Hugo Chávez

Oddi ar Wicipedia
Hugo Chávez
GanwydHugo Rafael Chávez Frías Edit this on Wikidata
28 Gorffennaf 1954 Edit this on Wikidata
Sabaneta Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Hospital Militar de Caracas Edit this on Wikidata
Man preswylLa Casona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Military Academy of the Bolivarian Army Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPresident of Venezuela, arweinydd plaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Taldra173 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolRevolutionary Bolivarian Movement-200, Fifth Republic Movement, United Socialist Party of Venezuela Edit this on Wikidata
TadHugo de los Reyes Chávez Edit this on Wikidata
MamElena Frías de Chávez Edit this on Wikidata
PriodNancy Colmenares, Marisabel Rodríguez de Chávez Edit this on Wikidata
PlantMaría Gabriela Chávez Edit this on Wikidata
PerthnasauAsdrúbal Chávez Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Urdd Francisco Morazán, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd dros ryddid, Urdd Francisco de Miranda, Order of the Star of Carabobo, Urdd José Martí, Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Ribbon of the Order of the Republic of Serbia, Urdd Umayyad, Uatsamonga Order, Order of the Friendship of Peoples, Gwobr y Blaned Las, honorary doctor of the University of International Business and Economics, Order of Augusto César Sandino, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Urdd Croes y De, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Gorchymyn Anrhydedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.chavez.org.ve, http://todochavez.gob.ve Edit this on Wikidata
Saflepitcher Edit this on Wikidata
llofnod

| lleoliad_geni=Sabaneta, Barinas, Feneswela | dyddiad_marw=5 Mawrth 2013(2013-03-05) (58 oed) | plaid=Plaid Sosialaidd Unedig Feneswela | priod=Nancy Colmenares (ysg.)
Marisabel Chávez (ysg.) |}} Arlywydd Feneswela o 1999 hyd 2013 oedd Hugo Rafael Chávez Frías (IPA: 'uɣo rafa'el 'tʃaβes 'fɾias (28 Gorffennaf 19545 Mawrth 2013). Fel arweinydd y Chwyldro Bolifariaidd hybodd ei weledigaeth o sosialaeth ddemocrataidd drwy ddiwygio cymdeithasol ac roedd yn feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.

Dywedir iddo sefydlu mudiad asgell-chwith o'r enw Fifth Republic Movement wedi methiant y coup i ddiorseddu'r Arlywydd Carlos Andrés Pérez yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda maniffesto yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000, yn 2006 ac yn 2012. O fewn ei wlad roedd yn frwdfrydig iawn dros datblygiadau economaidd amgen; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn Ne America.

Roedd yn ddyn oedd yn barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd America Ladin.[1]

Y cyfnod cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei fagu ar aelwyd gweithiol yn Sabaneta, Barinas. Wedi cyfnod fel swyddog yn y fyddin sefydlodd MBR-200 yn y 1980au cynnar gyda'r nod o ddymchwel Llywodraeth yr Arlywydd Carlos Andrés Pérez. Yn 1992 aflwyddiannus oedd ei ymdrech i wneud hyn drwy coup d'état a chafodd ei garcharu am ddwy flynedd. Yn dilyn ei ryddhau o'r carchar sefydlodd plaid sosialaidd, democrataidd o'r enw Mudiad y Pumed Gweriniaeth.

Diwygio cymdeithasol[golygu | golygu cod]

Yn 1998 fe'i etholwyd yn Arlywydd Feneswela. Canlyniad ei bolisiau i adfer diwydiant a chymdeithas (Cyfansoddiad Newydd y Llywodraeth, 1999) oedd: gwladoli sawl diwydiant allweddol, cynyddu nawdd y Llywodraeth ym maesydd iechyd a gofal ac addysg, a lleihau tlodi.[2]

Beirniadu George W. Bush[golygu | golygu cod]

Ar 20 Medi, 2006, areithiodd Chávez i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan gondemnio George W. Bush (Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd) yn hallt.[3] Yn yr araith, fe alwodd ef Bush yn "Ddiafol", gan gyfeirio at y ffaith i Bush fod yn areithio yn yr un fan y diwrnod cynt "to share his nostrums to try to preserve the current pattern of domination, exploitation and pillage of the peoples of the world."[4] Er iddo gael ei feirniadu am hyn gan y cyfryngau a gwleidyddion led-led y byd,[5] fe dderbyniodd Chávez gymeradwyaeth frwdfrydig.[6].

Salwch a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ar y 5ed o Fawrth 2013 yn dilyn dwy flynedd o frwydro yn erbyn cancr. Cyhoeddwyd cyfnod saith niwrnod o fwrnio cenedlaethol drwy'r wlad i'w goffáu.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gweler gwefan Saesneg y BBC
  2. Ian James (4 Hydref 2012). "Venezuela vote puts 'Chavismo' to critical test". Yahoo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-08. Cyrchwyd 2 Chwefror 2013.
  3. "Gweler y fideo llawn o'r araith". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-06. Cyrchwyd 2009-01-15.
  4. CNN
  5. Gweler CNN (Saesneg) [1] "Don't bash Bush"
  6. CBS News. "The Devil And Mr. Chavez." Archifwyd 2009-02-24 yn y Peiriant Wayback. (Medi 25, 2006).