Neidio i'r cynnwys

Hywel Harris (drama Cynan)

Oddi ar Wicipedia
Hywel Harris
Enghraifft o:drama lwyfan Gymraeg hanesyddol
Dyddiad cynharaf1932
AwdurCynan
CyhoeddwrHughes a'i Fab
GwladCymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHowel Harris
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg "Bedair Act" gan Cynan yw Hywel Harris, sy'n seiliedig ar hanes y diwygiwr Methodistaidd, Howel Harris. "Ni cheisiais, ac ni fwriedais, lynu'n dynn wrth y manylion hanesyddol", noda Cynan yn y Rhagair i gyhoeddiad Hughes a'i Fab, Wrecsam o'r ddrama ym 1932, fel rhan o'u cyfres Dramâu Newydd Wrecsam.[1] Daeth y ddrama i'r brig yng nghystadleuaeth y "drama mewn 3 neu 4 act" [sef Y Brif Ddrama] yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931.[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama 4 Act yn cychwyn ym 1744 "ar y ffordd gerllaw Erwd", tu allan i blas "Y Sgrîn", cartref Tom Williams, "Yswain ac Uchel Siryf Maesyfed" a'i chwaer, Nansi. Mae Hywel Harris, wedi'i guddio dan fantell, yn aros i gwrdd a'i gymar, Nansi, heb yn wybod i'w brawd. Daw "hanner dwsin o forwyr gyda'u Swyddog a'u "bosun"" heibio, sef "adran o'r "Pressgang" sy'n aros yn Aberhonddu". Maent yn chwilio am Harris, ac yn "hela Methodistiaid" i wneud eu "dyletswydd" sef ymuno â'r Llynges, yn enw'r "Brenin Siôr". Mae Williams yr Yswain wedi cynnig "hanner sofren" i bob un ohonynt, os llwyddant i "bresio Hywel Harris heno".[1] Maent wedi clywed bod seiat neu "society Fethodistaidd" am gael ei chynnal yn y pentref, a tra'n aros i'r Lifftenant ddychwelyd, mae'r morwyr yn trafod dawn y Methodistiaid i bregethu, gan ganmol y Parchedig Daniel Rowland, Llangeitho a'r Parchedig William Williams, Pantycelyn. Ond Hywel Harris "ydi'r pregethwr gorau ohonyn' hw' i gyd".[1]

Daw'r Lifftenant yn ôl gyda Tom Williams yr Yswain i'w dilyn. Mae nhw wedi cael arddeall y bydd William Williams, Pantycelyn yn y cyfarfod heno hefyd, ond rhybuddia'r Yswain, "'does gennych chi ddim awdurdod i'w gyffwrdd e", gan ei fod "mewn urddau eglwysig". Disgrifir Harris fel "dyn cydnerth, llydan, bob amser yn gwisgo mantell laes fel mantell milwr", ac aiff y cyfan ohonynt tuag at dŷ "Jehosaphat Jones y gof" lle cynhelir y "soceity".[1]

Wedi i'r morwyr ymadael, daw Jimmy Ingram sef gwas Harris, at y gŵr dan fantell, sy'n cuddio gerllaw, ac wedi clywed yr holl ymddiddan rhwng y Morwyr. Datgelir mai Hywel Harris sy'n cuddio, ac fe'i ddisgrifir yn farddonol fanwl yn y cyfarwyddiadau llwyfan fel:

"yn ddeg ar hugain oed, ond y mae naw mlynedd o lafur ysol dros ei Feistr yng ngwinllan wyllt Cymru'r ddeunawfed ganrif wedi gadael eu hôl ar ei wedd. Erlid, cenfigen, enllib - cymerasant oll eu toll. Ac nid y perwig [gwallt gosod] gwyn yn unig a bair i'w wyneb edrych yn hŷn na'i flynyddoedd. Eithr ni phylodd dim o fflam yr ewyllys anorthrech sy'n fflachio yn y llygaid treiddgar - llygaid proffwyd, llygaid y gŵr mwyaf unig yng Nghymru, a'r gŵr a ddyheai fwyaf am gyfaill a'i llwyr ddeallai. Er pob caledi, y mae ei gorff mor lluniaidd â phan aeth gyntaf "o Drefeca fach i maes, yn llawn gwreichion golau tanllyd". Gwelir egni mesitrolgar ym mhob ysgogiad".[1]

Mae Harris yn mynd draw am y Plas, i ddringo at ffenest Nansi, gyda'r ddau yn bwriadu dianc gyda'i gilydd. Gadawa ei fantell gydag Ingram, fel "mantell Elias am ei was Eliseus".[1] Ond dychwela'r "Pressgang" heb yr Yswain a'r Lifftenant, ac yn dal Ingram dan y fantell, gan feddwl mai Harris ydyw. Dygir ef ymaith gan y morwyr, ac fe ddychwela'r Yswain a'r Lifftenant yn feddw, wedi bod yn boddi eu gofidiau, am fethu dal eu hysglyfaeth. Mae'r Yswain meddw yn gaddo "llaw" ei chwaer [Nansi] i'r Lifftenant, "fyddai gan Harrish ddim siawns yn ymyl gŵr bonedd - [hic] gŵr bonheddig, fel chi".[1] Daw un o'r morwyr atynt, a rhoi gwybod eu bod nhw wedi dal Harris, ac mae'r ddau yn dathlu. Gadewir yr Yswain meddw ar ben ei hun, wrth i'r morwyr ymadael er mwyn "arwyddo ripôrt Harish yn y barics heno".

Cyfarfu'r Yswain â Harris a'i chwaer, sydd ar fin dianc, ac er iddo geisio ei saethu â'i ddryll, "nid yw waeth". Datgelir yn ddiweddarach bod Nansi wedi ymyrryd â'r dryll, gan ofni y byddai ei brawd yn ei ddefnyddio i ddial ar Harris. Daw William Williams, Pantycelyn heibio, ac fe dry'r sgwrs rhwng y pedwar yn ddadl gref dros ddyfodol Hywel Harris. A ddylai Harris fod mewn perthynas gyda Nansi? "Unwaith mewn amser y mae'r Arglwydd yn anfon proffwyd i'r byd, un a fedr â'i lef ddeffro cenedl o gwsg marwolaeth, - a phan ddelo hwnnw, a ydy hi'n debyg y caiff e lonydd rhag rhwyd gyfrwysaf Satan?"[1]

Rhybuddia'r Yswain ei chwaer, os bydd hi'n priodi Harris, "na ro dy droed dros riniog y Sgrîn byth mwy", ond os torra hi "am byth oddi wrth Fethodistiaeth", yna mae ganddo "ffrind yn galw nos yfory - Lifftenant Peilyn, bachgen llawen a gŵr bonheddig o'r iawn ryw", fyddai yn ŵr mwy teilwng iddi, yn ei dyb ef.[1] Gofyna Nansi am gyngor ac arweiniad gan Williams Pantycelyn, ac mae yntau yn ategu ei bryderon na all Harris "fforddio rhannu ei fywyd", gan ei chynghori i fynd yn ôl at ei brawd. Ond wedi trafod pellach, mae Pantycelyn yn ildio i "huawdledd Harris" ac yn cytuno i'r ddau briodi. Mae'r ddau yn ymadael am Drefeca.[1]

Digwydd yr ail Act tu allan i dafarn Penlan Fawr, Pwllheli, 4 blynedd [1748 neu 1749] ers cychwyn y ddrama. Mae Williams Pantycelyn a Hywel Harris ill dau yn sgwennu llythyrau, tu allan i'r dafarn, tra bod "sŵn ymgomio ffri a chrechwen" a sain y ffidl, yn peri "blinder mawr" i'r ddau. Wedi cwyno am y sŵn, mae'r ddau yn annerch y dyrfa, gan geisio eu dennu at y Methodistiaid, er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn y Person meddw lleol, a'r tirfeddianwr, Major William Gruffydd, Cefnamlwch. Ond mae gwraig y Major, Madam Sidney Gruffydd yn cael troedigaeth ac yn penderfynu dilyn Harris i Drefeca.[1]

Parlwr yn nhŷ Harris yn Nhrefeca ym 1751 yw lleoliad y drydedd Act, lle mae Madam Gruffydd yn sgwrsio gyda Nansi, gan ddatgan nad yw hi'n or-hoff o Williams Pantycelyn. Mae'r ddwy yn trafod y "dadlau Crefyddol" sy'n digwydd ymysg arweinwyr y Methodistiaid, gyda Madam Gruffydd yn awgrymu mai "cenfigen" tuag at Harris yw'r drwg. Ond eglura Williams Pantycelyn wrth Nansi mai Madam Gruffydd yw'r drwg, am ei bod hi "wedi troi pen eich gŵr [Harris] a'i wneud e mor anoddefol o 'styfnig nad oes dim modd i'w hen gyfeillion bellach gydweithio ag e. Mae e wedi mynd i ddirmygu'n diwinyddiaeth ni, ac i ddiraddio pob cynllun o waith a awgrymwn ni".[1] Daw Williams ag "ultimatum" i Harris, bod yn rhaid iddo dorri'r "gyfathrach afiach" rhyngddo â Madam Gruffydd, neu cael ei "ddiarddel" o'r "gwersyll Methodistaidd".[1] Mae Williams yn datgan wrth Nansi, mai hi yn unig fedar ddatrys y broblem.

Mae Nansi yn gofyn yn blwmp ac yn blaen wrth Madam Gruffydd, os ydi'n "caru Hywel?", ac yn ei hannog i beidio ateb. Mae hi'n egluro'r peryg sydd i Harris gan y Sasiwn, ac yn gofyn iddi fynd "allan o'i fywyd e heddiw", er mwyn arbed ei fywyd. Cytuna'r Fadam, a geilw am y ferlen. Daw Williams Pantycelyn a Harris i mewn i'r ystafell gan ddadlau, ond fe dorrir ar y cyfan pan geilw'r Fadam ar Nansi er mwyn ffarwelio â hi, gan ddatgan "'Welwch chi byth mohono' i eto" am ei bod hi "ar gychwyn i Lundain".[1] Ond mae Harris yn mynnu nad yw hi'n gadael, wrth i Nansi fynd gyda Williams, er mwyn egluro popeth wrth y Sasiwn.[1]

"Yr hwyrddydd canlynol" yn nhŷ Harris, yw lleoliad yr Act olaf. Mae Harris yn adrodd-weddio Salm 120 : "Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus". Daw Madam Gruffydd ato i'w gysuro, wrth iddynt aros am ddychweliad Pantycelyn a Nansi o'r Sasiwn. Mae hi'n bryderus rhag ofn y bydd y Sasiwn yn ei ddi-arddel, oherwydd ei "gyfeillgarwch" â hi. Eglura Harris wrthi mai ef a gychwynodd y mudiad, ac na fydda 'na Sasiwn onibai amdano ef. Beio'r "Saeson fel Whitefield a Wesley yn ceisio 'i lordio hi ar Fethodistiaeth Cymru" wna Madam Gruffydd. Ond â'r ddau ar ben eu hunain, eglura Madam Gruffydd pam ei bod hi wedi gwirioni ar Harris, ym Mhwllheli, 4 blynedd ynghynt, mewn ymson sy'n cael ei hystyried yn un o bethau gorau am y ddrama:

"Mi wyddost fod gwaed yr hen dywysogion ynof i. Mi wyddost hanes Plas y Foelas. Ymhell wedi i'r hen deuluoedd droi eu cefnau ar yr hen fywyd Cymreig, 'roedd fy nghartref i yn swcwr i'r delyn ac yn gefn i'r bardd. [...] Fe'm dysgwyd i i garu a mawrhau fy ngwlad, ac O! mi fyddwn i'n breuddwydio gweld Cymru newydd yn codi mor loyw a mawreddog â'r Gymru a fu, a'i beirdd hi mor odidog eto â Beirdd y Tywysogion gynt."[1]

Mae hi'n parhau gan feirniadu "ysweiniaid Cymru [sydd] wedi gwystlo'u hetifeddiaeth ddaearol ac wedi gwerthu eu hetifeddiaeth ysbrydol" gan geisio "dynwared pethau salaf Lloegr". Mae hi'n sôn am pa mor greulon fuodd ei chyn-ŵr, ac yn dangos ôl chwipio ar ei braich. Ond "y [f]reuddwyd am Gymru Newydd yn codi fel y Phoenix o ludw yr hen" sydd wedi ei chynnal hi gyhyd. Mae hi wedi dyheu am weld "rhywun mor feiddgar â Llywelyn, rhywun mor danllyd â Glyn Dŵr" yn dod i "ddeffro'r bobl o'u trymgwsg hir". Pan glywodd hi lais Harris ym Mhwllheli, "mi wyddwn i fod Duw wedi ateb fy ngweddi. Mi wyddwn i fod Tad y Gymru Newydd wedi ymddangos."[1]

Ond eglura Harris wrthi mai "achub enediau" a fynnai ef, ond parhau wna Madam Gruffydd i sôn am ei gweledigaeth am y Gymru "newydd" - disgrifiad sy'n adlais o'r hyn a ddigwyddodd yn Nhrefeca, maes o law, drwy sefydlu "Teulu Trefeca" a 'yrrodd weision yr Efengyl drwy Gymru gyfan. Mae hi'n rhoi arian iddo, er mwyn gwireddu'r freuddwyd.

Ar ddiwedd y ddrama, wrth i Nansi a Williams Pantycelyn ddychwelyd o'r Sasiwn, gyda'r newydd bod Harris wedi'i diarddel, nid oes ots ganddo bellach, am mai gwireddu breuddwyd Madam Gruffydd yw ei unig nod bellach.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mewn llythyr at Mai Roberts tua 1930-1931, mae Cynan yn nodi ei fod yn gweithio ar ddrama am Howell Harris a Pantycelyn, a'i fod "wedi taro ar y theme drama godidocaf a roed i Gymro eto. Peth arall a fydd i mi wneud cyfiawnder a'r theme. Ond y mae'n berwi ynof - drama Gymraeg "wahanol" o'r diwedd".[5]

Roedd Cynan yr un oed â Hywel Harris,[30 oed] pan aeth ati i gyfansoddi'r ddrama, ac er ei fod, ar ei gyfaddefiad ei hun, wedi llacio tipyn ar y "manylion hanesyddol", hawliai "rhyddid y dramodydd" i ddehongli cyfnod a chreu cymeriadau.[1] Daeth y ddrama i'r brig yng nghystadleuaeth y "drama mewn 3 neu 4 act" [sef Y Brif Ddrama] yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931.[2] Ar ôl y gystadleuaeth, cafodd "y fantais fawr o ymgynghori â dau hanesydd cyfarwydd â'r cyfnod, sef Mr. R. T. Jenkins a Mr Bob Owen".[1] Noda Bob Owen fod y ddrama yn portreadu "ysbryd y cyfnod mor gywir ag sydd bosibl i greadur meidrol" a bod y ddrama "yn rhoddi cipdrem wen olau ar yr amseroedd hynny".[1]

Bedyddiodd John Eilian Eisteddfod 1931 fel "Eisteddfod Cynan" gan iddo ennill 3 cystadleuaeth, ond barnai mai y ddrama hon oedd ei "[g]ampwaith" ac y sylweddolid toc mai dyma "gynnyrch llenyddol arbenicaf" yr Eisteddfod.[5] Nododd y beirniad, D. T. Davies, "nad ymddangosodd hyd yn hyn, un ddrama Gymraeg sydd well na hon".[5]

Noda Cynan yn glir ar gychwyn y cyhoeddiad cyntaf o'r ddrama "ni chaniateir ei hactio ond yng ngwisg y cyfnod (17441751)".[1]

Yn ei gyfrol Cynan: Drama Bywyd Albert Evans-Jones, noda Gerwyn Williams "Petai crefft Cynan y dramodydd wedi bod yn aeddfetach byddid wedi cael drama amgenach i'r cymeriad grymus hwn". Mae'n awgrymu y gellid fod wedi "dibynnu llai ar wrthdaro allanol ac ymddiried mwy yn y tyndra rhwng y ddwy ym mywyd Harris".[5]

"Roedd digon o ddeunydd dramatig i'w archwilio hefyd yn y gwrthdynnu mewnol o fewn cymeriad Harris ei hun a'r ymrafael diwinyddol a deallusol rhyngddo â Williams Pantycelyn. [...] Efallai fod dychymyg lliwgar Cynan yn drech na drama dynnach ei ffocws o'r fath, ac y byddai cyfrwng ffilm wedi gweddu'n well i gynhyrchiad ac ynddo ystod amser o saith mlynedd rhwng yr act agoriadol a'r un glo ac un sy'n symud o Sir Faesyfed i Bwllheli ac yna i Drefeca".[5]

Gwêl Williams hefyd gysylltiad pwysig rhwng "breuddwyd" Madam Gruffydd am y "Gymru Newydd" gydag apêl y Blaid Genedlaethol newydd, nad oedd ond 6 mlwydd oed ym 1931, a'r un delfrydau ac anian â Luned yn Gwaed yr Uchelwyr (1922).[5]

Ond derbyniodd y ddrama feirniadaeth gan W. J. Gruffydd a nododd ei bod hi'n "bell o'r hyn a ellid ei ddisgwyl gan ŵr o allu Cynan".[5] Er canmol dehongliad Madam Gruffydd yn y ddrama, roedd Saunders Lewis hefyd yn feirniadol o bortread Harris fel "llo" anniddorol, gan ddatgan nad oedd hi'n ddrama bwysig nac oedd ynddi fawredd.[5] Roedd y ffaith bod Cynan newydd ei benodi yn "sensor" neu'n "Ddarllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen" [yn haf 1931] hefyd yn tynnu sylw a beirniadaeth yn y papurau newydd, gyda sawl un yn gofyn "Who Will Censor the Welsh Censor?".[5]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf, "rhyw 6 wythnos" ar ôl ei chyhoeddi, a hynny gan Gwmni y Ddraig Goch ym mhafiliwn Caernarfon, ym Mhasg 1932, gyda Gwynfor yn portreadu Hywel Harris. Derbyniodd y ddrama ganmoliaeth a beirniadaeth yn sgil yr holl helynt a fu, gan yr ysgolheigion ym 1931.[5]

Ail-lwyfannwyd y ddrama yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1932, o dan gyfarwyddyd Ivor Nicholas. Mr J. I. Morgan oedd yn portreadu Hywel Harris a Mr D. H. Roberts fel Williams Pantycelyn. "Mrs C. R. Jenkins" oedd Madam Gruffydd a "Mrs C. Roderick" fel Nansi.[6]

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y ddrama ar Radio'r BBC [Home Service] ar y 25 Tachwedd 1940.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 1.15 1.16 1.17 1.18 1.19 1.20 1.21 Cynan (1932). Hywel Harris : drama bedair act. Hughes a'i Fab.
  2. 2.0 2.1 "Eisteddfod winners". Caernarfon & Denbigh Herald. 7 Awst 1931.
  3. "GRIFFITH, SIDNEY ('Madam Griffith '; bu farw 1752) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-10-20.
  4. "GRIFFITH (TEULU), Cefn Amwlch, Penllech, Llŷn | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-10-20.
  5. 5.00 5.01 5.02 5.03 5.04 5.05 5.06 5.07 5.08 5.09 Williams, Gerwyn (2020). Cynan - Drama Bywyd Albert Evans-Jones. Y Lolfa.
  6. "Cynan's "Hywel Harris"". Western Mail. 3 Awst 1932.
  7. "Today's Wireless". South Wales Daily Post. 25 Tachwedd 1940.