Hopkin Maddock

Oddi ar Wicipedia
Hopkin Maddock
Ganwyd1881 Edit this on Wikidata
Pontycymer Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1921 Edit this on Wikidata
Llangynwyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Crist, Aberhonddu Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes filwrol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd yr Is-gapten Hopkin "Hop" Thomas Maddock MC (1881 - 15 Rhagfyr 1921) [1] (a restrir yn anghywir yn aml fel Maddocks) [2] yn asgellwr rygbi'r undeb ryngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Bontycymer a Chymru Llundain a rygbi sirol i Forgannwg a Middlesex. Chwaraeodd Maddock mewn chwe gêm rygbi rhyngwladol i Gymru gan sgorio cyfanswm o chwe chais. Yn rhedwr chwim, creodd Maddock sawl record sgorio yng Nghymru Llundain, gan sgorio 170 o geisiau yn ystod ei yrfa gyda’r clwb.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Maddock ym Mhontycymer, yn blentyn i Jonathan Maddock, adeiladwr ac Elizabeth (née Thomas) ei wraig, fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Crist, Aberhonddu.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyn 1995 roedd rygbi yn gêm amatur,[3] nid oedd hawl i chwaraewyr derbyn tâl am chwarae, gan hynny bu'n rhaid i'r chwaraewyr dilyn gyrfa amgen er mwyn ennill eu bywoliaeth. Symudodd Maddock i Lundain er mwyn gweithio fel gwas sifil yn yr adran trethi.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Maddock rygbi gyntaf ar lefel gystadleuol pan gafodd ei ddewis i chwarae i XV Coleg Crist.[4] Ar ôl gadael y coleg, ymunodd â chlwb ei bentref genedigol, Pontycymer, ond yn ddiweddarach symudodd i Lundain, gan ymuno â thîm yr alltudion Cymreig, Cymry Llundain [5] ar ddechrau tymor 1900/01.[6] Gyda Chymru Llundain creodd Maddock sawl record clwb. Ef yw'r unig chwaraewr i sgorio pum cais neu fwy mewn gêm unigol ar ddau achlysur.[7] Gosododd Maddock y record hefyd ar gyfer y nifer mwyaf o geisiadau mewn tymor, ddwywaith, gyda 25 cais mewn 22 gêm yn nhymor 1905-06, ac yna'n curo ei record ei hun gyda 26 cais mewn 30 gêm yn ymgyrch 1908-09. Yn ei yrfa gyfan gyda Chymru Llundain, sgoriodd Maddock 170 o geisiadau, record sy'n dal i sefyll heddiw.

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Yn ystod tymor 1905/06 roedd Maddock ar anterth ei alluoedd fel chwaraewr, ac fe’i cydnabu o’r diwedd am ei gyflawniadau pan gafodd ei ddewis i chwarae i Gymru yng nghyfarfyddiad agoriadol Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1906. Chwaraewyd yr ornest oddi cartref yn Lloegr. Maddock oedd yr unig gap newydd [8] a ddaeth i mewn i garfan Cymru. Fe'i dewiswyd yn lle Willie Llewellyn; a chymerodd ei le ar yr asgell gyferbyn â chyd-chwaraewr o Gymru Llundain, Teddy Morgan. Roedd yn ddechrau perffaith i yrfa ryngwladol Maddock; gyda'r pac Cymreig yn dominyddu'r Saeson i ganiatáu digon o feddiant i'r cefnwyr.[9] Adeiladodd Cymru mantais gynnar gyda cheisiadau gan Pritchard a Hodges; cyn i gapten Cymru, Gwyn Nicholls, gipio’r bêl, gwyro heibio tri chwarteri Lloegr, Hind a Raphael, cyn tynnu’r cefnwr Jackett i mewn a rhyddhau’r bêl i Maddock, a sgoriodd cais ar ei ymddangosiad cyntaf.[10] Gwnaeth Maddock argraff ddigonol i gadw ei safle yn y garfan genedlaethol am weddill y Bencampwriaeth, a sgoriodd ei ail gais rhyngwladol mewn buddugoliaeth dros yr Alban; er i Gymru methu cipio'r teitl a'r Y Goron Driphlyg ar ôl perfformiad rhyfeddol gan Iwerddon ar Faes Sioe Balmoral.[11]

Ym 1906 ymwelodd y tîm teithiol cyntaf o Dde Affrica ag Ynysoedd Prydain, ac er na threfnwyd gêm gyda Chymry Llundain, darparodd y clwb dri chwaraewr ar gyfer y cyfarfyddiad rhwng y twristiaid a thîm Sirol Morgannwg. Y rhai a ddewiswyd oedd Teddy Morgan a Maddock ar yr asgell, a Jack Williams yn y pac. Dewis cyntaf Morgannwg ar gyfer yr asgell oedd Morgan a Billy Trew o dîm Abertawe, ond ar ôl i Gwyn Nicholls gyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r gêm, cafodd Trew ei osod yn safle Nicholl, gan wneud lle ar yr asgell i Maddock.[12]

Cafodd Maddock ei ollwng o dîm Cymru i wynebu De Affrica, mis yn ddiweddarach; gyda'r dewiswyr Cymreig yn dewis Morgan a Johnny Williams. Yna yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1907, ymddeolodd Morgan o rygbi rhyngwladol, gan ganiatáu i Maddock ddychwelyd i'r garfan. Roedd gêm gyntaf y tymor yn erbyn Lloegr. Sgoriodd Cymru chwe chais heb ateb. Sgoriodd Maddock a Trew dwy gais yr un. Yn yr ail gêm collodd Cymru i'r Alban enillwyr y Bencampwriaeth yn y pen draw, mewn gêm â sgôr isel. Yna disodlwyd Maddock gan Jones yng ngêm olaf yr ymgyrch, buddugoliaeth gartref dros Iwerddon.

Ar ôl tair blynedd allan o dîm rhyngwladol Cymru, cafodd Maddock ei ail-ddewis ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1910, a chyfarfyddiad cyntaf mewn Pencampwriaeth swyddogol rhwng Cymru â Ffrainc. Gem a enillodd Cymru 49-14. Sgoriodd Cymru ddeg cais, gyda Maddock yn sgorio dwy ohonynt. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, a’r ceisiadau, gollyngwyd Maddock ar gyfer y gêm nesaf. Dyma oedd ei ymddangosiad rhyngwladol olaf.

Parhaodd i chwarae i Gymry Llundain tan 1913.[13]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru [14]

Gyrfa filwrol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd Maddock â'r Fyddin Brydeinig. Ymrestrodd ar 15 Medi 1914 gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol (Bataliwn Ysgolion Bonedd). Ar 25 Medi 1916 comisiynwyd ef i'r Corfflu Gynnau Peiriant, gan gyrraedd rheng Is-gapten. Dyfarnwyd y Groes Filwrol i Maddock ym 1918 [15] am ei ddewrder wrth gwmpasu enciliad ei uned o Les Mesnil.[16] Er bod ei uned wedi’i amgylchynu gan y gelyn, parhaodd Maddock i danio hyd fod pob dyn wedi croesi pont i ddiogelwch, ef oedd y dyn olaf i encilio i ddiogelwch. Er i Maddock oroesi'r rhyfel, ni wellodd o anaf a gafodd ym mrwydr y Somme ym 1916, a bu farw o'r anaf hwnnw ym 1921, yn 40 oed. Yng ngêm olaf 1921 bu chwaraewyr Cymry Llundain yn gwisgo rhwymynnau braich du er cof am Maddock.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Billot, John (1974). Springboks in Wales. Glynrhedynog: Ron Jones Publications.
  • Griffiths, John (1982). The Book of English International Rugby 1872-1982. Llundain: Willow Books. ISBN 0002180065.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Jones, Stephen; Paul Beken (1985). Dragon in Exile, The Centenary History of London Welsh R.F.C. Llundain: Springwood Books. ISBN 0-86254-125-5.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hop Maddock player profile Scrum.com
  2. Yng nghasgliad Papurau Cymru LlGC mae 637 cyfeiriad at H T Maddocks a dim ond 4 i H T Maddock
  3. world.rugby. "An open game: The story of how rugby union turned professional | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 1 Chwefror 2021.
  4. "LLWYNYPIA V NEATH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-12-03. Cyrchwyd 2021-02-05.
  5. "LONDON WELSH V LONDON IRISH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-12-06. Cyrchwyd 2021-02-05.
  6. Jones (1985), tud 30.
  7. Jones (1985), tud 314.
  8. "PLAYER'S RECORDS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-01-13. Cyrchwyd 2021-02-05.
  9. Griffiths (1982), tud 103.
  10. "TODAYS MATCH AT RICHMOND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-01-13. Cyrchwyd 2021-02-05.
  11. "THE TRIPLE CROWN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-03-10. Cyrchwyd 2021-02-05.
  12. Billot (1974), tud 28.
  13. Jones (1985), tud 43.
  14. Smith (1980), tud 469.
  15. Pontycymmer on the map as one of those clubs in a no-man’s land WalesOnline.co.uk
  16. Jones (1985), tud 69.