Hanes Sri Lanca

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hanes Sri Lanka)

Mae hanes Sri Lanca yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn i'r Sinhaliaid gyrraedd yr ynys, yn y 6eg ganrif CC. Y trigolion gwreiddiol oedd y Wanniyala-Aetto, a adnabyddir hefyd fel y Veda. Cyhhaeddodd Bwdhaeth yr ynys yn y 3g CC, a datblygodd dinas-wladwriaethau megis Anuradhapura a Polonnaruwa.

Ynfudodd y Tamil yn raddodd o dde India i ogledd yr ynys, ac yn yr 11g, sefydlasant deyrnas o gwmpas Jaffna. Yn 1505 cyhaeddodd y Portiwgeaid, a bu'r ynys yn eu meddiant hyd 1658.Wedyn daeth yr ynys i deddiant yr Iseldiroedd, yna yn 1796 i feddiant Prydain.

Daeth yr ynys yn annibynnol dan yr enw "Ceylon" ar 4 Chwefror 1948. Newidiwyd yr enw i Sri Lanca yn 1972. Tyfodd anghydfod rhwng y Sinhaliaid a'r Tamil yn raddol. Ffurfiwyd Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam, neu'r Teigrod Tamil, ar 5 Mai 1976 gan Velupillai Prabhakaran, gyda'r bwriad o greu gwladwriaeth annibynnol yng ngogledd a dwyrain yr ynys, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn perthyn i grŵp ethnig y Tamil. Sail eu hymdrech am annibyniaeth oedd fod y farn fod y lleiafrif Tamil yn Sri Lanca yn cael eu trin yn annheg gan y mwyafrif Sinhalaidd. Cawsant fesur o gymorth gan y boblogaeth Talil yn Tamil Nadu, India, a chan bobl o dras Tamil mewn rhannau eraill o'r byd.

Datblygodd ymosodiadau'r Teigrod i roi cychwyn i Ryfel Cartref Sri Lanca, a barhaodd hyd nes iddynt gael eu gorchfygu gan luoedd arfog Sri Lanca ym mis Mai 2009. Am gyfnod, roedd y Teigrod yn rheoli rhan helaeth o ogledd a dwyrain yr ynys. Dechreuwyd trafodaethau heddwch nifer o weithiau, y tro olaf yn 2002. Wedi i'r trafodaethau hyn fethu'n derfynol yn 2006, dechreuodd lluoedd arfog Sri Lanca ar ymgyrch fawr yn eu herbyn, ac yn raddol cipiwyd eu tiriogaethau oddi arnynt. Adroddwyd fod Velupillai Prabhakaran wedi ei ladd yn nyddiau olaf yr ymladd.