Neidio i'r cynnwys

Hoced Mawr y Lleuad 1835

Oddi ar Wicipedia
Hoced Mawr y Lleuad 1835
Enghraifft o:erthygl newyddiadur Edit this on Wikidata
AwdurRichard Adams Locke Edit this on Wikidata
CyhoeddwrThe Sun Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1835 Edit this on Wikidata
Genregwyddonias, ffugwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Prif bwncVespertilio-homo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Portread o ystlum-dyn ("Vespertilio-homo"), o rifyn o'r gyfres am y Lleuad a gyhoeddwyd yn Napoli

Roedd "Hoced Mawr y Lleuad 1835" (en: The Great Moon Hoax 1835)[1] yn gyfres o chwe erthygl a gyhoeddwyd yn The Sun (papur newydd yn Efrog Newydd), yn dechrau ar 25 Awst, 1835, am y darganfyddiad tybiedig o fywyd a gwareiddiad ar y Lleuad. Priodolwyd y darganfyddiadau trwy dwyll i Syr John Herschel a'i gydymaith dychmygol Andrew Grant. [2]

Hysbysebwyd y stori ar 21 Awst, 1835, fel stori nodwedd ar y gweill, yr honnir iddi gael ei hailargraffu o The Edinburgh Courant.[3] Cyhoeddwyd y cyntaf o'r gyfres bedwar diwrnod yn niweddarach ar 25 Awst. Ni thynnwyd yr erthyglau hyn yn ôl erioed; fodd bynnag, ar 16 Medi, 1835, cyfaddefodd The Sun fod yr erthyglau wedi'u ffugio mewn gwirionedd.[4]

Yr honiad

[golygu | golygu cod]

Dyma bennawd yr erthygl:

GREAT ASTRONOMICAL DISCOVERIES,
LATELY MADE
BY SIR JOHN HERSCHEL, L.L.D. F.R.S. &c.
[From Supplement to the Edinburgh Journal of Science.]
Preswylwyr y Lleuad, argraffiad Cymraeg 1836

Disgrifiodd yr erthyglau anifeiliaid ar y Lleuad, gan gynnwys buail, geifr uncorn, sebras bach, uncyrn, afancod di-gynffon yn sefyll ar ddeudroed, a bodau dynol asgellog tebyg i ystlumod ("Vespertilio-homo") a adeiladodd temlau. [5] Roedd yno goed, moroedd a thraethau. Mae'n honni bod y darganfyddiadau hyn wedi'u gwneud gyda "thelesgop aruthrol o ddyfeisiad hollol newydd". Dywedwyd bod y telesgop—a gludwyd i Dde Affrica o New England—llawer gwaith yn fwy nag unrhyw delesgop arall yn y byd. Roedd y lens yn mesur "24 troedfedd mewn diamedr a 7 tunnell mewn pwysau". [5]

Gellir cyfieithu "Vespertilio-homo" o'r Lladin fel ystlum-dyn.[6] [7]

Ychwanegodd ailargraffiad ym 1836 ail fath o fod dynol o'r enw Vespertiliones.[8] Honnir mai awdur yr hanes oedd Dr Andrew Grant, cydymaith teithiol a sgrifellwr Syr John Herschel, ond roedd Grant yn gymeriad ffug.

Yn y pen draw, cyhoeddodd yr awdur bod yr asrsylliadau wedi'u terfynu o herwydd ddinistrio'r telesgop, trwy i'r Haul achosi'r lens i weithredu fel " gwydr llosgi ", gan roi'r arsyllfa ar dân.[9]

Awduraeth

[golygu | golygu cod]

I gychwyn, nid oedd awdur yr erthygl yn hysbys i'r cyhoedd. Priodolwyd yr awduraeth wedyn i Richard Adams Locke (1800-1871), [10] [11] gohebydd a oedd yn gweithio i'r Sun ym 1835. Cyfaddefodd Locke yn gyhoeddus mae ef oedd yr awdur ym 1840, mewn llythyr i'r papur wythnosol New World.[12] Er gwaethaf honiadau Locke, roedd sibrydion yn parhau bod eraill wedi bod yn ymwneud â chreu'r erthyglau, gan gynnwys Jean-Nicolas Nicollet, seryddwr Ffrengig a Lewis Gaylord Clark, newyddiadurwr arall, ond nid oes tystiolaeth dda i ddangos bod neb ond Locke yn gyfrifol am yr hoced.

Mae'n debyg mai bwriad pennaf y twyll oedd creu stori gyffrous a fyddai'n cynyddu gwerthiant The Sun. Roedd yn un o'r "papurau ceiniog" a oedd yn cylchredeg yn y cyfnod. Papurau oedd yn costio mwy i'w cynhyrchu na phris eu gwerthu a gan hynny yn ddibynnol ar hysbysebion i greu elw. Roedd y pris byddai cwmnïau yn fodlon talu am hysbyseb yn seiliedig ar faint o gylchrediad oedd gan y papur.[13] Roedd The Sun yn arloeswr o ran cynhyrchu newyddiaduraeth ysgytwol a chyffrous yn aml, y papur newydd cyntaf yn Efrog Newydd i greu adroddiadau am lofruddiaethau, hunanladdiadau, digwyddiadau personol, ac ysgariadau ac ati, ac oherwydd straeon fel hyn ffynnodd The Sun gan ddenu llawer o ddarllenwyr at ei erthyglau, a thrwy hynny at ei hysbysebion.[14] Mae'n debyg mae dyma'r enghraifft gyntaf o "ffug newyddiaduraeth / fake news" i'w gyhoeddi mewn papur newyddion erioed.

Crediniaeth

[golygu | golygu cod]

Er bod y stori yn anghredadwy bellach, roedd rhesymau da dros ei gredu yn y 1830au. Roedd y syniad o'r "Dyn yn y lleuad" yn rhan o lên gwerin llawer parth o'r byd. Roedd gwyddonwyr uchel eu parch yn dyfalu am y posibilrwydd o fywyd arall fydol (ac yn wir yn dal i wneud.)[15] Er bod sicrwydd bellach nad oes bywyd cymhleth mewn unrhyw ran arall o gysawd ein haul, doedd hynny ddim yn wybyddus dwy ganrif yn ôl. Roedd Syr John Herschel a'i dad Syr William Herschel yn enwog am ddyfeisio telesgopau mwy a gwell. Roedd Syr John yn Ne Affrig yn gwneud arsylliadau pan gyhoeddwyd y stori.[16]

Hanes y Lleuad

[golygu | golygu cod]
Clawr y llyfr o 1857
Hanes y Lleuad (1857)

Yn fuan ar ôl i'r erthyglau cael eu cyhoeddi fel llyfr ym 1836, cyhoeddodd y bardd ac argraffydd o Lanrwst, John Jones (Pyll) talfyriad ohoni yn y Gymraeg "Hanes y Lleuad". Dim ond 16 o dudalennau (tua 7,500 o eiriau) sydd i'r llyfr Cymraeg, tra fod yr erthyglau Saesneg gwreiddiol yn cynnwys tua 18,000 gair. Er bod yr erthyglau wedi eu cydnabod fel ffugiadau, cafodd llyfr Pyll ei gyhoeddi fel llyfr ffeithiol gan Syr John Herschel. Does dim gair yn y cyhoeddiad i awgrymu yn wahanol. Mae'n debyg bod Pyll yn dal i gredu eirwiredd yr honiadau hyd at ddiwedd ei oes gan iddo cyhoeddi ail argraffiad ohoni ym 1857,[17] eto heb awgrym o ffug.

Mae trawsysgrif o'r Saesneg gwreiddiol ar gael gan Wicsource Saesneg [18]. Mae trawsysgrif o'r llyfryn Cymraeg ar gael ar Wicidestun [19]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The 'Great Moon Hoax' that fooled the world". BBC (yn Saesneg). 2024-08-29. Cyrchwyd 2025-03-24.
  2. Vida, István Kornél (2012). "The "Great Moon Hoax" of 1835". Hungarian Journal of English and American Studies 18 (1/2): 431–441. JSTOR 43488485.
  3. Maliszewski, Paul. "Paper Moon", Wilson Quarterly. Winter 2005. p. 26.
  4. ""The Great Moon Hoax" is published in the "New York Sun" | August 25, 1835". HISTORY.
  5. 5.0 5.1 Zielinski, Sarah. "The Great Moon Hoax Was Simply a Sign of Its Time". Smithsonian Magazine.
  6. István Kornél Vida (2012). "The "Great Moon Hoax" of 1835". Hungarian Journal of English and American Studies (Hjeas) (Centre for Arts, Humanities and Sciences (CAHS)) 18 (1/2): 434. JSTOR 43488485. https://www.jstor.org/stable/43488485.
  7. Dave Kindy (2022). "Great Moon Hoax of 1835 convinced the world of extraterrestrial life". The Washington Post.
  8. J L Hilton (2005). "Lucian and the Great Moon Hoax of 1835". Akroterion (University of KwaZulu-Natal) 50. doi:10.7445/50-0-78. https://akroterion.journals.ac.za/pub/article/view/78.
  9. Gunn, James E.; Asimov, Isaac (1975). Alternate worlds: the illustrated history of science fiction. Englewood Cliffs, NJ: Prentice-Hall. t. 51. ISBN 0-89104-049-8.
  10. "They Formed A Pair". The Deseret Weekly. Salt Lake City, UT: Deseret News Publishing Company. May 13, 1893. t. 665.
  11. Clute, John; Eggeling, John. "Locke, Richard Adams". The Encyclopedia of Science Fiction.
  12. Goodman, Matthew (2008). The Sun and the Moon. New York: Basic Books. t. 274. ISBN 978-0-465-00257-3.
  13. Spencer, David Ralph (2007-01-23). The Yellow Journalism: The Press and America's Emergence as a World Power. Northwestern University Press. ISBN 978-0-8101-2331-1.
  14. "The Sun (New York [N.Y.]) 1833-1916". Library of Congress, Washington, D.C. 20540 USA.
  15. Hutton, Sarah (2005), "The Man in the Moone and the New Astronomy: Godwin, Gilbert, Kepler", Études Épistémè 7: 3–13, http://revue.etudes-episteme.org/IMG/pdf/ee_7_art_hutton-2.pdf
  16. "Herschel, John Frederick William (1792 – 1871)". Hahnemann House Trust (yn Saesneg). 2009-03-23. Cyrchwyd 2025-03-24.
  17. Pryse's Cambrian book register 1857
  18. The Moon Hoax ar Wicisource
  19. Hanes y Lleuad ar Wicidestun