Huw John Hughes
| Huw John Hughes | |
|---|---|
| Ganwyd | 1944 |
| Bu farw | 24 Gorffennaf 2025 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | awdur plant, athro, person busnes |
Darlithydd, awdur a gweinidog o Gymru oedd Huw John Hughes (1944 – 24 Gorffennaf 2025). Roedd hefyd yn naturiaethwr a sefydlodd Pili Palas ar Ynys Môn.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Hughes ei eni yn ardal Mynydd Llandygái. Hyfforddodd fel athro yn y Coleg Normal, Bangor a cychwynnodd ei yrfa yn Ysgol Gynradd Glan Cegin, Maesgeirchen. Yn dilyn cyfnod gyda'r Cyngor Ysgolion daeth yn Brifathro yn Ysgol Pen y Bryn, Bethesda.[2] Wedi hynny daeth yn darlithydd yn ei hen goleg.
Ers yn blentyn roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn pryfed a gloÿnnod byw. Yn 1985 gwireddwyd breuddwyd oes iddo pan sefydlodd ganolfan Pili Palas ar Ynys Môn, gyda'i gyfeillion, Huw Glyn Evans a'i wraig, Gwenda. Prynwyd fferm Ty'n Mynydd ar lôn Penmynydd ger Porthaethwy ac addaswyd yr adeiladau. Daeth y ganolfan yn atyniad twristaidd hynod o boblogaidd. Gwerthwyd y ganolfan yn 2005 i Gwawr a Steve Bell.[2]
Roedd yn weinidog rhan amser yn Llanberis ac yng Nghapel Carmel, Moelfre. Roedd yn gyfrannwr cyson i Munud i Feddwl ar Radio Cymru ac ar bynciau a oedd yn ymwneud â natur.
Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd a'i anrhydeddu â'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf, Dyrys Daith, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu farw, yn ei gartref, yn 80 mlwydd oed yng Ngorffennaf 2025.[3][4] Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Bangor am,11:00 y bore ar 1 Medi 2025.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Un o bersonoliaethau cofiadwy ein cenedl': Teyrngedau i'r Parchedig Huw John Hughes". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-25. Cyrchwyd 2025-07-25.
- 1 2 "BBC - Gogledd Orllewin - Diwedd Cyfnod i Pili Palas". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-07-25.
- ↑ "Teyrngedau i Huw John Hughes - un o sefydlwyr Pili Palas ac awdur". BBC Cymru Fyw. 2025-07-25. Cyrchwyd 2025-07-25.
- ↑ "Hysbysiad marwolaeth Huw John HUGHES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2025-08-09. Cyrchwyd 2026-04-27.