Hipparchus
Gwedd
| Hipparchus | |
|---|---|
| Ganwyd | Ἵππαρχος c. 190 CC Nicaea |
| Bu farw | c. 120 CC Rhodes |
| Dinasyddiaeth | teyrnas Pergamon |
| Galwedigaeth | seryddwr, mathemategydd, daearyddwr |
| Adnabyddus am | Ton Aratou kai Eudoxou Phainomenon exegeseos biblia tria, Against the Geography of Eratosthenes, On Bodies Carried Down by Their Weight, catalog sêr Hipparchus, On Sizes and Distances, rhif Schröder–Hipparchus |
| Gwobr/au | International Space Hall of Fame |
Seryddwr, daearyddwr a mathemategydd Groegaidd oedd Hipparchus (Groeg : Ἵππαρχος, c. 190 – c. 120 CC). Roedd yn arsylwr manwl iawn. Cymharodd ei arsylwadau ei hun o'r sêr â rhai seryddwyr cynharach, a darganfu y symudiad araf ym mudiant y Ddaear a elwir yn flaenoriad y cyhydnosau. Dyfeisiodd ddull ar gyfer pennu lleoliadau ar y Ddaear gan ddefnyddio lledred a hydred. Lluniodd y catalog sêr gorau hyd at dyddiad hwnnw, yn cynnwys lleoliadau tua 900 o sêr ynghyd â'u disgleirdeb, a chreuodd fap sêr a oedd yn eu harddangos. Gosododd hefyd sylfeini trigonometreg fodern.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hipparchus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Ebrill 2025.