Neidio i'r cynnwys

Horst Buchholz

Oddi ar Wicipedia
Horst Buchholz
GanwydHorst Werner Buchholz Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 2003 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodMyriam Bru Edit this on Wikidata
PlantChristopher Buchholz Edit this on Wikidata
Gwobr/auDeutscher Filmpreis Edit this on Wikidata
llofnod

Actor o'r Almaen oedd Horst Werner Buchholz (4 Rhagfyr 1933 – 3 Mawrth 2003) a ymddangosodd mewn mwy na 60 o ffilmiau rhwng 1951 a 2002. Yn ystod ei ieuenctid, gelwid ef yn "James Dean yr Almaen". Mae e'n fwyaf adnabyddus yn y gwledydd Saesneg eu hiaith am ei rôl yn The Magnificent Seven (1960) . Roedd ei rolau eraill yn cynnwys comiwnydd yn One, Two, Three (1961) gan Billy Wilder a Dr. Lessing yn Life Is Beautiful (1997).

Cafodd Buchholz ei eni yn Berlin, yn fab i Maria Hasenkamp. Cymerodd gyfenw ei lysdad Hugo Buchholz, crydd, a briododd ei fam ym 1938. Rhoddodd ei hanner chwaer Heidi, y llysenw "Hotte iddo".

Ar ôl ei ddyddiau ysgol gadawodd gartref ei blentyndod yn Nwyrain Berlin i weithio yng Ngorllewin Berlin. Cafodd rolau ar y llwyfan ac ar y radio. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm Brydeinig yn Tiger Bay (1959).[1]

Bu farw Buchholz yn sydyn yn 69 oed yn Charité, ysbyty Berlin, o niwmonia a ddatblygodd ar ôl llawdriniaeth ar gyfer toriad clun. [2][3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The Oxford Handbook of Children's Film (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. 2022. t. 369. ISBN 9780190939359.
  2. "Magnificent Seven actor dies". BBC News. BBC. 4 Mawrth 2003. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2019.
  3. McGeorge, Alistair (11 Tachwedd 2016). "Last of the Magnificent Seven rides into the sunset: Who were the other cowboys in Robert Vaughn's posse?". Daily Mirror (yn Saesneg). MGN Limited. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2019.