Herman Lamm
Herman Lamm | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1890 Kassel |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1930 Sidell |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | person milwrol |
Tad | Martin Lamm |
Lleidr banc Almaenig-Americanaidd oedd Herman K. Lamm (19 Ebrill 1890 – 16 Rhagfyr 1930),[1][2][3] a elwir yn Baron Lamm. Ystyrir yn un o'r lladron banciau mwyaf campus ac effeithlon erioed, ac yn "dad y lladrad banc modern".[4] Cafodd technegau Lamm eu hastudio a'u hefelychu gan ladron banciau eraill ar draws yr Unol Daleithiau, gan gynnwys John Dillinger.
Cyn-aelod o Fyddin Prwsia oedd Lamm a ymfudodd i'r Unol Daleithiau, a chredodd bod angen cynllunio ysbeiliad yn debyg i ymgyrch filwrol. Arloesodd y dulliau o lygadu (Saesneg: casing) banc a llunio llwybrau dianc cyn y lladrad. Llwyddodd Lamm i ysbeilio dwsinau o fanciau gan ddefnyddio'i system gynllunio fanwl gywir, "Techneg Lamm", o ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hyd 1930 pan laddodd ei hunan yn Sidell, Illinois, wedi lladrad aflwyddiannus.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1] Archifwyd 2011-07-11 yn y Peiriant Wayback World War One Draft Registration Card
- ↑ Sifakis, Carl (2001). The Encyclopedia of American Crime. 2 (arg. 2). New York City, New York: Facts on File. t. 509. ISBN 0-8160-4634-4.
- ↑ Helmer, William J.; Mattix, Rick (1998). Public Enemies: America's Criminal Past, 1919–1940. New York City, New York: Facts on File. t. 17. ISBN 0-8160-3160-6.
- ↑ Diehl, William (1991). The Hunt. Ballantine Books. t. 204. ISBN 0-345-37073-2.
- ↑ Rushville Republican. 18 Rhagfyr 1930. t. 1. Missing or empty
|title=
(help)