Harbwr
| Math | bae |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03htg |
Ardal o ddŵr ar lan y môr neu lyn wedi'i gwarchod fel y gall cychod a llongau gael lloches rhag dyfroedd garw yw harbwr (ffurfiau lluosog: harbyrau,[1] harbwrs).[2][3] Corff o ddŵr yw harbwr naturiol a ffurfir gan dirffurfiau arfordirol, gan amlaf aberoedd neu fornentydd gorlifedig megis morydau a mornentydd ria (math o ddyffryn tanfor), neu gilfachau megis ffiordau wedi'i gwarchod gan glogwyni. Maent yn cynnig lle llydan gyda dŵr dwfn, tawel ar gyfer mordwyo ac angori. Yn hanesyddol mae dinasoedd pwysig wedi tyfu o amgylch porthladdoedd a godwyd ar harbyrau naturiol. Mae harbwr gwneud neu harbwr artiffisial yn cynnwys adeiladwaith megis morgloddiau, waliau môr, a glanfeydd i ffurfio'r amodau cywir i lochesu a mwrio cychod, neu wedi'i greu drwy garthu'r dŵr a dulliau eraill o beirianneg arfordirol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "harbwr[dolen farw]", BydTermCymru (Llywodraeth Cymru). Adalwyd ar 15 Awst 2025.
- ↑ harbwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 15 Awst 2025.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "harbour".