Heigiad llau pen

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r heigiad. Ar gyfer y pryfetyn gweler Llau pen.
lleuen benywaidd

Heigiad,[1] llau pen yw cyflwr lle fydd pryfed parasitig o’r enw Pediculus humanus capitis, a elwir hefyd yn chwain, yn ymsefydlu yng ngwallt y pen a chroen y pen gan fwydo ar waed y pen letyol[2]

Symptomau[golygu | golygu cod]

Prif symptom heigiad llau pen yw crafu croen y pen[3]. Y tro cyntaf i unigolyn cael ei heintio gall cymryd hyd at chwe wythnos i'r cosi cychwyn. Os yw unigolyn yn cael ei heintio eto gall symptomau ddechrau llawer cyflymach. Gallai'r cosi achosi problemau gyda chwsg. Yn gyffredinol, fodd bynnag, nid yw'n gyflwr difrifol. Er bod llau pen yn ymddangos i ledaenu rhai afiechydon eraill yn Affrica, nid yw'n ymddangos eu bod yn gwneud hynny yn Ewrop neu Ogledd America.

Achos a diagnosis[golygu | golygu cod]

Mae llau pen yn cael eu lledaenu trwy gyswllt uniongyrchol â gwallt rhywun arall sydd eisoes wedi'i heintio. Does dim cysylltiad rhwng cael heigiad o lau a glendid neu lanweithdra. Nid yw anifeiliaid eraill, megis cathod a chŵn, yn chwarae rhan wrth drosglwyddo. Mae llau pen yn bwydo yn unig ar waed dynol ac yn gallu goroesi yn unig ar wallt pen dynol[4].

Mae llau yn mynd trwy dair gradd o ddatblygiad

  • Nedd (nits) yw wyau hirgrwn, melynwyn y llau pen. Mae’r rhain yn ymlynu wrth waelod y gwallt unigol ac yn cymryd tuag wythnos i ddeor.
  • Nymffau yw’r llau newydd ddeor sy’n edrych fel oedolion, ond sy’n llai o faint. Mae’r rhain yn byw ar waed ac yn cymryd tua 7 niwrnod i aeddfedu.
  • Bydd oedolion tua maint hedyn sesame ac mae ganddynt grafangau tebyg i fachau a lliw melynddu i lwydwyn. Gall oedolion fyw am hyd at 30 diwrnod trwy fwydo ar waed[2].

Pan nad yw llau mewn cysylltiad â chorff dynol, ni allant fyw y tu hwnt i dridiau.

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r GIG yn awgrymu peidio ymweld â meddyg teulu efo achosion o lau ond i drin eich hun gydag offer a meddyginiaethau sydd ar gael dros y cownter mewn siopau[3]. Os oes angen cyngor neu wybodaeth bellach am driniaeth y person gorau i holi yw fferyllydd.

Dylid Trin llau pen cyn gynted ag y byddent yn cael eu gweld. Dylid gwirio pawb yn y tŷ a'u trin ar yr un diwrnod os oes ganddynt lau. Does dim rhaid cadw plant o'r ysgol os oes ganddynt lau.

Gellir defnyddio golchdrwythau neu chwistrellau meddygol i ladd y llau. Mae modd eu prynu o fferyllfeydd, archfarchnadoedd neu ar-lein. Bydd y llau yn farw o fewn dirnod. Fel arfer bydd y meddyginiaethau yn dod gyda chrib man i'w defnyddio i gael gwared â llau marw ac wyau. Bydd raid ail ddefnyddio ambell i driniaeth ar ôl wythnos er mwyn lladd unrhyw lau sydd wedi deor ers y driniaeth gyntaf.

I osgoi triniaeth gemegol gellir defnyddio crib chwain pwrpasol ar wallt gwlyb i ddal y llau.

Does dim prawf bod triniaethau amgen megis olew llwyn te, olew lafant nac olew ewcalyptws yn gweithio[3].

Cyffredinoled[golygu | golygu cod]

Mae heigiadau llau pen yn gyffredin iawn, yn enwedig ymysg plant[5]. Yn Ewrop, maent yn effeithio rhwng 1 a 20% o wahanol grwpiau o bobl. Yn yr Unol Daleithiau, mae rhwng 6 a 12 miliwn o blant yn cael eu heintio flwyddyn. Maent yn digwydd yn amlach mewn merched na bechgyn.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. GPC Heigiad adalwyd 28 Chwefror 2018
  2. 2.0 2.1 GIG Cymru - Llau Pen adalwyd 28 Chwefror 2018
  3. 3.0 3.1 3.2 NHS Choices - Head lice and nits adalwyd 28 Chwefror 2018
  4. Feldmeier, H (Sep 2012). "Pediculosis capitis: new insights into epidemiology, diagnosis and treatment.". European Journal of Clinical Microbiology & Infectious Diseases 31 (9): 2105–10. doi:10.1007/s10096-012-1575-0. PMID 22382818.
  5. Smith, CH; Goldman, RD (Aug 2012). "An incurable itch: head lice.". Canadian Family Physician 58 (8): 839–41. PMC 3418981. PMID 22893334. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3418981.