Iâr gini helmog
| Iâr gini helmog Numida meleagris
| |||
|---|---|---|---|
| Statws cadwraeth | |||
| Dosbarthiad gwyddonol | |||
| Teyrnas: | Animalia | ||
| Ffylwm: | Chordata | ||
| Dosbarth: | |||
| Urdd: | Galliformes | ||
| Teulu: | Numidinae | ||
| Genws: | Numida[*] | ||
| Rhywogaeth: | Numida meleagris | ||
| Enw deuenwol | |||
| Numida meleagris | |||
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Iâr gini helmog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: ieir gini helmog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Numida meleagris; yr enw Saesneg arno yw Helmeted guineafowl. Mae'n perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae) sydd yn urdd y Galliformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn N. meleagris, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Affrica.
Cynnwys
Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r iâr gini helmog yn perthyn i deulu'r Numidinae (Lladin: Numidinae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]
"Iar Gini" yn tarddu o S. Guinea fowl
Galeeny: iar gini yn nhafodiaeth Saesneg Bro Gwyr ac Aberhonddu. Tybir iddo darddu rhywsut o Gallini, efallai trwy garcharorion rhyfel Eidalaidd.[3]
Er bod yr aderyn yn dod o Affrica, ei enw Llydaweg yw yar Spagn - iar o Sbaen - (pintade yn Ffrangeg - o’r Portwgaleg: pintada yr aderyn sydd wedi ei baentio). Mae unrhyw beth sydd yn dod o bell yn dwyn yr enw Spagn ond os ydi pethau yn dod o bellach maent yn dwyn yr enw Turki sef pen pellaf y byd Llydewig! Enw’r twrci yn y Llydaweg yw yar Indez, yn debyg iawn i’r enw Ffrangeg dinde (ben.), dindon (gwr.) gan gyfeirio at India, nid y wlad ond y cyfandir oedd newydd gael ei ddarganfod, sef America. Mae’r iaith Saesneg wedi mabwysiadu Gini (Guinea) hefyd ar gyfer anifail bach o dde-America lle mae’r Ffrangeg yn ei alw’n cochon d’Inde (“mochyn India”).[4]
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 133
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 133