Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn
| Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Mehefin 1875 Paris |
| Bu farw | 14 Mawrth 1905 Monte-Carlo |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dawnsiwr, gwleidydd |
| Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
| Tad | Henry Paget |
| Mam | Blanche Mary Boyd |
| Priod | Lilian Paget |
Arglwydd etifeddol oedd Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn (16 Mehefin 1875 – 14 Mawrth 1905). Un o gartrefi'r teulu oedd y plasdy enfawr Plas Newydd ar Ynys Môn.
Yn ystod ei fywyd byr heriodd syniadau Edwardaidd am ddosbarth cymdeithasol, rhywedd a moesgarwch.
Fe'i cofir fel "The Dancing Duke", yn aml wedi'i gymharu a steil y seren roc Freddie Mercury. Yn 2026 ymddangosodd y ffilm ddrama hanesyddol Madfabulous am y Marcwis.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Mynychodd Ysgol Eton a gwasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Ar farwolaeth ei dad yn 1898, etifeddodd ei deitl ac ystadau’r teulu gyda thua 30,000 erw (120 km2) yn Swydd Stafford, Dorset, Môn, a Swydd Derby, gyda'r incwm blynyddol o £110,000 (cyfwerth â £13 miliwn y flwyddyn yn 2021).
Mae yn cael ei gofio'n bennaf am wastraffu ei etifeddiaeth drwy wario ar fywyd cymdeithasol cyffrous a phrynu dillad a gemwaith drudfawr ac am gynnal partïon grand a pherfformiadau theatrig dros ben lleisri. Ail-enwyd Plas Newydd yn "Anglesey Castle" a newidiodd y capel yno yn theatr 150 sedd o'r enw Theatr Gaiety. Yma cymerodd y brif ran mewn gwisg odidog,
Priododd ei gyfnither Lilian yn 1898 ond fe'i adawodd hi ar ôl dim ond chwe wythnos gan ofyn am ysgariad ychydig wedyn.
Rhywioldeb
[golygu | golygu cod]
Mae ffordd o fyw lliwgar y 5ed Marcwis, ei chwaeth at groeswisgo a chwalfa ei briodas, wedi arwain llawer i dybio ei fod yn hoyw.
Ysgrifennodd Norena Shopland “nad oes fawr o amheuaeth bod yn rhaid cynnwys Henry yn hanes hunaniaeth rhywedd." Ond nid oes unrhyw dystiolaeth o blaid nac yn erbyn ei fod wedi cael unrhyw gariadon o’r naill ryw na’r llall.[1]
Mae’r hanesydd perfformiad Viv Gardner yn credu yn hytrach ei fod yn "narsisydd clasurol: yr unig berson y gallai ei garu oedd ei hun, am ba reswm bynnag".[2]
Mae'r dinistr bwriadol gan ei deulu o'r rhai o'i bapurau, a allai fod wedi setlo'r cwesitiwn ei rywioldeb, wedi gadael unrhyw asesiad yn ddamcaniaethol. Yn ôl Christopher Sykes, nid oedd ganddo perthynas rhywiol gyda'i wraig, a adawodd ar ôl dim ond chwe wythnos.[3]
Trafferth ariannol a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Erbyn 1904, er gwaethaf ei etifeddiaeth a'i incwm, roedd y 5ed Marcwis wedi hel dyledion o £544,000 (£60 miliwn yn 2021) fe'i cyhoeddwyd yn fethdalwr.
Cynhaliwyd cyfres o ocsiwnau a gwerthwyd ei ddillad moethus, tlysau, dodrefn a llawer o'i eiddo araill i dalu credydwyr, gyda'r tlysau yn unig yn dod i £80,000.
Ym 1905, bu farw yn Monte Carlo yn dilyn salwch hir, gyda'i gyn-wraig wrth ei ochr. Dychwelwyd ei weddillion i Eglwys Sant Edwen, Llanedwen, ar stad Plas Newydd ym Môn, i'w claddu.
Trosglwyddwyd y teitl i'w gefnder Charles Henry Alexander Paget, a ddinistriodd holl bapurau'r hen 5ed Marcwis ac a drawsnewidiodd Theatr y Gaiety, roedd wedi adeiladu ym Mhlas Newydd, yn gapel.
O leiaf yn rhannol oherwydd y dyledion y 5ed Marcwis roedd rhaid chwalu prif stad y teulu yn Beaudesert, Swydd Stafford, a'i gwerthu yn y 1930au. Symudodd y teulu Paget i Blas Newydd fel eu cartref parhaol.
Arhosodd Plas Newydd ym meddiant y teulu Paget tan 1976, pan gafodd ei roi i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Heddiw mae'r tŷ a'r gerddi ar agor i'r cyhoedd, ac mae'r tŷ yn cynnwys nifer o ffotograffau o'r 5ed Marcwis mewn gwisg theatrig.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Shopland, Norena (2017). "The Butterfly Dancer". Forbidden Lives: lesbian, gay, bisexual and transgender stories from Wales. Seren Books. ISBN 9781781724101.
- ↑ Gardner, Viv (10 October 2007). "Would you trust this man with your fortune?". The Guardian.
- ↑ Christopher Sykes, The Aristocracy: Born to Rule 1875–1945, BBC, first broadcast 29 January 1997.
- ↑ https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-newydd-house-and-garden/people-and-history-at-plas-newydd