Neidio i'r cynnwys

Hapnod (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Hapnod
Enghraifft o:rhaglen deledu adloniant ysgafn Cymraeg
Dyddiad cynharaf1981
CyhoeddwrS4C
IaithCymraeg
Cysylltir gydaCefin Roberts a Gwyn Vaughan Jones
Dod i ben1987
Cwmni cynhyrchuBBC Cymru
Dynodwyr

Cyfres deledu adloniant ysgafn o gychwyn y 1980au oedd Hapnod a grëwyd gan Cefin Roberts a'i wraig Rhian, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd, merch y cyfarwyddwr drama a chyfarwyddwr Cwmni Theatr Cymru, Wilbert Lloyd Roberts. Cychwynodd y gyfres fel eitem ar raglen BBC Radio Cymru Hywel Gwynfryn ym 1981, cyn cael ei drosglwyddo i deledu S4C ym 1982 dan ofal Gareth Rowlands.[1]

Cyfres o sgetsus doniol a chaneuon comig a gafwyd, gyda llawer ohonynt yn addasiadau o alawon a chaneuon gan gyfansoddwyr fel Scott Joplin, Ralph Siegel, Jonathan Cohen, Chuck Berry a John Kander, ymysg eraill.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Tra'n gweithio efo Theatr Crwban ar gychwyn 1980au y bu i Ann Llwyd a Cefin Roberts ddechrau meddwl am y greu grŵp canu.[2]

Cafwyd 2 gyfres o 8 rhaglen i S4C rhwng 1982 – 1984 a thaith theatr wedi hynny. Ail-ddarlledwyd y gyfres ym 1992.[2]

Yn 2022, daeth y 4 ynghyd eto i hel atgofion ar BBC Radio Cymru.[2]

Teithiodd y grŵp i Toronto, Canada i berfformio.

Casét

[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd casét o'u caneuon gan Gwmni Sain oedd yn cynnwys:

  • Comedi a Thrasiedi
  • Gyrru a Gwibio
  • Ascot
  • Yr Hen Bazaar yn Cairo
  • Cabaret
  • Dr Roberts a Dr Vaughan
  • Bell, Bell yn Ôl
  • Pâr o Shŵs
  • Colli'r Dydd
  • Ma, Ma Ma Rai' Ni
  • Hangofer Blŵs
  • Sgidie Sglefrio
  • Tair Brenhines mewn Rhes
  • Rwy'n Unig
  • Awr o Hedd
  • Aros am y Doctor
  • Solffa
  • Teledu

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Manylion clawr casét Hapnod BBC Cymru 1982
  2. 2.0 2.1 2.2 "Aled Hughes - Dyddiau cynnar "Hapnod" - BBC Sounds". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-15.