Herbert Bowden, Barwn Aylestone

Oddi ar Wicipedia
Herbert Bowden, Barwn Aylestone
Ganwyd20 Ionawr 1905 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1994 Edit this on Wikidata
Worthing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, cadeirydd, cadeirydd, Arweinydd y Tŷ Cyffredin Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd y Gwir Anrhydeddus Herbert William Bert Bowden, Barwn Aylestone, CH, CBE, PC (20 Ionawr 1905 - 30 Ebrill 1994) yn wleidydd Llafur.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bowden yng Nghaerdydd, yr hynaf o 11 plant Herbert Henwood Bowden, pobydd a Henrietta (née Gould) ei wraig. Gadawodd yr ysgol yn ifanc wedi derbyn dim ond addysg elfennol er mwyn gweithio mewn shop. Fe fentrodd i’r maes masnachu ar ei liwt ei hun gan agor siop gwerthu baco, ond bu i’r fenter methu. Wedi i’w busnes methu symudodd i Gaerlŷr lle cafodd swydd fel gwerthwr setiau radio.[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ymunodd Bowden a’r Blaid Lafur Annibynnol yng Nghaerdydd. Wedi symud i Gaerlŷr ymunodd a’r Blaid Lafur.

Gwasanaethodd fel cynghorydd Llafur ar Gyngor Dinas Caerlŷr rhwng 1938 a 1945 ac fel llywydd Plaid Lafur Caerlŷr ym 1938.[3]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd fel Heddwas Milwrol ac wedyn fel swyddog gweinyddol yn y Llu Awyr Brenhinol gan godi i reng swyddog hedfan. Fe'i hetholwyd yn etholiad cyffredinol 1945 fel Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Dde Caerlŷr. Diddymwyd etholaeth Dde Caerlŷr ar gyfer etholiad cyffredinol 1950 a safodd Bowden yn etholaeth newydd De-orllewin Caerlŷr gan gipio’r sedd.

Penodwyd Bowden yn Ysgrifennydd Preifat i’r Postfeistr Cyffredinol ym 1947 ac yn chwip ym 1949. Fe’i dyrchafwyd yn Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys ym 1950, sef un o’r dirprwyon i brif chwip y llywodraeth. Pan gollodd Llafur etholiad 1951 fe’i penodwyd yn Ddirprwy Brif Chwip ac yna’n Prif Chwip yr wrthblaid gan gadw’r swydd hyd ddychwelyd Llafur i rym ym 1964.[4]

Ym 1964, penodwyd Bowden yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin ac Arglwydd Lywydd y Cyngor. Ym 1966 fe'i symudwyd i swydd newydd sef Ysgrifennydd Gwladol Materion y Gymanwlad, gan wasanaethu hyd 1967.[5]

Ar 20 Medi 1967, cafodd ei greu yn Arglwydd am oes gan ddefnyddio’r teitl Y Barwn Aylestone, o Aylestone yn Ninas Caerlŷr a daeth yn gadeirydd yr Awdurdod Teledu Annibynnol.

Ymunodd â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol ym 1981 gan wasanaethu am flwyddyn fel arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi. Gwasanaethodd fel is lefarydd Tŷ’r Arglwyddi o 1984 i 1992. Wedi ymddeol o’i swydd fel is lefarydd eisteddodd yn y tŷ fel aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Penodwyd Bowden yn aelod o’r Cyfrin Gyngor ym 1962. Penodwyd ef yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau’r Coroni 1953 ac yn aelod o Orchymyn Cymdeithion Anrhydedd yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1975. Derbyniodd Medal Aur Y Gymdeithas Teledu Frenhinol am ei waith gyda’r Awdurdod Teledu Annibynnol.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ar 4 Ebrill 1928 priododd Bowden a Louisa Grace, merch William Brown, gweithiwr yn nociau Caerdydd, bu iddynt un ferch. Ym mis Gorffennaf 1976 ceisiodd John Clayton, cymydog i’r Arglwydd Ayleston, ysgaru Vera, ei wraig, am odineb. Enwyd Aylestone fel y cydatebydd yn yr achos.[1] Wedi i’w wraig gyntaf marw ym 1992 priododd Mrs Clayton ym 1993.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw'r Arglwydd Ayleston yn ysbyty Worthing o fethiant y galon yn 89 mlwydd oed.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]