Hanes Asia

Oddi ar Wicipedia
Cysylltodd yr Heol Sidan[1] nifer o wareiddiadau ledled Asia
Asia yn 1200 CE, ychydig cyn yr Ymerodraeth Mongol

Gellir ystyried hanes Asia fel casgliad hanesyddol o nifer o ardaloedd arfordirol unigryw, megis Dwyrain Asia, De Asia a'r Dwyrain Canol a oedd yn cael eu cysylltu gan baith eang mewndirol Ewrasiaidd. Roedd cyrion arfordir Asia yn gartref i rai o wareiddiadau cynharaf y byd, gyda phob un o'r dair ardal yn datblygu gwareiddiadau cynnar o amgylch dyffrynoedd ffrwythlon ger afonydd. Roedd y dyffrynoedd hyn yn ffrwythlon am fod y pridd yno yn cynnwys llawer o opiwm. Gwelwyd sawl tebygrwydd rhwng gwareiddiadau ym Mesopotamia, Dyffryn Indus a Tsieina ac chredir eu bod yn rhannu technoleg a syniadau ymysg ei gilydd megis mathemateg a'r olwyn. Mae'n bur debygol fod elfennau eraill fel ysgrifennu wedi datblygu ymhob ardal. Datblygodd dinasoedd, taleithiau ac ymerodraethau yn yr iseldiroedd hyn.

Bu nomadiaid yn byw ar ardal y paith am gryn o dipyn o amser cyn hyn, ac o'r diffeithdir hyn gallent gyrraedd pob ardal yng nghyfandir Asia. Gwelwyd yr enghraifft gynharaf a wyddir amdano o symud allan o'r diffeithdir hwn gan yr Indo-Ewropeiaid a ledaenodd eu hieithoedd i'r Dwyrain Canol, India ac, yn achos Tochareg, i ffiniau Tsieina. Roedd yn amhosib mynd i ran ogleddol y cyfandir, a oedd yn cynnwys rhannau helaeth o Siberia, oherwydd y fforestydd trwchus a'r twndra. Prin oedd y boblogaeth yn yr ardaloedd hyn.

Cadwyd y canol a'r cyrion ar wahan gan fynyddoedd ac anialdir. Ffurfiai'r Cawcasws, yr Himalaya, Anialwch Karakum ac Anialwch Gobi rwystrau na fyddai marchogion yn medru croesi'n hawdd. Tra bod trigolion y dinasoedd yn fwy datblygedig o safbwynt technolegol a diwylliannol, ni allent wneud llawer o safbwynt milwrol i amddiffyn eu hunain rhag marchogion y paith. Fodd bynnag, nid oedd digon o ardaloedd glaswelltog yn yr iseldiroedd i gynnal byddin mawr o farchogion. O ganlyniad, trechodd y nomadiaid daleithiau yn Tsieina, yr India a'r Dwyrain Canol ac fe'u gorfodwyd i addasu i gymdeithasau lleol.

Map o Asia, 1892

1.83 Miliwn CC[golygu | golygu cod]

Mae archeolegwyr wedi darganfod teclynau carreg ym Maleisia a ddyddiwyd yn 1.83 miliwn o flynyddoedd oed.[2]

9000 CC tan 4500 CC[golygu | golygu cod]

Gwelodd Gorllewin Asia'r newidiad cyntaf i'r ffordd Neolithig o fyw (ffermio mewn un man).

Ystyrir teml yn ne-ddwyrain Twrci yn Göbekli Tepe sydd wedi cael ei ddyddio i 10000 CC, fel dechreuad y diwylliant "Neolithig 1". Datblygwyd y safle hon gan helwyr nomadaidd am nad oedd tai parhaol yn yr ardal. Safle'r deml hon yw'r man addoli hynaf a grëwyd gan ddyn.

Tua 9000 CC, gwelwyd y diwylliant Neolithig datblygedig cyntaf yn y Cilgant Ffrwythlon. Tua 8000 CC ymddangosodd tref gyntaf y byd, Jerico yn y Lefant (y Llain Orllewinol bresennol). Fe'i hamgylchynwyd gan fur garreg a marmor a thrigai poblogaeth o 2000-3000 o bobl yno. Roedd yno dŵr carreg uchel yno hefyd.[3] Mae Jbeil (Byblos), yn y Libanus bresennol, hefyd yn safle cynnar arall. Datblygodd diwylliant Neolithig Jericho yn uniongyrchol o'r diwylliant Epipaleolithic Natufiaidd yn yr ardal, lle'r oedd y bobl yn arloesol o ran tyfu grawnfwydydd gwyllt, a esblygodd dros amser i ffermio gwirioneddol. Erbyn 8500–8000 CC lledodd cymunedau amaethyddol i Anatolia, Gogledd Affrica a gogledd Mesopotamia.

Ar safle cynhanesyddol Beifudi ger Yixian yn nhalaith Hebei, Tsieina, ceir creiriau o ddiwylliant o'r un cyfnod a'r diwylliannau Cishan a Xinglongwa o tua 7000–8000 CC, diwylliannau neolithig i'r dwyrain o Fynyddoedd Taihang, a lenwodd y bwlch archeolegol rhwng dau diwylliant Gogledd Tsieina. Cloddiwyd dros 1,200 medr sgwâr ac mae'r casgliad o ddarganfyddiadau neolithig yn cynnwys dau gyfnod gwahanol.

Tua 5500 CC, ymddangosodd y diwylliant Halafiaidd yn y Levant, Libanus, Palesteina, Syria, Anatolia a gogledd Mesopotamia, a oedd yn dibynnu ar amaethyddiaeth tir sych.

Yn ne Mesopotamia roedd gwastadiroedd llifwaddod. Oherwydd y prinder glaw, roedd system dyfrhau yn angenrheidiol. Datblygodd diwylliant Ubaid o 5500 CC.

Yr Oes Efydd[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y cyfnod calcolithig tua 4500 CC, yna dechreuodd yr Oes Efydd tua 3500 CC, gan gymryd lle'r diwylliannau neolithig.

Roedd Tsieina a Fietnam hefyd yn ganolfannau gwaith metal.

Yr Oes Haearn[golygu | golygu cod]

Rheolodd y brenhinlin Achaemenid o'r Ymerodraeth Persaidd, a sefydlwyd gan Cyrus Fawr, ardal o Wlad Groeg a Thwrci i'r afon Indus a Chanol Asia o'r 6ed tan y 4g CC. Trechodd Alexander Fawr yr ymerodraeth hwn yn ystod y 4g CC. Yn ddiweddarach, byddai'r Ymerodraeth Rhufeinig yn rheoli rhan o Orllewin Asia. Dominyddai brenhinlinoedd y Seleucid, Parthian a Sassanian o Bersia Orllewin Asia am ganrifoedd. Dylanwadwyd ar nifer o wareiddiadau hynafol gan yr Heol Sidan, a gysylltai Tsieina, India, y Dwyrain Canol â Ewrop. Roedd y crefyddau Hindwaeth a Bwdaeth, a ddechreuodd yn yr India, yn ddylanwad pwysig ar dde, dwyrain a de-ddwyrain Asia.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Teithwyr yr Heol Sidan Adalwyd ar 20-05-2009
  2. (Saesneg) Malaysian scientists find stone tools 'oldest in Southeast Asia' Google. Adalwyd ar 20-05-2009
  3. Jericho. Britannica. Adalwyd ar 20-05-2009