Harriet Tubman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Harriet Tubman
Harriet Tubman by Squyer, NPG, c1885.jpg
Ganwyd Araminta Ross Edit this on Wikidata
1820 Edit this on Wikidata
Dorchester County Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
Achos: Niwmonia Edit this on Wikidata
Auburn Edit this on Wikidata
Man preswyl Maryland, Auburn Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, ymgyrchydd pleidlais i ferched, nyrs, gweithredydd dros hawliau dynol Edit this on Wikidata
Priod John Tubman Edit this on Wikidata
Gwobr/au 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland, Neuadd Enwogion New Jersey Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature general affidavit of Harriet Tubman (1898), front.jpg

Cefnogwr diddymu caethwasiaeth ac actifydd gwleidyddol yn America oedd Harriet Tubman (ganed yn Araminta Ross, 29 Ionawr 182210 Mawrth 1913). Ganwyd hi yn gaethwas ond fe ddihangodd a wedyn mynd ati ryw 13 o weithiau i achub tua 70 o gaethweision eraill, gan gynnwys ei theulu a'i chyfeillion.[1] Roedd hi'n defnyddio'r rhwydwaith o actifyddion gwrthgaethwasiaeth a thai diogel o'r enw yr Underground Railroad. Yn nes ymlaen, bu'n helpu'r diddymwr caethwasiaeth John Brown i recriwtio dynion am ei ymosodiad ar Harpers Ferry. Yn ystod Rhyfel Cartref America, gweithiodd fel sgowt ac ysbïwr arfog i Fyddin yr Unol Daleithiau. Tua diwedd ei hoes, roedd Tubman yn actifydd dros y bleidlais i ferched.

Ganwyd hi i gaethwasiaeth yn Dorchester County, Maryland. Arferai gael ei churo a'i chwipio gan ei meistri gwahanol yn ystod ei phlentyndod a chafodd anaf difrifol i'w phen unwaith pan daflodd un perchennog dig bwysyn metel trwm at gaethwas arall ond bwrw Harriet yn ei le. O ganlyniad i hyn, roedd Tubman yn dioddef o'r bendro, poen a phyliau o orgysgu am weddill ei bywyd. Cristnoges ymroddedig oedd hi ac roedd hi'n cael gweledigaethau rhyfedd a breuddwydion bywiog iawn yr oedd hi'n eu priodoli i Dduw.

Yn 1849, dihangodd Tubman i Philadelphia, ac yna dychwelyd yn syth i Maryland i achub ei theulu. Yn raddol a fesul un, daeth â pherthynasau gyda hi allan o'r dalaith, ac yn y pen draw, llwyddodd i helpu ugeiniau o gaethweision eraill i gael eu rhyddid. Oherwydd hyn, câi ei galw'n "Moses". Wrth deithio dros nos yn dawel fach, "ni fu i Tubman golli'r un teithiwr". Wedi i Ddeddf Caethweision Ar Ffo gael ei derbyn yn 1850, helpodd arwain y ffoaduriaid yn bellach i'r gogledd i Ogledd America Prydeinig ac yna dod o hyd i waith iddynt. Cyfarfu Tubman â'r cefnogwr diddymu caethwasiaeth John Brown yn 1858, a gweithiodd gydag ef i gynllunio a recriwtio cefnogwyr ar gyfer yr ymosodiad ar Harpers Ferry.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref, bu i Tubman weithio i Fyddin yr Undeb, fel cogyddes a nyrs yn gyntaf a wedyn fel sgowt ac ysbïwr arfog. Hi oedd y wraig gyntaf i arwain ymgyrch arfog yn y rhyfel, a arweiniodd yn Combahee Ferry ac a ryddhaodd fwy na 700 o gaethweision. Ar ôl y rhyfel, ymddeolodd i'r cartref teuluol a brynodd yn Aurburn, Efrog Newydd, yn 1859 a bu iddi ofalu am ei rhieni oedrannus yno. Roedd hi'n weithgar yn y mudiad i roi'r bleidlais i ferched nes i salwch fynd yn drech na hi ac roedd hi'n gorfod mynd i mewn i'r artref i hen Americanwyr Affricanaidd yr oedd hi wedi helpu i'w sefydlu flynyddoedd gynt. Wedi iddi farw yn 1913, daeth yn eicon o ddewrder a rhyddid i bobl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Larson, p. xvii.