Hiliaeth Amgylcheddol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Flint Water Crisis.jpg
Protestwyr argyfwng dŵr yn y Fflint, Michigan, argyfwng sy'n effeithio'n anghymesur ar bobl o gymunedau lliw ac incwm isel.
Data cyffredinol
Mathhiliaeth Edit this on Wikidata
Mae llygredd yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau lliw a chymunedau tlawd.

Cysyniad o fewn y mudiad cyfiawnder amgylcheddol yw hiliaeth amgylcheddol a ddatblygwyd yn Unol Daleithiau America on y 1970 a'r 1980au. Bathwyd "Hiliaeth Amgylcheddol" ym 1982 gan Benjamin Chavis, cyn gyfarwyddwr gweithredol Comisiwn Cyfiawnder Hiliol Eglwys Unedig Crist (UCC). Defnyddir y term i ddisgrifio anghyfiawnder amgylcheddol sy'n digwydd mewn cyd-destun hiliol mewn ymarfer a pholisi. Yn yr Unol Daleithiau, mae hiliaeth amgylcheddol yn ddull o feirniadu anghydraddoldebau rhwng ardaloedd trefol a maestrefol o ran lliw croen. Yn rhyngwladol, gall hiliaeth amgylcheddol gyfeirio at effeithiau'r fasnach wastraff fyd-eang, fel effaith negyddol allforio gwastraff electronig neu wastraff plastig i wlad dlawd.

Enghreifftiau yn ôl rhanbarth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gogledd America[golygu | golygu cod y dudalen]

Archebion brodorol America[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffotograff o 1892: pentwr o benglogau'r bual Americanaidd yn Detroit (MI) yn aros i gael ei droi'n llwch ar gyfer gwrtaith neu siarcol. Anogodd Byddin yr Unol Daleithiau helfeydd enfawr o'r bual i orfodi Americanwyr Brodorol oddi ar eu tiroedd traddodiadol ac i diriogaeth neilltuedig ('reservations') i'r gorllewin. Caiff hyn ei ystyried yn enghraifft gynnar o hiliaeth amgylcheddol.

Gellir ystyried Deddf Dileu Indiaidd 1830 a Llwybr y Dagrau yn enghreifftiau cynnar o hiliaeth amgylcheddol gan ddyn gwyn yr Unol Daleithiau. O ganlyniad i'r Ddeddf hon, erbyn 1850, roedd yr holl lwythau i'r dwyrain o'r Mississippi wedi'u symud i diroedd y gorllewin, gan eu cyfyngu yn y bôn i "diroedd a oedd yn rhy sych, rhy anghysbell, neu ry ddiffrwyth i ddenu sylw ymsefydlwyr a chorfforaethau." [1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd cyfleusterau milwrol yn aml wedi'u lleoli ger y reservations hyn, gan arwain at sefyllfa lle mae "nifer anghymesur o'r cyfleusterau milwrol mwyaf peryglus wedi'u lleoli ger tiroedd y bob brodorol hyn."[2] Canfu astudiaeth a ddadansoddodd oddeutu 3,100 o siroedd yn yr Unol Daleithiau fod cysylltiad pendant rhwng tiroedd Brodorol America â safleoedd gyda ffrwydron byw a ystyrir yn hynod beryglus.

Yn fwy diweddar, defnyddiwyd tiroedd Brodorol America ar gyfer gwaredu gwastraff a dympio anghyfreithlon gan Lywodraeth yr UD a chorfforaethau rhyngwladol.[3][4] Cynullodd y Tribiwnlys Rhyngwladol Pobl Gynhenid a Chenhedloedd Gormesol (The International Tribunal of Indigenous People and Oppressed Nations), ym 1992 i archwilio hanes gweithgaredd troseddol yn erbyn grwpiau brodorol yn yr Unol Daleithiau,[5] a chyhoeddodd Significant Bill of Particulars yn amlinellu cwynion y brodorion yn erbyn y UD. Roedd hyn yn cynnwys honiadau bod yr Unol Daleithiau "wedi caniatáu, cynorthwyo, ac annog a chynllwynio yn fwriadol ac yn systematig i gyflawni dympio, cludo a lleoli deunyddiau gwastraff niwclear, gwenwynig, gwastraff meddygol a pheryglus ayb ar diriogaethau Brodorol America yng Ngogledd America ac mae felly wedi peryglu iechyd, diogelwch a lles corfforol a meddyliol Pobl Brodorol America."

Problem parhaus i ymgyrchwyr o Americanwyr Brodorol yw Piblinell Olew Dakota. Cynigiwyd y byddai'r biblinell yn cychwyn yng Ngogledd Dakota a theithio i Illinois. Er nad yw'n croesi'n uniongyrchol drwy diroedd y Brodorion, mae'r biblinell yn pasio o dan afon Missouri sef prif ffynhonnell dŵr yfed y Brodorion Sioux yn Standing Rock. Gwyddys bod piblinellau'n torri, gyda'r Weinyddiaeth Diogelwch Piblinellau a Deunyddiau Peryglus (Pipeline and Hazardous Materials Safety Administration; PHMSA) yn adrodd am fwy na 3,300 o ddigwyddiadau lle gwelwyd piblinellau olew a nwy yn rhwygo neu'n cracio, er 2010.  Mae'r biblinell hefyd yn croesi mynwent gysegredig Standing Rock Sioux.[6]

Lleisiodd Swyddog Cadwraeth Hanesyddol Brodorol llwyth Standing Rock Sioux bryderon yn ymwneud â safleoedd cysegredig a deunyddiau archeolegol. Anwybyddwyd y pryderon hyn.  Dirymodd yr Arlywydd Barack Obama y drwydded ar gyfer y prosiect ym mis Rhagfyr 2016 a gorchmynnodd astudiaeth ar ailgyfeirio'r biblinell. Gwrthdroodd yr Arlywydd Donald Trump y gorchymyn hwn gan awdurdodi cwblhau'r biblinell.[7] Yn 2017, ochrodd y Barnwr James Boasberg â a Brodorion Sioux Standing Rock. Archebwyd a rhyddhawyd astudiaeth amgylcheddol newydd ym mis Hydref 2018, ond parhaodd y biblinell yn weithredol. [8] Gwrthododd Brodorion Sioux Standing Rock yr astudiaeth, gan fynnu ei fod yn methu â mynd i’r afael â llawer o’u pryderon. Mae ymdrechion ymgyfreitha parhaus yn dal i fodoli a'r Brodorion yn parhau i wrthwynebu Piblinell Olew Dakota mewn ymdrech i'w gau i lawr yn barhaol.[9]

Unol Daleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Unol Daleithiau, yr adroddiad cyntaf i dynnu perthynas rhwng hil, incwm, a'r risg o ddod i gysylltiad â llygryddion oedd "Adroddiad Blynyddol y Cyngor Ansawdd yr Amgylchedd i'r Arlywydd" ym 1971, mewn ymateb i ddympio gwastraff gwenwynig mewn cymuned Americanaidd Affricanaidd. yn Sir Warren, NC.[10] Ar ôl protestiadau yn Sir Warren, Gogledd Carolina , cyhoeddodd Swyddfa Cyfrifiad Cyffredinol yr Unol Daleithiau (GAO) adroddiad ar yr achos ym 1983, a chomisiynodd Eglwys Unedig Crist (UCC) adroddiad yn archwilio’r cysyniad ym 1987 gan dynnu cysylltiad rhwng hil a’r gosod y cyfleusterau gwastraff peryglus.[11][12][13] Roedd y frwydr yn Sir Warren yn ddigwyddiad pwysig wrth sbarduno cyfranogiad lleiafrifoedd, llawr gwlad yn y mudiad cyfiawnder amgylcheddol trwy fynd i’r afael ag achosion o hiliaeth amgylcheddol.

Roedd astudiaeth Swyddfa Atebolrwydd Llywodraeth yr UD mewn ymateb i brotestiadau 1982 yn erbyn safle tirlenwi PCB yn Sir Warren ymhlith yr astudiaethau arloesol cyntaf a dynnodd gydberthynas rhwng cefndir hiliol ac economaidd cymunedau a lleoliad cyfleusterau gwastraff peryglus. Fodd bynnag, roedd cwmpas yr astudiaeth yn gyfyngedig gan iddo ganolbwyntio ar safleoedd tirlenwi gwastraff peryglus oddi ar y safle yn Ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau yn unig.[14] Mewn ymateb i'r cyfyngiad hwn, cyfarwyddodd Comisiwn Eglwys Crist Unedig dros Gyfiawnder Hiliol (CRJ) astudiaeth genedlaethol gynhwysfawr ar batrymau demograffig sy'n gysylltiedig â lleoliad safleoedd gwastraff peryglus.

Canada[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng Nghanada, dywed rhai bod cynnydd yn cael ei wneud i fynd i’r afael â hiliaeth amgylcheddol (yn enwedig yng nghymuned Africville Nova Scotia) gyda phasio Bil 111, Deddf i Fynd i’r Afael â Hiliaeth Amgylcheddol yn Neddfwrfa Nova Scotia.[15] Ond mae cymunedau brodorol fel Cenedl Gyntaf Aamjiwnaang yn parhau i gael eu niweidio gan lygredd o ddiwydiant cemegol Canada wedi'i ganoli yn Ne-ddwyrain Ontario. [16]

Mae pedwar deg y cant o ddiwydiant petrocemegol Canada wedi'i bacio i radiws 15 milltir sgwâr o Sarnia, Ontario. [17] Mae'r boblogaeth yn frodorol yn bennaf, lle mae reservation Aamjiwnaang yn gartref i oddeutu 850 o unigolion y Genedl Gyntaf (neu'r 'Brodorion'). Ers 2002, mae clymbleidiau o unigolion brodorol wedi brwydro yn erbyn crynodiad anghymesur o lygredd yn eu cymdogaeth.

Effaith ar Fenywod Cynhenid Canada[golygu | golygu cod y dudalen]
Y cymdeithasegydd o Ganada, Ingrid Waldron, yn darlithio ar Hiliaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Dalhousie yn 2018.

Mae hiliaeth amgylcheddol yn effeithio'n arbennig ar fenywod ac yn enwedig menywod (neu ferched) brodorol, lliw. Mae llawer o'r cymunedau hyn yn byw mewn ardaloedd gwledig sy'n llawn adnoddau naturiol sy'n ddeniadol iawn i ddiwydiannau echdynnol / mwynol. Mae'r effeithiau hyn nid yn unig yn llygru'r amgylchedd ond hefyd yn cael effeithiau niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol. Mae llawer o'r diwydiannau echdynnol hyn fel olew a nwy a mwyngloddio wedi achosi llygredd i ffynonellau dŵr, ffynonellau bwyd yn ogystal ag effeithiau ar ansawdd aer. Mae hyn wedi dechrau effeithio ar gyrff pobl, yn enwedig cyrff menywod. Mae hyn oherwydd bod y tocsinau a'r gwenwynau o ddiwydiannau echdynnol yn effeithio ar organau atgenhedlu menywod, yn gallu achosi canser yn ogystal ag iechyd eu plant.[18] Mae niwed y gweithgaredd hwn yn para am genedlaethau yn y cymunedau hyn, er enghraifft yng nghymuned frodorol Grassy Narrows yng Ngogledd Ontario, maent yn dal i ddelio ag effeithiau iechyd o lefelau arian byw uchel sydd wedi effeithio ar ddŵr yfed a physgod yn yr ardal a ddigwyddodd yn y 1960au. Nid y llygredd yn unig sy'n effeithio ar fenywod ond hefyd y newidiadau cymdeithasol a ddaw yn sgil diwydiannau echdynnol. Er enghraifft, mewn cymunedau bach sydd â diwydiannau echdynnol mae cyfradd trais domestig yn sylweddol uwch oherwydd bod mewnlifiad o ddynion sengl yn cyrraedd y gymuned.

Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffrainc[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae allforio gwastraff gwenwynig i wledydd yn y De Byd-eang (y Global South) yn un math o hiliaeth amgylcheddol sy'n digwydd yn rhyngwladol. Mewn un achos honedig, gwaharddwyd y cludwr awyrennau Ffrengig Clemenceau rhag mynd i mewn i Alang, iard torri llongau yn India oherwydd diffyg dogfennaeth glir ynghylch ei chynnwys gwenwynig. Yn y pen draw, gorchmynnodd Arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, i'r cludwr, a oedd yn cynnwys tunnell o ddeunyddiau peryglus gan gynnwys asbestos a PCBs, i ddychwelyd i Ffrainc . [19]

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y DU mae hiliaeth amgylcheddol (neu hiliaeth hinsawdd hefyd) wedi cael ei brofi droeon gan grwpiau fel Wretched of the Earth [20] yn 2015 a Black Lives Matter yn 2016 a 2020.[21]

Pobl Romani, Dwyrain Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner y Romani.

Yn byw yn bennaf yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop, gyda phocedi o gymunedau yn yr America a'r Dwyrain Canol, mae'r bobl ethnig Romani wedi bod yn destun gwaharddiad amgylcheddol. Cyfeirir atynt yn aml fel sipsiwn neu'r bygythiad sipsiwn, mae pobl Romani Dwyrain Ewrop yn byw o dan y llinell dlodi mewn trefi siantiau neu slymiau yn bennaf .[22] Maent yn aml yn dod i gysylltiad â thocsinau niweidiol yn y tymor hir o ystyried eu bod yn aml wedi eu lleoli ger tomenni gwastraff a ffatrioedd gwenwynig, ac ni roddir iddyn nhw gyflenwad o ddŵr glân a glanweithdra, mae pobl y Romani wedi bod yn wynebu hiliaeth trwy ddulliau amgylcheddol ers blynyddoedd. Mae llawer o wledydd fel Rwmania, Bwlgaria a Hwngari wedi ceisio gweithredu mentrau diogelu'r amgylchedd ar draws eu gwledydd, ond mae'r mwyafrif wedi methu "mynd i'r afael ag amodau cymunedau Roma " [23] Dim ond ers y 2010au y mae rhyw fath o gyfiawnder amgylcheddol i bobl Romani wedi dod i'r amlwg. Gan geisio cyfiawnder amgylcheddol yn Ewrop, mae'r Rhaglen Cyfiawnder Amgylcheddol bellach yn gweithio gyda sefydliadau hawliau dynol i helpu i frwydro yn erbyn hiliaeth amgylcheddol.

Oceania[golygu | golygu cod y dudalen]

Awstralia[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydliad amlddisgyblaethol yw Cyfiawnder Amgylcheddol Awstralia (The Australian Environmental Justice; AEJ) sydd â phartneriaeth agos â Chyfeillion y Ddaear Awstralia (FoEA). Mae'r AEJ yn canolbwyntio ar gofnodi ac adfer effeithiau anghyfiawnder amgylcheddol ledled Awstralia. Aeth yr AEJ i'r afael â materion sy'n cynnwys "cynhyrchu a lledaenu gwastraff gwenwynig, llygredd dŵr, pridd ac aer, erydiad a difrod ecolegol tirweddau, systemau dŵr, planhigion ac anifeiliaid".[24] Mae'r prosiect yn edrych am anghyfiawnderau amgylcheddol sy'n effeithio'n anghymesur ar grŵp o bobl neu'n effeithio arnynt mewn ffordd nad oeddent yn cytuno gydag ef.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Benjamin F. Chavis, Jr - y dyn a fathodd yr ymadrodd "Hiliaeth amgylcheddol"

Bathwyd "Hiliaeth Amgylcheddol" ym 1982 gan Benjamin Chavis, cyn gyfarwyddwr gweithredol Comisiwn Cyfiawnder Hiliol Eglwys Unedig Crist (UCC). Aeth araith Chavis i’r afael â gwastraff biffenyl polyclorinedig peryglus yn Safle Tirlenwi PCB Sir Warren, Gogledd Carolina.

Diffiniodd Chavis y term fel:

...gwahaniaethu ar sail hil wrth lunio polisïau amgylcheddol, gorfodi rheoliadau a deddfau, targedu cymunedau lliw yn fwriadol gyda gwastraff gwenwynig, cosbi swyddogol gyda gwenwyn a llygryddion sy'n bygwth bywyd yn ein cymunedau, ac eithrio pobl lliw rhag bod yn arweinyddion y symudiadau ecoleg.

Dechreuodd y Mudiad Cyfiawnder Amgylcheddol tua'r un amser â'r Mudiad Hawliau Sifil. Dylanwadodd y Mudiad Hawliau Sifil ar symud pobl sy'n pryderu am eu cymdogaethau a'u hiechyd trwy adleisio'r grymuso a'r pryder sy'n gysylltiedig â gweithredu gwleidyddol. Yma, cyfarfu’r agenda hawliau sifil a’r agenda amgylcheddol. Ysgogodd y gydnabyddiaeth o hiliaeth amgylcheddol y mudiad cyfiawnder amgylcheddol a ddechreuodd yn yr 1970au a'r 1980au yn yr Unol Daleithiau. Er bod hiliaeth amgylcheddol wedi bod ynghlwm yn hanesyddol â'r mudiad cyfiawnder amgylcheddol, am flynyddoedd, mae'r term erbyn hyn wedi bod yn fwyfwy anghysylltiedig. Mewn ymateb i achosion o hiliaeth amgylcheddol, mae sefydliadau ac ymgyrchoedd llawr gwlad wedi dwyn mwy o sylw i hiliaeth amgylcheddol wrth lunio polisïau a phwysleisio'r pwysigrwydd o gael mewnbwn gan leiafrifoedd wrth lunio polisïau. Er i'r term gael ei fathu yn yr UD, mae hiliaeth amgylcheddol hefyd yn digwydd ar lefel ryngwladol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hooks, Gregory; Smith, Chad L. (2004). "The Treadmill of Destruction: National Sacrifice Areas and Native Americans". American Sociological Review 69 (4): 558–575. doi:10.1177/000312240406900405.
  2. Harris, Angela (2016). "The Treadmill and the Contract: A Classcrits Guide to the Anthropocene.". Tennessee Journal of Race, Gender, and Social Justice 5. https://pdfs.semanticscholar.org/407d/8e25aa2d7ad8196d103ea7bdccfd39e9fd14.pdf.
  3. Goldtooth, Tom (1995). "Indigenous Nations: Summary of Sovereignty and Its Implications for Environmental Protection". In Bullard, Robert (gol.). Environmental justice issues, policies, and solutions. Washington, D.C.: Island. tt. 115–23. ISBN 978-1559634175.
  4. Brook, Daniel (1998). "Environmental Genocide: Native Americans and Toxic Waste". American Journal of Economics and Sociology 57 (1).
  5. Boyle, Francis A. (September 18, 1992). "Indictment of the Federal Government of the U.S. for the commission of international crimes and petition for orders mandating its proscription and dissolution as an international criminal conspiracy and criminal organization". Accessed November 6, 2012.
  6. Worland, Justin. "What to Know about the Dakota Access Pipeline Protests". Time.com. Cyrchwyd 8 November 2016.
  7. Meyer, Robinson (June 14, 2017). "The Standing Rock Sioux Claim 'Victory and Vindication' in Court". The Atlantic (yn Saesneg). Cyrchwyd October 20, 2018.
  8. "Civil Action No. 16-1534" (PDF). Earth Justice. 2017. Cyrchwyd October 19, 2018.
  9. Faith, Mike, Jr. "Press Release". www.standingrock.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-08. Cyrchwyd 27 April 2019.
  10. United States of America. Environmental Justice Group. National Conference of State Legislatures. Environmental Justice: A Matter of Perspective. 1995
  11. Chavis, Jr., Benjamin F., and Charles Lee, "Toxic Wastes and Race in the United States," United Church of Christ Commission for Racial Justice, 1987
  12. Siting of Hazardous Waste Landfills and Their Correlation With Racial and Economic Status of Surrounding Communities (RCED-83–168). Office of Government Accountability. June 14, 1983.
  13. Perez, Alejandro; Grafton, Bernadette; Mohai, Paul; Harden, Rebecca; Hintzen, Katy; Orvis, Sara (2015). "Evolution of the environmental justice movement: activism, formalization and differentiation". Environmental Research Letters 10 (10): 105002. Bibcode 2015ERL....10j5002C. doi:10.1088/1748-9326/10/10/105002.
  14. Colquette and Robertson, 159.
  15. Lee, Jan (June 6, 2013). "Understanding Environmental Justice Policies". Triple Pundit. Cyrchwyd November 12, 2018.
  16. MacDonald, Elaine (September 1, 2020). "Environmental racism in Canada: What is it, what are the impacts, and what can we do about it?". Ecojustice.
  17. "The Chemical Valley". www.vice.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-25.
  18. Women’s Earth Alliance and Native Youth Sexual Health Network. "VIOLENCE ON THE LAND, VIOLENCE ON OUR BODIES" (PDF). Cyrchwyd February 26, 2021.
  19. Ahmed, Zubair (January 6, 2006). "Stay out, India tells toxic ship". BBC News. Cyrchwyd November 6, 2012.
  20. "Open Letter from the Wretched of the Earth bloc to the organisers of the People's Climate March of Justice and Jobs | Reclaim the Power". reclaimthepower.org.uk. Cyrchwyd 2019-03-04.
  21. "Black Lives Matter Activists Shut Down London City Airport". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-03-04.
  22. Loveland, Matthew T.; Popescu, Delia (July 25, 2016). "The Gypsy Threat Narrative". Humanity & Society (Thousand Oaks, California: SAGE Publications) 40 (3): 329–352. doi:10.1177/0160597615601715. ISSN 0160-5976.
  23. Harper, Krista; Steger, Tamara; Filcak, Richard (July 2009). "Environmental Justice and Roma Communities in Central and Eastern Europe". ScholarWorks@UMass Amherst.
  24. "Australian Environmental Justice project". Friends of The Earth Australia. Cyrchwyd February 17, 2020.