Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne
Henri de la Tour d'Auvergne-Bouillon.jpg
Ganwyd11' 'Medi' '1611 Edit this on Wikidata
Sedan Edit this on Wikidata
Bu farw27' 'Gorffennaf' '1675 Edit this on Wikidata
Sasbach Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol Edit this on Wikidata
TadHenri de La Tour d'Auvergne, Duke of Bouillon Edit this on Wikidata
MamCountess Elisabeth of Nassau Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Ysgol Filwrol Saint-Cyr Edit this on Wikidata

Cadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain oedd Henri de La Tour d'Auvergne, vicomte de Turenne, a adnabyddir fel rheol fel Turenne (11 Medi 1611 - 27 Gorffennaf 1675).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Turenne yn Sedan, Ardennes, yn awr yn nwyrain Ffrainc ond yr adeg honno yn dywysogaeth annibynnol. Roedd yn ail fab i Henri de La Tour d'Auvergne, tywysog Sedan a'i wraig Elisabeth o Nassau. Magwyd ef fel Protestant, ond troes at yr Eglwys Gatholig ym 1668.

Yn 1630, daeth yn filwr dros Ffrainc. Yn fuan roedd wedi codi i safle marechal-de-camp, ac yn 1643 penodwyd ef yn Farsial, yna yn 1660 yn Farsial-cyffredinol Ffrainc, un o ddim ond chwech person i ddal y teil yma erioed.

Roedd Turenne yn un o gadfridogion amlycaf y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, a chafodd nifer o fuddugoliaethau pwysig. Lladdwyd ef bron ar ddechrau Brwydr Salzbach yn 1675.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The Army Quarterly (yn Saesneg). William Clowes & Sons, Limited. 1923. t. 35.