Neidio i'r cynnwys

Hil-laddiad Gaza

Oddi ar Wicipedia
Hil-laddiad Gaza
Delwedd:Damage in Gaza Strip during the October 2023 - 33.jpg, Truck with humanitarian aid drives down ramp to roll-on, roll-off ship, Gaza 240517-N-KL617-1080.jpg
Enghraifft o:hil-laddiad, accusation, humanitarian crisis Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebHamas genocide accusation Edit this on Wikidata
Lladdwyd44,580, 47,161 Edit this on Wikidata
Rhan oPalestinian genocide accusation Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
LleoliadLlain Gaza Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina, Israeli-occupied territories Edit this on Wikidata
Ambiwlans Palesteinaidd ar ôl ymosodiad o'r awyr gan Israel

Cyhuddwyd Israel o gyflawni hil-laddiad yn erbyn y Palesteiniaid yn Llain Gaza yn ystod goresgyniad ac ymgyrch fomio fel rhan o Ryfel Gaza, a gychwynnodd yn Hydref 2023. Mae sawl llywodraeth, nifer o sefydliadau rhyngwladol, ac arbenigwyr ar hawliau dynol a chyfraith ryngwladol, gan gynnwys rhai o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, yn ystyried gweithredoedd Israel yn ddigonol i dorri'r Confensiwn ar Atal a Chosbi Trosedd Hil-laddiad (CPPCG), ac felly'n groes i'r gyfraith droseddol ryngwladol. Yn ôl Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol (OHCHR), mae tystiolaeth o fwriad hil-leiddiol i ddifa'r Palesteiniaid dan feddiannaeth filwrol, gan gynnwys datganiadau cyhoeddus dros "ail Nakba" a defnydd arfau pwerus heb wahaniaethu rhwng sifiliaid a rhyfelwyr, gan achosi marwolaeth a dinistr ar raddfa enfawr.[1][2] Cyhoeddwyd adroddiadau gan Amnest Rhyngwladol ac Human Rights Watch (HRW), y ddau brif gorff gwarchod anllywodraethol dros hawliau dynol yn y byd, ill dau yn dod i'r casgliad bod digon o dystiolaeth i gyhuddo Israel o hil-laddiad yn ei hymgyrch filwrol yn Llain Gaza.[3] Mae Pwyllgor Arbennig y Cenhedloedd Unedig i Archwilio Arferion Israel yn Effeithio ar Hawliau Dynol y Palesteiniaid (UNSCIIP), ac Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar y Tiriogaethau Palesteinaidd Meddianedig,[4] wedi dyfynnu datganiadau gan uwchswyddogion o lywodraeth a lluoedd arfog Israel sydd o bosib yn dangos "bwriad i ddifa" poblogaeth Gaza, i gyd neu mewn rhan, sef un o'r amodau sydd angen i gyrraedd trothwy cyfreithiol y drosedd o hil-laddiad.[1][5][6]

Erbyn canol Awst 2024, cyhoeddwyd bu farw o leiaf 40,000 yn Llain Gaza o ganlyniad i weithredoedd lluoedd arfog Israel, hynny yw, 1 o bob 59 o'r boblogaeth, ar gyfartaledd o 148 o farwolaethau bob dydd. Sifiliaid ydy'r mwyafrif o'r meirw,[7][8] ac o'r rheiny mae o leiaf 50% yn fenywod a phlant.[9][10] O gymharu â rhyfeloedd a gwrthdrawiadau milwrol diweddar eraill ar draws y byd, mae'r niferoedd o newyddiadurwyr, gweithwyr dyngarol ac iechyd, a phlant sydd wedi eu lladd ymhlith y niferoedd uchaf.[11] Credir bod miloedd rhagor o gyrff meirw o dan adfeilion yr adeiladau a ddinistriwyd gan luoedd Israel.[8][12] Mae The Lancet wedi amcangyfrif mwy na 70,000 o farwolaethau o ganlyniad i anafiadau trawmatig.[13] Mae dros 100,000 o bobl wedi eu hanafu,[14] ac mae Gaza yn gartref i fwy o blant trychedig y pen nag unrhywle arall yn y byd.[15] Erbyn Awst 2024, dim ond 17 o'r 36 o ysbytai yn Gaza a oedd yn weithredol;[16] mae 84% o'r canolfannau iechyd yn y diriogaeth wedi eu difrodi neu ddinistrio'n llwyr.[17] Achoswyd newyn o ganlyniad i'r blocâd a orfodwyd ar y Llain gan Israel, a chafodd rhai cyflenwadau cymorth eu rhwystro a'u hymosod gan sifiliaid o Israel wrth geisio croesi'r ffin. Ar ddechrau'r rhyfel, cafodd cyflenwadau dŵr a thrydan i Gaza eu torri gan Israel. Mae Israel hefyd wedi dinistrio nifer o adeiladau diwylliannol pwysig, gan gynnwys pob un o'r 12 brifysgol yn Gaza, 80% o'r ysgolion,[18][19] a nifer o fosgiau, eglwysi, amgueddfeydd, a llyfrgelloedd.[20]

Ar 29 Rhagfyr 2023, dygwyd achos gan lywodraeth De Affrica yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) yn erbyn Israel, gan gyhuddo'r wlad o dorri'r Confensiwn Hil-laddiad. Cyhoeddodd yr ICJ ddyfarniad cychwynnol i ddatgan bod De Affrica â hawl i ddwyn yr achos yn erbyn Israel, ac i gydnabod hawl y Palesteiniaid i amddiffyniad rhag hil-laddiad.[21] Gorchmynnodd y llys i Israel gyflawni ei hymrwymiadau i'r Confensiwn Hil-laddiad drwy wneud popeth yn ei gallu i atal gweithredoedd hil-leiddiol, i gosbi'r rhai sy'n annog hil-laddiad, ac i ganiatau gwasanaethau dyngarol sylfaenol i mewn i Gaza.[22][23] Ym Mai 2024, gorchmynnodd y llys i Israel gynyddu cymorth dyngarol yn Gaza ac i atal gweithredoedd hil-leiddiol yn ystod yr ymosodiad ar Rafah.[24][25] Gwrthodwyd y cyhuddiadau gan lywodraeth Israel.[23]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Gaza: UN experts call on international community to prevent genocide against the Palestinian people". OHCHR. 16 Tachwedd 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2023.
  2. Burga 2023; Corder 2024; Quigley 2024
  3. Amnesty International report 2024, t. 13
  4. Francesca Albanese (26 Mawrth 2024) (yn en), Anatomy of a Genocide – Report of the Special Rapporteur on the situation of human rights in the Palestinian territories occupied since 1967, Francesca Albanese, Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol, Wikidata Q125152282, https://www.ohchr.org/sites/default/files/documents/hrbodies/hrcouncil/sessions-regular/session55/advance-versions/a-hrc-55-73-auv.pdf
  5. Burga 2023; Soni 2023, t. 81
  6. "International Expert Statement on Israeli State Crime". statecrime.org. International State Crime Initiative. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2024. Cyrchwyd 4 Ionawr 2024.
  7. Schwarz, Franziska (16 August 2024). ""Düsterer Meilenstein": UN benennt Zahl der täglichen Toten im Gazastreifen" ["Gloomy milestone": UN names number of daily deaths in the Gaza Strip]. Frankfurter Rundschau (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 August 2024. Cyrchwyd 19 August 2024.
  8. 8.0 8.1 Tantesh, Malak A.; Graham-Harrison, Emma (15 August 2024). "Gaza rubble likely to conceal untold horrors to swell 40,000 death toll". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 August 2024. Cyrchwyd 19 August 2024.
  9. Spagat, Mike (28 May 2024). "Gaza Ministry of Health releases detailed new casualty data amidst confusion of UN's death numbers in Gaza". Action On Armed Violence (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2024.
  10. Graham-Harrison, Emma (25 Chwefror 2024). "Gaza death toll set to pass 30,000, as Israel prepares assault on Rafah". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2024.
  11. Massoud, Bassam; Fick, Maggie (23 Rhagfyr 2023). "Gaza death toll: why counting the dead has become a daily struggle". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Ionawr 2024.
  12. Jamaluddine, Zeina; Abukmail, Hanan; Aly, Sarah; Campbell, Oona M. R.; Checchi, Francesco (9 Ionawr 2025). "Traumatic injury mortality in the Gaza Strip from Oct 7, 2023, to June 30, 2024: a capture–recapture analysis". The Lancet (Elsevier). doi:10.1016/S0140-6736(24)02678-3.
  13. Khadder, Kareem; Haq, Sanna Noor (22 Hydref 2024). "More than 100,000 Palestinians have been injured in Gaza since last October, according to health ministry". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Tachwedd 2024.
  14. "Gaza: 'Sickening normalisation' of suffering, amid attacks on people and aid convoys". UN News. United Nations. 13 Rhagfyr 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2024.
  15. "Reported impact snapshot | Gaza Strip, 28 August 2024 at 15:00". OCHA. 28 August 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Medi 2024.
  16. Neuman, Scott; Baba, Anas; Wood, Daniel (1 Mehefin 2024). "In Gaza, months of war have left Palestinians with barely the necessities to survive". NPR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Awst 2024.
  17. "UN experts deeply concerned over 'scholasticide' in Gaza". Office of the United Nations High Commissioner for Human Rights. United Nations. 18 Ebrill 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Ebrill 2024.
  18. Stack, Liam; Shbair, Bilal (6 Mai 2024). "With Schools in Ruins, Education in Gaza Will Be Hobbled for Years". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Gorffennaf 2024.
  19. Donoghue 2024, 5:10; Order, S. Afr., No. 192 (ICJ 26 Ionawr 2024), ¶ 54
  20. Simon, Scott; Peralta, Eyder (27 Ionawr 2024). "ICJ finds genocide case against Israel 'plausible', orders it to stop violations". NPR (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2024. Cyrchwyd 28 Ionawr 2024.
  21. 23.0 23.1 Casciani, Dominic (16 Mai 2024). "Israel-Gaza: What did the ICJ ruling really say?". BBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2024. Cyrchwyd 17 Mai 2024.
  22. Casciani, Dominic (28 Mai 2024). "Israel-Gaza: What does ICJ ruling on Israel's Rafah offensive mean?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2024.
  23. Marsi, Federica; Siddiqui, Usaid; Motamedi, Maziar (28 Mawrth 2024). "ICJ orders Israel to stop preventing 'delivery of urgently needed' aid". Al Jazeera. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ebrill 2024. Cyrchwyd 2 Ebrill 2024.