Neidio i'r cynnwys

Hypothermia

Oddi ar Wicipedia
Hypothermia
Enghraifft o:clefyd, mesuriad anarferol o isel, arwydd meddygol, achos marwolaeth, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathsymptom niwrolegol a ffisiolegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgorwres Edit this on Wikidata
SymptomauRhithweledigaeth edit this on wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/012rps edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF39300 edit this on wikidata
MeSHD007035 edit this on wikidata
UMLS CUIC0020672 edit this on wikidata
QuoraHypothermia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Hypothermia yw pan mae tymheredd y corff yn gostwng pan mae corff yn colli mwy o wres nag y mae'n ei dderbyn. Mewn bodau dynol, mae'n cael ei ddiffinio fel tymheredd craidd y croff sydd o dan 35.0 °C (95.0 °F). Mae symptomau yn dibynnu ar y tymheredd. Mewn hypothermia ysgafn ceir cryndod a phenbleth. Mewn hypothermia canolig mae'r crynu'n stopio a'r penbleth yn cynyddu. Mewn hypothermia dwys, gall fod dadwisgo paradocsaidd, ble mae'r person yn tynnu ei ddillad, a risg uwch o'r galon yn peidio a churo.[1]

Mae gan hypothermia ddau brif achos. Mae'n digwydd gan amlaf pan fydd person wedi wynebu oerfel eithafol. Gall hefyd ddigwydd o ganlyniad i unrhyw gyflwr sy'n lleihau gallu'r corff i gynhyrchu gwres neu'n achosi cynnydd yn y gwres sy'n cael ei golli.[2] Yn aml mae hyn yn cynnwys meddwdod ond gall hefyd gynnwys lefel isel o siwgr yn y gwaed, anorexia, a henaint. Mae tymheredd y corff fel arfer yn aros ar lefel gyson o 36.5–37.5 °C (97.7–99.5 °F)  trwy thermoreoleiddiad. Mae ymdrechion i gynyddu tymheredd y corff yn cynnwys crynu, cynnydd mewn gweithgaredd gwirfoddol, neu wisgo dillad mwy cynnes.[3] Gall hypothermia gael ei adnabod naill ai drwy symptomau'r person neu trwy fesur eu tymheredd craidd.

Mae triniaeth ar gyfer hypothermia ysgafn yn cynnwys diodydd cynnes, dillad cynnes, a gweithgaredd corfforol. I'r rhai sy'n dioddef o hypothermia canolig, mae blancedi gwresogi a hylifau mewnwythiennol sydd wedi'u cynhesu yn cael eu hargymell. Mae ailgynhesu fel arfer yn parhau hyd nes y bydd tymheredd y person dros 32 °C (90 °F)

Mae hypothermia yn achosi o leiaf 1,500 o farwolaethau y flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n fwy cyffredin ymhlith henoed a gwrywod.[4] Un o'r lefelau tymheredd corff isaf ar gofnod ble mae rhywun gyda hypothermia damweiniol wedi goroesi yw 13.0 °C (55.4 °F) pan bu bron i ferch 7 oed yn Sweden foddi.[5] Mewn achosion eithafol, ceir disgrifiadau o bersonau yn goroesi wedi dros chwe awr o CPR. O'r rhai sydd angen ECMO neu ddargyfeirio, mae tua 50% yn goroesi. Mae marwolaethau o ganlyniad i hypothermia wedi bod yn rhan bwysig o nifer o ryfeloedd. Daw'r term o'r Groeg ὑπο, ypo, sy'n golygu "o dan", a θερμία, thermía, sy'n golygu "gwres". Y gwrthwyneb i hypothermia yw hyperthermia, cynnydd yn nhymheredd y corff o ganlyniad i fethiant thermoreoleiddiad.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brown, DJ; Brugger, H; Boyd, J; Paal, P (15 Tachwedd 2012). "Accidental hypothermia.". The New England Journal of Medicine 367 (20): 1930–8. doi:10.1056/NEJMra1114208. PMID 23150960. https://archive.org/details/sim_new-england-journal-of-medicine_2012-11-15_367_20/page/1930.
  2. Marx, John (2010). Rosen's emergency medicine: concepts and clinical practice 7th edition. Philadelphia, PA: Mosby/Elsevier. t. 1870.
  3. Robertson, David (2012). Primer on the autonomic nervous system (arg. 3rd). Amsterdam: Elsevier/AP. t. 288. ISBN 9780123865250. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017.
  4. Bracker, Mark (2012). The 5-Minute Sports Medicine Consult (arg. 2). Lippincott Williams & Wilkins. t. 320. ISBN 9781451148121. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2017.
  5. "Remarkable recovery of seven-year-old girl". 17 Ionawr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!