Neidio i'r cynnwys

Hornbostel–Sachs

Oddi ar Wicipedia
Hornbostel–Sachs
Enghraifft o:dosbarthiad o offerynnau cerdd Edit this on Wikidata
Rhan oorganoleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1914 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscastanets Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/011x1q edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

System o ddosbarthu offerynnau cerdd yw Hornbostel–Sachs neu Sachs–Hornbostel. Fe'i dyfeisiwyd gan y cerddolegwyr Erich Moritz von Hornbostel (1877–1935) a Curt Sachs (1881–1959) a gyhoeddodd eu system yn y Zeitschrift für Ethnologie yn 1914. Yn ddiweddarach fe wnaethant rai addasiadau iddi. Diweddarwyd y system yn 2011 fel rhan o waith y prosiect MIMO (Musical Instrument Museums Online; Amgueddfeydd Offerynnau Cerdd Ar-lein).[1] Dyma'r system a ddefnyddir fwyaf eang ar gyfer dosbarthu offerynnau cerdd, ac mae o ddefnydd arbennig ym maes ethnogerddoreg.

Mae'r system yn seiliedig ar hierarchaeth o gategorïau wedi'u patrymu ar System Ddegol Dewey. Ar y lefel uchaf mae pum categori yn ôl math y deunydd sy'n cynhyrchu sain:

  1. corff yr offeryn ei hun (megis clychau) – idioffonau
  2. pilen (megis drymiau) – membranoffonau
  3. llinyn (megis telynau, ffidlau, gitarau) – cordoffonau
  4. colofn aer (megis ffliwtiau, sacsoffonau, trympedi) – aeroffonau
  5. trydan (megis organau trydan, syntheseisyddion) – electroffonau

Mae'r pum lefel uchaf hyn wedi'u rhannu a'u hisrannu ar sail y ffordd y cynhyrchir sain. Er enghraifft, gallai llinynau cordoffon gael eu plycio (megis telyn), eu taro (megis piano), neu chwarae â bwa (megis sielo). Y canlyniad yw system o dros 300 o gategorïau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ MIMO; adalwyd 4 Rhagfyr 2025