Gwynedd r. 1170 | Iorwerth Drwyndwn 1145-1174 | Dafydd ab Owain Gwynedd Tywysog 1170-1195 | Maelgwn ab Owain Gwynedd Tywysog 1170-1173 | Rhodri ab Owain Gwynedd Tywysog 1170-1195 | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Llywelyn Fawr 1173-1195-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
O'i flaen : Llywelyn ap Seisyll |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Gruffudd ap Llywelyn |