Hywel Francis

Oddi ar Wicipedia
Hywel Francis
Ganwyd6 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd, hanesydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://web.archive.org/web/20150401004454/http://www.hywelfrancis.co.uk Edit this on Wikidata

Hanesydd a gwleidydd oedd Dr Hywel Francis (6 Mehefin 195114 Chwefror 2021)[1] a oedd yn Aelod Seneddol Lafur dros Aberafan rhwng 2001 a 2015. Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd. Roedd yn fab i arweinydd undeb y glowyr Dai Francis [2] (Dai o'r Onllwyn 1911–1981) a Catherine (née Powell). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Eglwys Newydd, Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhwng 2010 a 2015 fe oedd Cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol a bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, gan feithrin cysylltiadau agos gyda'r Cynulliad.

Bu hefyd yn gadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar archifau a Syndrom Down. Ef hefyd a sefydlodd Sefydliad Bevan.[1]

Fel hanesydd, cyhoeddodd yn helaeth ar gymunedau glofaol De Cymru, gan gynnwys:

  • The Fed: a History of the South Wales Miners in the Twentieth Century (Caerdydd, 1980) (cyd-awdur gyda'r Athro Dai Smith)
  • Miners Against Fascism: Wales and the Spanish Civil War (Caerdydd, 1984)
  • History on Our Side: Wales and the Miners Strike of 1984-85

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/56061255 , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2021.
  2. "FRANCIS, DAVID ('DAI') (1911-1981), undebwr llafur ac arweinydd y glowyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-14.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Morris
Aelod Seneddol dros Aberafan
20012015
Olynydd:
Stephen Kinnock


Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.