Hogia'r Wyddfa

Oddi ar Wicipedia
Hogia'r Wyddfa
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata
Yr hogiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2009.
Hogia'r Wyddfa gydag Annette Bryn Parri 2006

Grŵp adloniant Cymraeg yw Hogia'r Wyddfa a ffurfiwyd yn 1963. Maen nhw wedi bod yn perfformio mewn cyngherddau a nosweithiau o adloniant ar hyd a lled Cymru a'r tu hwnt am dros hanner can mlynedd.

Er bod Hogia’r Wyddfa wedi ymddeol droeon, maen nhw wedi ail-ffurfio sawl tro i berfformio. Cyhoeddwyd eu recordiau cynharaf gan Recordiau'r Dryw gan gynnwys caneuon fel "Safwn yn y Bwlch", "Tylluanod" ac "Aberdaron". Ers recordio’u halbwm cyntaf gyda Sain yn 1974, maen nhw wedi recordio sawl un arall, a phob un yn llwyddiant ysgubol o ran gwerthiant. Roedd Hogia'r Wyddfa ymhlith y cyntaf o artistiaid Sain i dderbyn Disg Aur.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Cyn ymddeol, Prifathro oedd Arwel Jones, tra bod Myrddin Owen yn gweithio yn Adran Cynllunio Cyngor Dwyfor, Vivian Williams yn rhedeg ei siop Golff ym Mangor ac Elwyn Jones yn gweithio yn Amgueddfa Chwarel Dinorwig. Bu farw Richard Huw Morris eu cyfeilydd cyntaf, ond fe ymunodd Annette Bryn Parri fel pianyddes, cyfansoddwraig a threfnydd.