Hephaestos
Gwedd
| Enghraifft o: | duw Groeg |
|---|---|
| Rhan o | Deuddeg Olympiad |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03qx2 |
Duw o fytholeg Roeg oedd Hephaestos (Hen Roeg: Ἥφαιστος). Ef oedd noddwr crefftwyr, gofaint, seiri coed, tân, meteleg, gwaith metel, cerflunio a llosgfynyddoedd.
Roedd yn fab i Hera, naill ai ar ei phen ei hun neu gan ei gŵr Zews. Roedd yn gloff. Cafodd ei alltudio o Fynydd Olympos gan ei fam Hera oherwydd ei gloffni;[1] neu, mewn hanes arall, gan Zews am amddiffyn Hera rhagddo.[2]
Hephaestos oedd gof i'r duwiau ar Olympos ac ef a greodd eu holl arfau. Symbolau Hephaestos yw morthwyl gof, einion, a gefel. Yn Rhufain, roedd yn cael ei gyfateb â Fwlcan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Hephaestus", Greek Mythology Link
Y Deuddeg Olympiad
|
|---|
|
Apolon · Aphrodite · Ares · Artemis · Athena · Demeter · Dionysos · Hephaestos · Hera · Hermes · Poseidon · Zews |
