Heuldro'r gaeaf
| Heuldro'r gaeaf | |
|---|---|
Machlud haul yng Nghôr y Cewri yn Lloegr adeg heuldro'r gaeaf yn Hemisffer y Gogledd | |
| Hefyd a elwir | Canol y Gaeaf; y Dydd Byrra; y Noson Hira |
| Cedwir gan | Nifer o ddiwylliannau |
| Math | Diwylliannol, seryddol |
| Arwyddocâd | Dechrau diwrnodau cynyddol neu nosweithiau ciliol |
| Dathliadau | Gŵyl wledda |
| Dyddiad | 21 neu 22 Rhagfyr (Hemisffer y Gogledd) neu 20 neu 21 Gorffennaf (Hemisffer y De) |
| Duration | 1 diwrnod |
| Dathliadau tebyg | Gwyliau'r gaeaf |
| digwyddiad | Cyhydnos | Heuldro | Cyhydnos | Heuldro | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| mis | Mawrth[3] | Mehefin[4] | Medi[5] | Rhagfyr[6] | ||||
| blwyddyn | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser |
| 2021 | 20 | 09:37 | 21 | 03:32 | 22 | 19:21 | 21 | 15:59 |
| 2022 | 20 | 15:33 | 21 | 09:14 | 23 | 01:04 | 21 | 21:48 |
| 2023 | 20 | 21:25 | 21 | 14:58 | 23 | 06:50 | 22 | 03:28 |
| 2024 | 20 | 03:07 | 20 | 20:51 | 22 | 12:44 | 21 | 09:20 |
| 2025 | 20 | 09:02 | 21 | 02:42 | 22 | 18:20 | 21 | 15:03 |
| 2026 | 20 | 14:46 | 21 | 08:25 | 23 | 00:06 | 21 | 20:50 |
| 2027 | 20 | 20:25 | 21 | 14:11 | 23 | 06:02 | 22 | 02:43 |
| 2028 | 20 | 02:17 | 20 | 20:02 | 22 | 11:45 | 21 | 08:20 |
| 2029 | 20 | 08:01 | 21 | 01:48 | 22 | 17:37 | 21 | 14:14 |
| 2030 | 20 | 13:51 | 21 | 07:31 | 22 | 23:27 | 21 | 20:09 |
| 2031 | 20 | 19:41 | 21 | 13:17 | 23 | 05:15 | 22 | 01:56 |
Mae heuldro'r gaeaf, neu'r heuldro gaeafol, yn digwydd pan fo naill pegwn y ddaear neu'r llall yn cyrraedd ei ogwydd mwyaf i ffwrdd o'r Haul. Mae hyn yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, unwaith ym mhob hemisffer (y Gogledd a'r De). I'r hemisffer hwnnw, y dydd gyda'r cyfnod lleiaf o olau dydd a nos hiraf y flwyddyn yw heuldro'r gaeaf, a phan fo'r Haul ar ei arc isaf yn yr awyr.[7] Ym mhob cylch pegynol, mae düwch parhaol neu gyfnos adeg heuldro'r gaeaf. Yr heuldro arall yw heuldro'r haf, sy'n digwydd ar yr yn amser yn yr hemisffer arall.
Yn y Gymraeg, mae rhai yn defnyddio'r term Alban Arthan. Iolo Morganwg a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Arthan') ar ddiwedd y 18g i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr enw Cymraeg Canol am yr ŵyl oedd Calan Nadolig. Dyma gyfnod o wledda mawr yn y llys a thai'r bonedd ac un o wyliau pwysicaf beirdd Cymru'r Oesoedd Canol. Yr enw Saesneg traddodiadol yw Yule a cheir enwau cytras yn yr ieithoedd Germanaidd eraill.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ United States Naval Observatory (4 Ionawr 2018). "Earth's Seasons and Apsides: Equinoxes, Solstices, Perihelion, and Aphelion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 18 Medi 2018.
- ↑ "Cyhydnosau a Heuldroau: 2001 i 2100". AstroPixels.com. 20 Chwefror 2018. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2018.
- ↑ Équinoxe de printemps entre 1583 et 2999
- ↑ Solstice d’été de 1583 à 2999
- ↑ Équinoxe d’automne de 1583 à 2999
- ↑ Solstice d’hiver
- ↑ Shipman, James; Wilson, Jerry D.; Todd, Aaron (2007). "Section 15.5". An Introduction to Physical Science (arg. 12th). Boston: Houghton Mifflin. t. 423. ISBN 978-0-618-92696-1.