Hywel Davies (joci)
Hywel Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1957 ![]() Aberteifi ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | joci ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Mae Hywel Davies (ganwyd 1957) yn joci Helfa Genedlaethol proffesiynol o Gymru, sydd wedi ymddeol. Marchogodd am 16 mlynedd gyda 761 buddugoliaeth yng ngwledydd Prydain. Daeth ei yrfa marchogaeth i ben ym 1994.[1][2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Mae Davies yn Gymro Cymraeg ac nid oedd yn siarad Saesneg nes ei fod yn 7 oed. [3] Mynychodd Ysgol Gyfun Aberteifi o 1969 hyd 1975.
Gyrfa rasio
[golygu | golygu cod]Davies oedd y joci wrth gefn i Tim Forster am 8 mlynedd yn ei stablau yn Letcombe Bassett ger Lambourn yn Berkshire.[1] Daeth yn joci llawrydd a marchogodd i nifer o hyfforddwyr eraill fel Josh Gifford a Nicky Henderson.[1] Enillodd Grand National 1985 ar Last Suspect yn chwaraewr o'r tu allan 50-1.[4] Ymddeolodd o farchogaeth yn 37 oed yn 1994.[3] Ers ymddeol, Davies yw cynrychiolydd gwledydd Prydain ar gyfer Gain Horse Feeds.
Gyrfa cyfryngol
[golygu | golygu cod]Mae Davies wedi bod yn sylwebydd rasio ceffylau gwadd ar raglenni At the Races, Channel 4 Racing, BBC Cymru (teledu a radio) a roedd yn gyd-gyflwynydd "Rasus" (S4C) o 1995 hyd heddiw.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganed Davies yn Aberteifi ym 1957.[1]Roedd yn briod â Rachel Davies am 13 mlynedd. Mae ganddo fab, James Davies, sydd hefyd yn joci proffesiynol. Ei bartner presennol yw Vikki Dunn, sy’n gyd-sylfaenydd The Farm Group, cwmni teledu ôl-gynhyrchu.[3][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Grand National 2015: 30 years on recalls his Aintree win on Last Suspect". Liverpool Echo. Cyrchwyd 2017-07-05.
- ↑ "Dinner marks 25th anniversary of Grand National success". BBC. Cyrchwyd 2017-07-06.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Broadcasting allows return to roots; Where Are They Now? Former jockey Hywel Davies". The Free Library. Cyrchwyd 2017-07-06.
- ↑ "40 mlynedd ers i Hywel Davies ennill y Grand National". BBC Cymru Fyw. 2025-04-03. Cyrchwyd 2025-04-03.
- ↑ "People". The Farm Group. Cyrchwyd 2017-07-07.