Neidio i'r cynnwys

IRIS Dena

Oddi ar Wicipedia
IRIS Dena
Comisiynu'r IRIS Dena yn 2021.
Enghraifft o:ffrigad, llongddrylliad Edit this on Wikidata
GwladIran Edit this on Wikidata
Cyfressancsiynau rhyngwladol yn erbyn Iran Edit this on Wikidata
GweithredwrLlynges Gweriniaeth Islamaidd Iran Edit this on Wikidata
GwneuthurwrDiwydiannau Shahid Darvishi, Ffatrïoedd Llyngesol Edit this on Wikidata
Enw brodorolدنا Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran Edit this on Wikidata
Hyd94 metr Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llong ryfel oedd IRIS Dena (75) a wasanaethodd yn Llynges Iran o'i chomisiynu yn 2021 hyd at ei suddo yn 2026. Ffrigad ydoedd, o ddosbarth Moudge, a elwir "distryw-wyr" yn yr iaith Berseg.

Cafodd y llong ei rhoi ar y blociau yn 2012, a'i gwthio i'r môr yn 2015. Cafodd ei henwi ar ôl mynydd Dena yn y Zagros. Fe'i comisiynwyd i Lyngres Iran mewn seremoni addurno ym mhorthladd Bandar Abbas ar 14 Mehefin 2021. Roedd ganddi ynnau mawr, taflegrau daear-i-awyr, taflegrau yn erbyn llongau, a thorpidos, ac hofrenfa ar gyfer un hofrennydd. Yn 2023 aeth yr IRIS Dena a'r IRIS Makran ar daith ryngwladol, gan ymweld â De Affrica, Brasil, a gwledydd eraill.[1]

Yn Chwefror 2026, hwyliodd yr IRIS Dena i Fae Bengal ar gyfer yr Arolygiad Llyngesol Rhyngwladol ac i gymryd rhan mewn ymarferiad a gynhaliwyd gan India.[2] Ar 4 Mawrth 2026, yn ystod Rhyfel Iran, cafodd ei suddo gan dorpido o'r USS Charlotte, llong danfor yn Llynges yr Unol Daleithiau, mewn dyfroedd rhyngwladol ger arfordir deheuol Sri Lanca. Cyhoeddodd Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau fideo o'r ymosodiad, gan ddangos ffrwydrad yn rhwygo pen-ôl y llong a'i chodi o'r dŵr, ac achosi'r ffrigad i suddo wysg ei starn.[3] Lansiwyd ymdrech gan Sri Lanca i chwilio am oroeswyr, ac achubwyd 32 o forwyr o'r dŵr. Cafwyd hyd i 87 o gyrff.[1][4]

Hyhi yw'r llong gyntaf i gael ei suddo gan long danfor mewn rhyfel ers yr ARA General Belgrano ym 1982, a'r llong gyntaf i gael ei suddo gan long danfor Americanaidd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Tara Cobham, "US submarine sinks Iranian warship off Sri Lanka killing at least 80 and leaving dozens more injured", The Independent (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Mawrth 2026.
  2. (Saesneg) Soutik Biswas, "The final voyage of the Iranian warship sunk by the US", BBC (7 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mawrth 2026.
  3. (Saesneg) Uditha Jayasinghe, Idrees Ali, a Phil Stewart, "U.S. sub sinks Iranian warship off Sri Lanka, killing 87 and expanding war zone", Reuters (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mawrth 2026.
  4. (Saesneg) Krishan Francis a Bharatha Mallawarachi, "Sri Lanka recovers 87 bodies from Iranian warship sunk off its coast by a US submarine", Associated Press (5 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mawrth 2026.