Hosan Nadolig

Oddi ar Wicipedia
Hosan Nadolig ar gornel y gwely.

Hosan neu sach siap hosan wag yw hosan Nadolig sy'n cael ei rhoi allan ar Noswyl Nadolig, neu Ddydd Sant Nicolas mewn rhai rhannau o'r byd, fel bod Sant Nicolas (neu Siôn Corn) yn gallu ei llenwi â theganau, melysion, ffrwythau, ceiniogau neu roddion bychain eraill pan fydd yn cyrraedd.

Credir bod y traddodiad yr hosan Nadolig yn tarddu o un o wledydd Ewrop ac yn gallu cael ei olrhain yn ôl i gyfnod Sant Nicolas ei hun.[1] Nid oes cofnod hanesyddol o'r hosan Nadolig o'r cyfnod hwnnw, ond mae hanesion neu chwedlau sy'n ceisio esbonio tarddiad yr arferiad. Ar Ddydd Sant Nicolas (5/6 Rhagfyr yn niwylliannau Cristnogol y gorllewin ac 19 Rhagfyr yn niwylliannau Cristnogol y dwyrain) y byddai rhain yn cael rhoi allan, ond dechreuwyd eu gosod allan ar Noswyl Nadolig yn y 19g.[2]

Mewn rhai straeon Nadolig, cynnwys yr hosan yw'r unig deganau y bydd plentyn yn eu derbyn gan Siôn Corn; mewn straeon eraill (ac yn draddodiadol), mae rhai anrhegion hefyd yn cael eu lapio mewn papur lapio a'u gosod o dan coeden Nadolig. Yn ôl y traddodiad yn niwylliant y Gorllewin, bydd plentyn sydd wedi cambihafio yn derbyn dim mwy na darn neu bentwr o lo.[3] Mae rhai pobl yn rhoi'r hosan ar gornel y gwely fel bod Siôn Corn yn ei llenwi wrth iddynt gysgu.

Hosanau cyffredin fyddai plant yn eu defnyddio yn wreiddiol - rhai eu tadau fel arfer - ond dechreuwyd creu hosanau yn arbennig ar gyfer yr arfer hwn. Heddiw, mae siopau yn gwerthu amrywiaeth o hosanau Nadolig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dixon, Jeremy (5 December 2016). "Top 10 Christmas traditions and their origins". The Telegraph. Leaving stockings out at Christmas goes back to the legend of St Nicholas. Known as the gift giver, on one occasion he sent bags of gold down a chimney at the home of a poor man who had no dowry for his unmarried daughters. The gold fell into stockings left hanging to dry. St Nicholas was later referred to by the Dutch as Sinterklaas and eventually, by English-speakers, as Santa Claus.
  2. Osborne, Rick (2012). Legend of the Christmas Stocking (yn English). HarperCollins. ISBN 9780310737391.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Armah, Daniel A. (1 November 2011). "Lessons of Christmas". Xulon Press. t. 228. Cyrchwyd 25 December 2017.