Helen Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Helen Thomas
Ganwyd 16 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Awst 1989 Edit this on Wikidata (22 oed)
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweithredydd gwleidyddol Edit this on Wikidata

Cafodd Helen Thomas (16 Awst 19665 Awst 1989) ei lladd yng Ngwersyll Greenham pan yrrodd fan geffylau Heddlu Canolbarth Gorllewin Lloegr yn rhy agos ati fel roedd yn sefyll ar ochr y ffordd. Cymraes o Gastell Newydd Emlyn oedd hi a mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi. Roedd yn caru'r iaith a'i diwylliant.

Roedd merched y gwersyll wedi neulltio ardal dawel, i gofio Helen, lle gallai'r merched dreulio amser tawel a myfyrio. Daeth beiliaid Cyngor Dosbarth Newbury a dinistrio'r lle yn bwrpasol.

Cofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Helen Wyn Thomas ar y 16eg o Awst 1966. Aeth hi i Brifysgol Cymru, Llanbed, a graddiodd mewn hanes. Wedi iddi raddio, symudodd i Gaerdydd, a chychwynnodd weithio i Women’s Aid yno, cyn ymddiddori yng Nghwersyll Heddwch Greenham Common.[1] Roedd Helen Wyn Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn.

Bu farw ddau fis wedi iddi symud i’r gwersyll heddwch o anafiadau i’w phen wedi iddi gael ei tharo gan gar heddlu wrth aros i groesi’r ffordd fer y Gât Felen yn y gwersyll. Roedd hi’n 22 mlwydd oed.[2]

Ar ôl cau'r gwersyll, ym mis Medi 2000 penderfynwyd codi safle goffa a hanesyddol yno gan gynnwys Gardd Goffa Helen.

Yn 2010, cynhaliwyd gwasanaeth i’w chofáu yn Greenham Common. Yn 2011, gosodwyd mainc yng Nghastell Newydd Emlyn i’w chofáu. Ysgrifennodd Dafydd Iwan ei gân, ‘Can i Helen’ amdani.[3]

Cyfeiriadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.