Hastings Kamuzu Banda

Oddi ar Wicipedia
Hastings Kamuzu Banda
Ganwyd15 Chwefror 1898 Edit this on Wikidata
Kasungu Edit this on Wikidata
Bu farw25 Tachwedd 1997 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Malawi Malawi
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, meddyg Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Malawi, Prif Weinidog Malawi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMalawi Congress Party Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the Lion Edit this on Wikidata

Arlywydd Malawi o 1966 hyd 1994 oedd Hastings Kamuzu Banda (1896? - 25 Tachwedd 1997).

Ganed Banda i deulu protestannaidd yn Kasungu, yn yr hyn oedd yr adeg honno yn drefedigaeth Brydeinig Nyasaland. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei enedigaeth; dywed rhai ffynonellau ei fod yn 101 oed pan fu farw, eraill 99.

Bu'n astudio yn Ne Affrica, gan weithio mewn cloddfa ddiemwntau i'w ariannu ei hun, yna yn yr Unol Daleithiau. Wedi hyn, aeth i'r Alban i astudio i ddod yn feddyg yng Nghaeredin. Daeth yn flaenor yn Eglwys yr Alban. Yn ddiweddarach, treuliodd flynyddoedd yn gweithio fel meddyg teulu yn Llundain. Roedd yn rhugl yn Saesneg, Ffrangeg, Lladin, Groeg a Hebraeg.

Dechreuodd gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth oherwydd ei wrthwynebiad cryf i ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Nyasaland gan y llywodraeth Brydeinig. Aeth i Ghana yn 1953, yna i Nyasaland yn 1958. Daeth yn arweinydd y cenedlaetholwyr yno, a ffurfiodd blaid wleidyddol, y Malawi Congress Party (MCP).

Daeth yn brif weinidog pan ddaeth Nyasaland yn wlad annibynnol Malawi ar 6 Gorffennaf 1964. Ar 6 Gorffennaf 1966, daeth Malawi yn weriniaeth, gyda Banda yn Arlywydd. Roedd ei lywodraeth yn geidwadol; roedd Malawi yn un o'r ychydig wledydd Affricanaidd i fod a chysylltiadau diplomatig a De Affrica yng nghyfnod Apartheid. Daeth i sylw rhyngwladol hefyd oherwydd ei wrthwynebiad i sgerti byrion gan ferched a gwallt hir gan ddynion.

Erbyn dechrau'r 1990au, roedd gwrthwynebiad i'w ddull awdurdodol o lywodraethu yn cynyddu ym Malawi. Cyfansoddodd esgobion yr Eglwys Gatholig ym Malawi lythyr cyhoeddus yn galw am fwy o ddemocratiaeth, ac yn 1993 cytunodd Banda i ganiatau ffurfio pleidiau eraill heblaw'r MCP. Yn etholiad 1994, gorchfygwyd ef gan Bakili Muluzi o'r United Democratic Front. Bu Banda farw yn 1997 yn Johannesburg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]