Hanes Cymru (O M Edwards)

Oddi ar Wicipedia
Hanes Cymru
Yng Ngwlad Arthur (Cyf 1)
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurOwen Morgan Edwards Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1890s Edit this on Wikidata
Genrehanes Edit this on Wikidata

Mae Hanes Cymru yn ddwy gyfrol (Rhan Un a Rhan Dau) am hanes Cymru[1] gan Syr Owen Morgan Edwards. [2] Cyhoeddwyd y penodau'n wreiddiol fel erthyglau unigol yn y Cylchgrawn misol Cymru. Cylchgrawn yr oedd Edwards yn olygydd arni. Argraffwyd yr erthyglau ar ffurf llyfr dwy gyfrol gyntaf gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymraeg Cyf yng Nghaernarfon gyda'r gyfrol gyntaf yn cael ei gyhoeddi ym 1895 a'r ail ym 1899. Bwriad y llyfrau oedd bod yn llawlyfrau i astudio hanes Cymru ar gyfer ysgolion, cyfarfodydd llenyddol a theuluoedd. Rhwng 1899 a 1911 cafwyd 13 argraffiad o'r llyfrau gyda dwy o'r ail argraffiadau wedi eu golygu a'u diwygio. Cyhoeddwyd argraffiad 1911 fel llawlyfr ar gyfer arholiadau hanes Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg gan Fwrdd Arholi Prifysgol Rhydychen.[3]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Rhan un[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol gyntaf yn delio a hanes Cymru o'r cyfnod boreuaf hyd farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 gyda phenodau ar:


Rhan Dau[golygu | golygu cod]

Mae'r ail gyfrol yn trafod y cyfnod ar ôl farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 hyd farwolaeth Gruffydd ap Cynan ym 1137 ac yn cynnwys y penodau:


Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae copïau o destun argraffiad 1911 o'r gyfrol gyntaf ac argraffiad 1899 o'r ail gyfrol ar gael ar Wicidestun.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]