Neidio i'r cynnwys

Hannah Dugan

Oddi ar Wicipedia
Hannah Dugan
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethbarnwr Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a barnwr o Unol Daleithiau America yw Hannah C. Dugan (ganwyd 1959)[1]. Mae'n hanu o Sir Milwaukee, Wisconsin. Cyn ei gwasanaeth barnwrol, treuliodd Dugan ei gyrfa yn gweithio gyda sefydliadau cymorth cyfreithiol. Roedd hi'n gyfarwyddwr gweithredol i sefydliad ar gyfer elusennau Catholig yn nhalaith Wisconsin. Bu'n lywydd ar Gymdeithas Bar Milwaukee hefyd (1999-2000).

Mae hi wedi bod yn Farnwr Llys Cylchdaith Wisconsin ar gyfer Sir Milwaukee ers 2016, ond ers mis Ebrill 2025, mae hi o dan dditiad troseddol ar ôl cael ei harestio gan y Swyddfa Ymchwilio Ffederal (FBI) a’i chyhuddo o gynorthwyo mewnfudwr anghyfreithlon i osgoi cael eu harestio, yn ôl honiadau Cyfarwyddwr yr FBI, Kash Patel.

Graddiodd Dugan o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Wisconsin ym 1987 a bu'n dysgu cyrsiau'r gyfraith ym Mhrifysgol Marquette ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Seattle.[2][3][4]

Ar 18 Ebrill 2025, cyhoeddodd Gorfodaeth Mewnfudo a Thollau yr Unol Daleithiau (ICE) warant i arestio Eduardo Flores-Ruiz, mewnfudwr anghyfreithlon 30 oed o Fecsico a gyhuddwyd o gurfa (misdemeanor battery), ac a oedd i fod i ymddangos yn y llys gerbron Dugan.[5] Yn ôl y Milwaukee Journal Sentinel, hysbysodd Prif Farnwr Cylchdaith Sir Milwaukee, Carl Ashley, Dugan o’r warant hon trwy e-bost, ac ymatebodd Dugan iddo gan ddweud “ni chyflwynwyd gwarant yn y cyntedd ar y chweched llawr”.[6] Yn ôl affidafid a ffeiliwyd gan swyddog FBI i gefnogi’r gŵyn droseddol yn ei herbyn, roedd Dugan “yn amlwg yn ddig” pan glywodd fod swyddogion ICE yn aros y tu allan i’w hystafell llys i arestio Flores-Ruiz. Gohiriodd Dugan wrandawiad Flores-Ruiz a'i gyfarwyddo ef a'i gyfreithiwr i adael trwy allanfa ystafell reithgor breifat yn lle'r fynedfa gyhoeddus.[7][8] Yna gadawodd Flores-Ruiz yr adeilad a ffoi rhag y swyddogion ICE, a aeth ar ei ôl a'i arestio lle mae W. State Street a 10th Street yn croesi. [9] Mae Flores-Ruiz yn cael ei dal yng Nghyfleuster Cadw Dodge yn Juneau.[10]

Ar 25 Ebrill 2025, ymddangosodd Dugan gerbron Barnwr Ynad yr Unol Daleithiau Stephen C. Dries. Cafodd ei chyhuddo o ddau achos ffeloniaeth o rwystro a chuddio unigolyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Read the F.B.I.'s Charging Document" (yn Saesneg). 25 Ebrill 2025.
  2. Habeshian, Sareen (25 Ebrill 2025). "What to know about Wisconsin judge arrested by FBI". Axios (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  3. Gruver, Mead; Bauer, Scott (2025-04-25). "Who is Milwaukee Judge Hannah Dugan?". AP News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-26.
  4. Ramirez, Chris; Gleeson, Cailey (25 Ebrill 2025). "What to know about Hannah Dugan, the Milwaukee judge arrested amid ICE investigation on April 25". Milwaukee Journal Sentinel (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  5. Bice, Daniel; Swales, Vanessa; Ramirez, Chris (23 Ebrill 2025). "Mexican immigrant sought by ICE is apprehended after hearing before a Milwaukee County judge". Milwaukee Journal Sentinel (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  6. Holmes, Isiah (April 24, 2025). "FBI investigating Milwaukee County judge after third courthouse ICE arrest". Wisconsin Examiner. Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  7. Roebuck, Jeremy; Marley, Patrick; Stein, Perry; Berman, Mark; Hsu, Spencer; Hawkins, Derek (25 Ebrill 2025). "Wisconsin judge arrested by FBI, charged with obstructing immigrant arrest". The Washington Post. Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  8. Durkin Richer, Alanna; Shastri, Devi; Bauer, Scott (25 Ebrill 2025). "Milwaukee Judge Hannah Dugan is accused of helping a man evade immigration agents and is arrested". Associated Press (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  9. Breuninger, Kevin (25 Ebrill 2025). "FBI arrests Wisconsin Judge Dugan on obstruction charge, escalates Trump immigration enforcement effort". CNBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.
  10. Diedrich, John; Bice, Daniel (25 Ebrill 2025). "Milwaukee County Circuit Judge Hannah Dugan charged with 2 felonies in ICE case". Milwaukee Journal Sentinel (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Ebrill 2025.