Henry Lawes

Oddi ar Wicipedia
Henry Lawes
Ganwyd5 Rhagfyr 1595, 5 Ionawr 1596 Edit this on Wikidata
Wiltshire Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1662 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Cadeirlan Caersallog Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr o Sais oedd Henry Lawes (bedyddiwyd 5 Ionawr 159621 Hydref 1662) sydd yn nodedig am ei ganeuon continwo.

Ganed yn Dinton, Wiltshire. Ymunodd â'r Capel Brenhinol ym 1626 a fe'i penodwyd yn liwtydd a chanwr brenhinol ym 1631. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer y masc Comus gan John Milton ym 1634, ac mae'n bosib iddo gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y masc Coelum Britannicum gan Thomas Carew hefyd yn yr un flwyddyn. Ym 1636 cydweithiodd â'i frawd, William Lawes, i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y masc The Triumph of the Prince d'Amour gan Syr William Davenant.[1]

Mae'r casgliad Choice Psalmes (1648) yn cynnwys enghreifftiau o'i waith yn ogystal â chyfraniadau gan ei frawd, a soned gyflwynol gan Milton. Collodd Lawes ei swyddi yn y llys brenhinol yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, ond cafodd ei ailbenodi yn sgil yr Adferiad. Ym 1656 cyfansoddodd Lawes gerddoriaeth ar gyfer The Siege of Rhodes gan Davenant. Bu farw yn Llundain yn 66 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Henry Lawes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Mawrth 2021.