Hilde Domin

Oddi ar Wicipedia
Hilde Domin
GanwydHildegard Dina Löwenstein Edit this on Wikidata
27 Gorffennaf 1909 Edit this on Wikidata
Cwlen Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 2006 Edit this on Wikidata
Heidelberg Edit this on Wikidata
Man preswylCologne-Innenstadt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Bonn Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, ysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
PriodErwin Walter Palm Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Ida-Dehmel-Literaturpreis, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Gwobr Roswitha, Gwobr Droste, Q1596394 Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen a Gweriniaeth Dominica oedd Hilde Domin (27 Gorffennaf 1909 - 22 Chwefror 2006) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, cyfieithydd a nofelydd. Fe'i hystyrir fel y bardd Almaeneg pwysicaf yn ei chyfnod. Newiddiodd ei henw-awdur i 'Hilde Domin' yn o barch i Weriniaeth Dominica, yr unig wlad a'i chroesawodd hi a'i gŵr, wrth iddynt geisio ffoi oddi wrth y Natsiaid.[1][2][3][4][5]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Ganed Hildegard Löwenstein (a newidiodd ei henw'n ddiweddarach i Hilde Palm) yn Cwlen, yr Almaen a bu farw yn Heidelberg, eto yn yr Almaen, ac fe'i claddwyd gerllaw yn Bergfriedhof. Roedd yn ferch i Eugen Löwenstein, cyfreithiwr ac Iddew Almaenig.

Rhwng 1929 a 1932 astudiodd ym Mhrifysgol Heidelberg, Prifysgol Cologne, Prifysgol Bonn, a Phrifysgol Humboldt yn Berlin. Astudiodd y gyfraith i ddechrau, ac yn ddiweddarach newidiodd ei harbenigedd i economeg, y gwyddorau cymdeithasol ac athroniaeth. Ymhlith ei hathrawon roedd Karl Jaspers a Karl Mannheim.

Rhyfel[golygu | golygu cod]

O ganlyniad i'r gwrth-semitiaeth gynyddol egnïol yn yr Almaen Natsïaidd, ymfudodd i'r Eidal yn 1932 gyda'i ffrind (a'i gŵr yn y ddiweddarach) Erwin Walter Palm a oedd yn awdur ac yn fyfyriwr archaeoleg. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn gwyddoniaeth wleidyddol yn Fflorens yn 1935 a gweithiodd fel athrawes iaith yn Rhufain o 1935 i 1939. Priododd ac Erwin Walter Palm yn 1936. Gydag ymweliad Hitler â Rhufain ac awyrgylch chwerw yr Eidal ffasiynol dan Mussolini ysgogwyd y pâr ifanc i ymfudo unwaith eto.

Yn 1939 aethant i Loegr lle bu'n gweithio fel athrawes iaith yng Ngholeg St Aldyn. Doedd ofnau Hilde am y bygythiad Natsïaidd ddim wedi gwanhau, a cheisiodd y cwpwl gael fisa i unrhyw genedl yn America. Ni roddodd unrhyw un o'u gwledydd dewisol (yr Unol Daleithiau, Mecsico, yr Ariannin a Brasil) fisa iddynt, tra bod rhai yn codi tâl afresymol, nad oedd ganddynt. Yr unig wlad i'w croesawu yn ddiamod oedd Gweriniaeth Dominica, lle ymfudodd y ddau yn 1940.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd. [6][7][8]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Teilyngdod Gogledd Rhine-Westphalia (1988), Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg (1990), Gwobr y Wladwriaeth: Gogledd Rhine-Westphalia (1999), Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (1983), Ida-Dehmel-Literaturpreis (1968), Gwobr Nelly Sachs (1983), Gwobr Jakob-Wassermann am Lenyddiaeth (1999), Medal Carl Zuckmayer (1992), Gwobr Friedrich-Hölderlin (1992), Gwobr Roswitha (1974), Gwobr Droste (1971), Q1596394[9] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_98. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022. https://www.deutsche-biographie.de/dbo031456.html#dbocontent. dyddiad cyrchiad: 1 Chwefror 2023.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.theguardian.com/news/2006/mar/16/guardianobituaries.bookscomment1.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: http://books.guardian.co.uk/obituaries/story/0,,1731974,00.html. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12022208n. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Hilde Domin". "Hilde Domin". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015
  7. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/151514. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 151514.
  8. Anrhydeddau: https://www.hoelderlin-gesellschaft.de/website/de/friedrich-hoelderlin/hoelderlin-preise. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2021.
  9. https://www.hoelderlin-gesellschaft.de/website/de/friedrich-hoelderlin/hoelderlin-preise. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2021.