Honoré Daumier
Gwedd
| Honoré Daumier | |
|---|---|
| Ffugenw | Daumier, Honore, Daumier, Honore Victorin |
| Ganwyd | 26 Chwefror 1808 Marseille |
| Bu farw | 10 Chwefror 1879 Valmondois |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, cartwnydd dychanol, cerflunydd, lithograffydd, engrafwr, darlunydd, arlunydd graffig, artist, drafftsmon |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The Third-Class Carriage, The Melodrama, The Chess players, The Laundress, Don Quijote and Sancho Panza |
| Arddull | caricature, figure |
| Mudiad | realaeth |
| Priod | Alexandrine Dassy |
Arlunydd, cerflunydd a chartwnydd o Ffrancwr oedd Honoré Daumier (26 Chwefror 1808 – 10 Chwefror 1879). Roedd yn enwog am ei wawdluniau o wleidyddwyr Ffrainc yn y 19g. Ym 1830 dechreuodd gyfrannu cartwnau at y cyfnodlyn Caricature; fe'i garcharwyd am gyfnod byr ym 1832 am wawdio'r brenin Louis-Philippe. Gwaharddwyd dychan gwleidyddol yn Ffrainc ym 1835 a bu'n rhaid i Daumier droi at ddychanu bywyd cyfoes. Dychwelodd at ddychan gwleidyddwyr Ffrainc yn y chwyldro a fu yn Ffrainc ym 1848.
- Cartŵn Daumier yn dychan y brenin Louis-Philippe fel cymeriad François Rabelais, Pantagruel
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Langdon, Helen. "Daumier, Honoré", The Oxford Companion to Western Art