Neidio i'r cynnwys

Heliwr (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Heliwr
Enghraifft o:cyfres ddrama i deledu
GolygyddJohn Gillanders, Glyn Shakeshaft
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg
Dechreuwyd13 Tachwedd 1994 Edit this on Wikidata
Daeth i ben6 Medi 2002 Edit this on Wikidata
Genrecyfres ddrama deledu Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCymru Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrPeter Edwards, Gwennan Sage, Arwel Davies, Hugh Thomas, Ceri Sherlock, Ed Thomas Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrDafydd Huw Williams
Cwmni cynhyrchuLluniau Lliw Cyf.
CyfansoddwrMark Thomas Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddPeter Thornton
Dynodwyr

Cyfres ddrama dditectif Gymraeg i S4C yw Heliwr neu Yr Heliwr, gafodd ei ffilmio yn Saesneg hefyd, a'i alw'n A Mind to Kill. Mae'r gyfres a gynhyrchwyd gan Lluniau Lliw Cyf. yn ddatblygiad o'r cymeriadau a grëwyd gan Siôn Eirian a Lyn Ebenezer yn y ffilm Noson Yr Heliwr o 1991. Fel y ffilm gyntaf, mae'r gyfres yn canolbwyntio ar y cymeriad DCI Noel Bain, a gaiff ei bortreadu gan Philip Madoc. Darlledwyd pedair cyfres rhwng 1994 a 2002, a ffilm Nadolig yn ogystal. Darlledwyd y sioe gyntaf ar S4C, cyn cael ei darlledu yn Saesneg ar Sianel 5 yn y D.U.

Mae'r gyfres wedi cael ei throsleisio i fwy na 12 o ieithoedd a'i dangos ledled y byd. Wedi'i lleoli yn Ne Cymru, mae'n cynnwys amrywiaeth o dirweddau ôl-ddiwydiannol, gwledig, trefol a glan môr. Mae'r gyfres ar gael i'w phrynu ar DVD.

Bu sawl awdur yng ngofal y sgriptiau gan gynnwys David Joss Buckley, Wil Roberts, Peter Lloyd, Tony Holland a John Maynard, Meic Povey a John Milne.[1]

Cyfres 1

  • Gwisgoedd - Pamela Moore
  • Colur - Carole Williams
  • Cynllunydd - Gerald Murphy (cyfres 1), Jane Roberts, Bill Bryce, (cyfres 2)

Prif Gast Rheolaidd

[golygu | golygu cod]

Cyfres 1

[golygu | golygu cod]

Pennod 1

Lleddir mam ifanc mewn carafan mewn gwersyll gwyliau "White Rocks", ac mae ei mab 7 oed, sydd efallai, wedi bod yn dyst i'r llofruddiaeth, yn dianc. Mewn ymgais i geisio dal y llofrudd ac achub bywyd y plentyn, mae D.C Bain a'i dîm yn ceisio datrys yr achos, gyda chymorth meddwl merch perchennog y gwersyll.

Pennod Cast a Chymeriad
1.
  • John Ogwen - Owen Hailes
  • Meleri Evans - Lisa Hailes
  • Ruth Lloyd - Janice Johnson
  • Owen John - Luke Johnson
  • Gary Llewellyn - Gianni Masocchi
  • Huw Emlyn - Phil White
  • Ri Richards - Cheryl
  • Rhodri Hugh - D.C. Gregory
  • Wyndham Price - Joe
  • Alma Roberts - Mrs Milligan
  • Barbara McGaughey - Madge
  • Steffan Trefor - gwerthwr gwyliau
  • Ruth McDonald - Sheila
  • Anwen Williams - Mrs Fenner
  • Gwynfor Roberts - Mr Fenner
  • Russ Gomer - adeiladwr
  • Nicola Hemsley - Dr Little
  • Sioned Jones Williams - Immaculaia Masocchi
  • Juli Paschalis - Mrs Clarke
  • Dennis Morgan - Mr Clarke
  • Ros Garratt - cymdoges
  • Huw Rees - gŵr ar ei wyliau
  • Martin Geraint - DJ
  • David Life - llanc yn y clwb
  • Guto Dafis - cwsmer meddw

Pennod 2

Pan ddaw corff di-enw llosgedig i'r fei mewn cymuned amaethyddol o'r enw Tregors, daw'r heddlu ar draws isfyd o ryw, cyffuriau a thwyll marwol.

Pennod Cast a Chymeriad
2.

Pennod 3

Ceisia D.C. Bain lonyddwch ymhell o'i broblemau teuluol, wedi i arestiad fynd o'i le, lle lladdwyd dau aelod o deulu enwog o ddrwgweithredwyr.

Pennod Cast a Chymeriad
3.

Pennod 4

Ynghanol streic glowyr chwerw yn ei dref enedigol, daw D.C. Bain wyneb yn wyneb a chyfaill o'i blentyndod sydd erbyn hyn yn arweinydd undebol parchus. Rhaid yw datrys llofruddiaeth putain 17 oed.

Pennod Cast a Chymeriad
4.

Pennod 5

Sect grefyddol sy'n addo gwellhad i'r rhai sy'n dioddef o glefydau marwol sydd dan sylw yn y bennod hon, wrth i lofruddiaeth erchyll ddwyn sylw D. C. Bain a'i dîm.

Pennod Cast a Chymeriad
5.

Pennod 6

Caiff D. C. Bain ei hudo gan bianydd clasurol trwsiadus sydd yn anhapus yn ei phriodas, ac yn dod yn un o'r drwgdybiwyr pan gaiff ei gŵr hi ei lofruddio.

Pennod Cast a Chymeriad
6.
  • Siân Phillips - Rachel Hardcastle
  • Nia Williams - Lucy Allen
  • Richard Elfyn - John Owen Ogmore
  • Peter Gruffydd - Gerald Thrower
  • Owen Garmon - Charles Austin
  • Betsan Jones - D. I. Francis
  • Llinos Haf Williams - Mrs Farr
  • David Barry - Tony Hillyer
  • Gillian Griffiths - Dorah Hillyer
  • Rhiannon Davies - tu ôl i'r Bar
  • Steve Davis - Robert

Cyfres 2

[golygu | golygu cod]

Pennod 1

Darganfydda pysgotwr ddau gorff mewn llyn ger mynydd ar ystad Garth. Tybir mai hunanladdiad dwbl yw marwolaeth y brodyr, ond pan mae llofruddiaeth arall yn cael ei gyflawni ar yr ystad, mae cyfrinachau'r gorffennol yn dod i'r wyneb.

Pennod Cast a Chymeriad
1.

Pennod 2

Caiff corff wedi'i losgi ei ddarganfod mewn car, sy'n tynnu D.S. Bain i ganol helyntion mewn tref gythryblus o'r enw Plas Iolyn.

Pennod Cast a Chymeriad
2.

Pennod 3

Aiff D.S. Bain i weithio'n guddiedig mewn tref glan môr i ganfod llofrudd merch ifanc.

Pennod Cast a Chymeriad
3.

Pennod 4

Dau grŵp ymgyrchu sydd dan sylw yn y bennod hon wrth i Bain geisio datrys llofruddiaeth arall.

Pennod Cast a Chymeriad
4.

Pennod 5

Pennod Cast a Chymeriad
5.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Clawr y DVD Cyfres 1 A Mind To Kill S4C