Howlin' Wolf

Oddi ar Wicipedia
Howlin' Wolf
Howlin' Wolf yn canu ym 1972.
FfugenwHowlin' Wolf Edit this on Wikidata
GanwydChester Arthur Burnett Edit this on Wikidata
10 Mehefin 1910 Edit this on Wikidata
Clay County Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ionawr 1976 Edit this on Wikidata
Hines Edit this on Wikidata
Label recordioChess Records, RPM Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgitarydd, canwr, artist stryd, cyfansoddwr caneuon, cerddor Edit this on Wikidata
Arddully felan Edit this on Wikidata
Gwobr/auRock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.howlinwolffoundation.org Edit this on Wikidata

Canwr y felan, gitarydd, a chanwr harmonica Americanaidd oedd Howlin' Wolf (Chester Arthur Burnett; 20 Mehefin 191010 Ionawr 1976), un o brif gerddorion arddull blŵs Chicago, sydd yn nodedig am ei lais cryg, dwfn.

Ganed Chester Arthur Burnett i rieni Affricanaidd-Americanaidd yn West Point, Mississippi, a chafodd ei fagu ar blanhigfa gotwm. Clywodd felan Delta'r Mississippi a cherddoriaeth wlad draddodiadol y de yn ystod ei blentyndod. Dylanwadwyd arno gan Blind Lemon Jefferson o Texas, Sonny Boy Williamson II, y canwr gwlad ac iodlwr Jimmie Rodgers, a phrif arloeswr melan y Delta, Charley Patton.

Dechreuodd ganu yn broffesiynol yn ei arddegau, a pherfformiodd mewn clybiau bychain ar draws Mississippi yn y 1920au a'r 1930au. Aeth i West Memphis, Arkansas, yn y 1940au a sefydlodd seindorf gyda James Cotton a Junior Parker. Gweithiodd yn droellwr ar yr orsaf radio KWEM yn West Memphis. Yn sgil llwyddiant ei record gyntaf, "Moanin' at Midnight" (1951), symudodd i Chicago ym 1952. Yno, dan arweiniad Howlin' Wolf a Muddy Waters, addaswyd arddull acwstig y Delta at y gynulleidfa drefol drwy drydanu'r felan. Cafodd caneuon Howlin' Wolf eu recordio yn Chicago gan label Chess Records.

Ymhlith ei ganeuon mae "Smokestack Lightnin'", "Dog Me Around", a "Killing Floor". Yn y 1960au cafodd ei gydnabod am ddylanwadu ar grwpiau roc megis The Beatles, y Grateful Dead a The Rolling Stones. Bu farw yn Hines, Illinois, yn 65 oed. Cafodd ei ynydu i'r Blues Hall of Fame ym 1980 ac i'r Rock and Roll Hall of Fame ym 1991.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Howlin' Wolf. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • James Segrest a Mark Hoffman, Moaning at Midnight: The Life and Times of Howlin' Wolf (Efrog Newydd: Pantheon Books, 2004).