Hwsâr

Oddi ar Wicipedia
Darluniad o hwsâr Hwngaraidd.

Marchfilwr ysgafn a ddefnyddiwyd yn hanesyddol yn Ewrop i sgowtio yw hwsâr[1] neu husâr.[2]

Y hwsariaid cyntaf oedd corffluoedd ceffylau-ysgafn Hwngari yn y 15g. Efelychwyd y hwsâr Hwngaraidd, a'i wisg liwgar, gan fyddinoedd eraill ar draws Ewrop. Roedd y wisg yn cynnwys bysbi, siaced a blethir yn drwm, a philis neu siaced ddolman, sef cot lac a wisgir ar yr ysgwydd chwith.[3]

Addasodd nifer o gatrodau hwsâr y Fyddin Brydeinig yn ddragwniaid ysgeifn yn y 19g.[3] Mae rhai catrodau arfogedig yn parháu i gadw'r enw hwsâr.[4]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [hussar].
  2.  Husâr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) hussar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
  4. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 122.