Helle Helle
Helle Helle | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Helle Olsen ![]() 14 Rhagfyr 1965 ![]() Nakskov ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Per Olov Enquist, De Gyldne Laurbær, Gwobr Prif Academi Denmarc, Statens Kunstfonds hædersydelse, Gwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Beatrice, Medal Holberg, Montanas Litteraturpris ![]() |

Ysgrifennwr o Ddenmarc yw Helle Helle (Helle Olsen yn wreiddiol, ganwyd 14 Rhagfyr 1965 yn Nakskov, Lolland). Mae ei straeon byrion a nofelau wedi’i chyfieithu i nifer fawr o ieithoedd.
Yn aml yn cael ei ysgrifennu gan ddefnyddio steil minimalaidd ac yn seilio ei straeon ar benodau ym mywydau pobl gyffredin. Enillodd enwogrwydd yn 2005 gyda’i nofel Rødby-Puttgarden. Bellach fe’i hystyrir yn un o awduron mwyaf nodedig llenyddiaeth gyfoes Danaidd.
Yn 2025 cyhoeddwyd Melin Bapur fersiwn Gymraeg o'i llyfr Biler og dyr Biler og dyr (2000) o dan i teitl Ceir ac Anfeiliaid, wedi'i gyfiethau o'r Daneg gan Richard Crowe. [1]
Bywyd a gwaith
[golygu | golygu cod]Magwyd Helle Helle yn ar ynys Lolland. O 1985 i 1987 astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol Copenhagen, ac o 1989 mynychodd Forfatterskolen (Ysgol yr Ysgrifenwyr, Copenhagen). Gweithiodd i Radio Denmarc rhwyng 1990 i 1995 .
Ddwy flynedd ar ôl graddio o'r Ysgol Ysgrifennu, cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf Eksempel på liv (Enghraifft o Fywyd ), cyfansoddiad rhyddiaith arbrofol, o dan yr enw Helle Helle. Ym 1987 cyhoeddodd hi lyfr o dan yr enw Helle Krogh Hansen. Yn y blynyddoedd canlynol derbyniodd amryw o ysgoloriaethau a derbyniodd sawl gwobr. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hus og hjem (Tŷ a Chartref ) yn 1999.
Yn 2002 cyhoeddodd ei llyfr Forestillingen om et unkompliceret liv med en mand (Y syniad o fywyd anghymhleth gyda dyn ), ac ei thrydedd nofel, Rødby-Puttgarden yn 2025. Am Rødby-Puttgarden, derbyniodd Helle Helle, ymhlith gwobrau eraill, Prif Wobr Beirniaid Denmarc. Yn 2008 cyhoeddwyd y nofel Ned til hundene (I lawr at y cŵn ). [2]
Ym mis Mawrth 2011 cynrychiolodd ei gwlad yn Ffair Lyfrau Paris. Enwebwyd ei llyfr 2014 Hvis det er (Os ydyw) ar gyfer Gwobr Llenyddiaeth Cyngor Nordig yn 2015. [3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Price, Stephen (2025-04-27). "Contemporary Danish author's Short Stories translated into Welsh". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-30.
- ↑ "Helle Helle". www.hellehelle.net. Cyrchwyd 2025-04-30.
- ↑ "Helle Helle". www.hellehelle.net. Cyrchwyd 2025-04-30.