Hawl i aros yn ddistaw

Oddi ar Wicipedia

The right to remain silent is a legal right recognized, explicitly or by convention, in many of the world's legal systems.

Yr hawl i aros yn ddistaw yw'r hawl sydd gan berson sydd dan amheuaeth i beidio ag ateb, ac mae'n hawl cyfreithiol, drwy gonfensiwn, mewn llawer o wledydd. Mae'n berthnasol i'r holi a wneir mewn gorsaf heddlu cyn achos cyfreithiol (weithiau, defnyddir y gair 'treial') ac i'r achos ei hun. Fodd bynnag, mae wedi bod yn destun llawer o feirniadaeth yn y Deyrnas Unedig, gan i 'Ddeddf Cyfiawnder Troseddol' a 'Threfn Gyhoeddus 1994' (adrannau 34-39) danseilio'r hawl yn rhannol drwy wahodd y Llys i ddod i 'gasgliadau sydd i'w gweld yn briodol' (inferences as appear proper) os methir ymateb i holi o dan amgylchiadau penodol. Er hynny, nid oes modd dod i gasgliadau yn wyneb distawrwydd os na chaniatawyd i'r sawl dan amheuaeth gael cyngor cyfreithiol.

Mae'r Llysoedd wedi cael eu cyfeirio i beidio â dod i gasgliadau anffafriol o dan amgylchiadau lle cafwyd distawrwydd o ganlyniad i ddibyniaeth ymddangosiadol ar gyngor cyfreithiol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.