Horace Mann

Oddi ar Wicipedia
Horace Mann
Ganwyd4 Mai 1796 Edit this on Wikidata
Franklin, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw2 Awst 1859 Edit this on Wikidata
Yellow Springs, Ohio Edit this on Wikidata
Man preswylMassachusetts Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd, cyfreithiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, aelod o Dŷ Cynrycholwyr Massachusetts, aeold o Sened Talaith Massachusetts Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Antioch Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolWhig Party Edit this on Wikidata
PriodMary Tyler Mann Edit this on Wikidata
PlantHorace Mann Junior Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Addysgwr a gwleidydd Americanaidd oedd Horace Mann (4 Mai 17962 Awst 1859).

Ganed yn Franklin, Massachusetts, Unol Daleithiau America, a chafodd febyd hynod o dlawd. Er gwaethaf addysg annigonol yn yr ysgol, ymelwodd ar lyfrgell gyhoeddus Franklin a thiwtoriaeth yn yr ieithoedd Ladin a Groeg oddi ar Samuel Barrett, a fu yn ddiweddarach yn un o brif weinidogion yr Undodwyr. Derbyniwyd Mann yn ugain oed i'r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Brown, ac yno ymddiddorai yng ngwleidyddiaeth, addysg, a diwygio cymdeithasol. Fe'i dewiswyd i annerch ei ddosbarth ar y diwrnod graddio ym 1819, ac mae'r araith ffarwél honno yn esiampl o'i optimistiaeth a'i ddyngarwch.[1]

Penderfynodd Mann gychwyn ar yrfa yn y gyfraith, a chychwynnodd drwy ddysgu dan gyfreithiwr yn Wrentham, Massachusetts, am gyfnod byr cyn iddo ddychwelyd at Brifysgol Brown am flwyddyn i addysgu myfyrwyr. Astudiodd yn Ysgol y Gyfraith yn Litchfield, Connecticut, a fe'i galwyd i'r Bar ym 1823. Ymsefydlodd yn Dedham, Massachusetts, i drin y gyfraith ac enillodd enw fel cyfreithegwr craff a rhethregwr medrus. Gwasanaethodd yn Nhŷ Cynrychiolwyr Massachusetts o 1827 i 1833 a gweithiodd i sefydlu gwallgofdy taleithiol yn Worcester. Symudodd i Boston ym 1833 a gwasanaethodd yn Senedd Massachusetts o 1835 i 1837, gan gynnwys yn swydd y llywydd ym 1836.[1]

Ym 1837 sefydlwyd bwrdd addysg taleithiol gyda'r nod o ddiwygio ysgolion Massachusetts, a phenodwyd Mann yn ysgrifennydd cyntaf y bwrdd. Wedi iddo adael y ddeddfwrfa, nid oedd fawr o rym gan Mann i newid polisïau'r dalaith, ond bu'n arweinydd amlwg a dylanwadol yn y mudiad addysg gyhoeddus wrth ei swydd yn bennaeth ar y bwrdd am 11 mlynedd. Ym 1838 sefydlodd y Common School Journal, cylchgrawn pythefnosol i athrawon, ac ysgrifennodd 12 o adroddiadau blynyddol ar bwnc addysgeg ac yn dadlau o blaid yr ysgol gyhoeddus a'r angen am athrawon proffesiynol. Bu'n aml yn darlithio i'r cyhoedd yn ei ymgyrch i ddemocrateiddio a rhyddfreinio'r gyfundrefn addysg. Cafodd ei wrthwynebu gan glerigwyr a oedd yn rheoli'r ysgolion enwadol, yr awdurdodau addysg lleol, ac addysgwyr yr hen do.[1]

Yn sgil marwolaeth y cyn-Arlywydd John Quincy Adams ym 1848, ymddeolodd Mann o'r bwrdd addysg er mwyn cymryd sedd Adams yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Fel Cyngreswr dros Massachusetts, bu'n wrthwynebydd pybyr o gaethwasiaeth. Ymgyrchodd heb ennill yn etholiad llywodraethwr Massachusetts ym 1852. Penodwyd yn llywydd Coleg Antioch yn Yellow Springs, Ohio, ym 1853, a bu yno hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Horace Mann yn Yellow Springs yn 63 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Horace Mann. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2020.